Ar ôl penderfynu nad oedd y brifysgol iddo ef a rhoi’r gorau iddi ar ôl chwe mis, ni feddyliodd Fern Church erioed y byddai’n rhedeg ei gwmni ei hun cyn iddo fod yn 30 oed.
Ond dyna’n union y mae’r unigolyn 28 oed yn ei wneud ar ôl lansio Think Local PR, yn Abertawe, yn dilyn cyfnod llwyddiannus o drosglwyddo i hyfforddiant prentisiaeth â chefnogaeth Cwmni Hyfforddiant Cambrian.
Ar ôl iddo adael ei radd Dylunio Graffeg yn gynnar, gweithiodd Fern fel cigydd, porthor cegin a swyddog cadw tŷ cyn i’w angerdd am ddylunio ei dynnu’n ôl i’r diwydiant trwy ddysgu galwedigaethol â chwmni mawr sy’n dylunio, argraffu a dosbarthu taflenni.
“Dechreuais ar y brentisiaeth Defnyddiwr TG Lefel 2 ac o fewn chwe blynedd roeddwn i’n rhedeg busnes marchnata aml-gyfrwng mawr nad oeddwn i erioed wedi meddwl y byddwn i’n gallu ei wneud pan ddechreuais i,” meddai Fern.
Parhaodd â’i hyfforddiant yn y gwaith a sbardunodd ei gynnydd i frig y cwmni cyn ennill Gwobr Arweinydd Cenhedlaeth Nesaf Cymru, a argyhoeddodd ef i fynd amdani ar ei ben ei hun.
“Roedd yn brentis ac aeth ymlaen i dyfu ei yrfa ei hun allan ohono,” eglurodd Fern. “Mae pawb yn cymryd risg pan fyddan nhw’n mynd yn hunangyflogedig ond mae fy mhrofiad dysgu wedi rhoi’r hyder i mi fynd i’r afael â’r her hon yn llwyr.
“Nod sengl Think Local PR lleol yw gwella a hyrwyddo busnesau. Rydym yn cynnig ein gwybodaeth i ddod o hyd i gynulleidfaoedd gwerthfawr a’u creu, ac yn darparu’r pŵer i ymgysylltu â hwy yn y ffordd fwyaf effeithiol trwy greu marchnata o ansawdd uchel. ”
Y llynedd, gwnaeth Fern hefyd ddylunio, datblygu a lansio ei ap ei hun o’r enw Think Deals sy’n rhoi bargeinion gwych i siopwyr ac yn helpu manwerthwyr i arbed ar eu costau marchnata uniongyrchol.
Bellach mae’n parhau i ddatblygu ei sgiliau ei hun ac mae ar fin dechrau ar gwrs Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu (AAT), rhaglen sy’n cael ei chyflwyno gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian (CTC) am y tro cyntaf.
“Mae’r AAT yn gyfle i mi dyfu hyd yn oed ymhellach a deall hanfodion sylfaenol cyllid busnes y gallaf eu defnyddio yn y dyfodol i wella fy nghwmni,” meddai Fern, sy’n annog mwy o bobl i ddilyn ei lwybr trwy hyfforddiant prentisiaeth.
“Yn fwy na dysgu, credaf fod dysgu galwedigaethol yn ffordd wych o ddatblygu a thyfu eich hun. Mae ‘ n sicr wedi rhoi cyfleoedd i mi sydd wedi arwain at lwyddiannau mawr.
“O’r cwrs cyntaf, rhoddodd waith i mi a dewis amgen neis i’r coleg. Wrth i mi wneud prentisiaethau uwch, rhoddodd fwy o wybodaeth a dealltwriaeth i mi, gan roi gweledigaeth i mi o’r hyn y gallwn ei gyflawni.
“Os nad ydych yn siŵr beth i’w wneud, ac mae gennych yr argaeledd i ennill wrth i chi ddysgu, mae hyn yn ddelfrydol i chi. Yn yr un modd, os ydych yn cael eich cyflogi amser llawn ar hyn o bryd, ond dymunwch ddatblygu eich rôl neu hyd yn oed cael dyrchafiad, gall cwrs prentisiaeth eich helpu trwy gynyddu eich gwybodaeth a thrwy wneud hynny newid eich proses o feddwl i ddod yn fwy blaengar.
“Rwy’n ddiolchgar hefyd i’m swyddog hyfforddi, Sheila (Coles), sydd wedi bod yn fentor gwych i mi hefyd. Gyda’i phrofiadau a hanes gwaith tebyg, mae wedi fy helpu ar hyd y ffordd i fy nghael i feddwl am bob uned a’i chysylltu â sut y gallaf wella’r busnes. ”
Mae Fern yn disgrifio ei berthynas â CTC fel “anhygoel” ac ychwanegodd ei fod wedi rhoi cynnig ar sawl darparwr hyfforddiant arall ac “mae’n rhaid I mi ddweud mai Cambrian yw’r gorau o bell ffordd”.
Dywedodd Sheila fod Fern wedi bod yn brentis model ac mae’n disgwyl i’w fusnes ffynnu wrth iddo ymgorffori mwy o’i sgiliau newydd yn y gweithle.
“Bellach rwyf wedi gweithio â Fern am bedair blynedd ac wedi gwylio ei hunanhyder yn tyfu â phob cymhwyster y mae wedi’i ennill,” meddai. “Edrychaf ymlaen at weithio ag ef trwy ei gyfnod nesaf pan rwy’n siŵr y bydd yn cofleidio rhaglen AAT yn yr un ffordd ag y mae wedi’i wneud o’r blaen â’i gyrsiau eraill.”