Mae James Taylor wedi’i enwi’n enillydd rhagbrawf Leeds cystadleuaeth gigyddiaeth Worldskills.
Cafodd y cigydd 21 mlwydd oed (gweler y llun) o Simpsons Butchers yn swydd Lincoln, ei ganmol am ei etheg gwaith caled. Eglurodd yr ymgynghorydd cig annibynnol a barnwr Viv Harvey fod profiad blaenorol Taylor mewn cystadlaethau Cigydd Ifanc Premier a Chigydd Ifanc Rhyngwladol wedi caniatáu iddo ddysgu technegau yr oedd yn gallu eu rhoi ar waith. “Mewn gwirionedd roedd hynny’n amlwg yn y cyflwyniad cyffredinol,” meddai Harvey.
“Bu ef yn [Taylor] gweithio mewn ffordd dda a threfnus. Edrychodd yn drefnus, edrychodd fel petai’n hyderus yn yr hyn yr oedd yn ei wneud, roedd ei lygad am fanylder yn ardderchog, a rhoddodd ei amrywiaeth o gynhyrchion arloesedd a lliw a ffocws da i’w arddangosfa derfynol.”
Gwnaeth Harvey, sy’n barnu ochr yn ochr â Roger Kelsey, Prif Weithredwr Ffederasiwn Cenedlaethol y Masnachwyr Cig a Bwyd (NFMFT), a Keith Fisher, Intitute of Meat, ganmol pob cystadleuydd am lefel y sgiliau a oedd ar ddangos. “Mae safonau’n uchel,” meddai. “Mae’n gam i fyny ers rhagbrofion llynedd.”
Hefyd yn cystadlu yn rhagbrawf Leeds, a gynhaliwyd yng Ngholeg Dinas Leeds, oedd Lucy Webster, 25, o Siop Fferm Taylors, Lathom, a Simon Davies, 23, Joe Crawford, 16, Richard Silverman, 37, Jay Bennion, 20, a Charles Amor, 17, pob un o Goleg Reaseheath, Nantwich.
Roedd gan y cigyddion 45 munud i dorri ochr orau o gig eidion, yna roedd her a roddodd iddynt y dasg o ddatblygu arddangosfa barbeciw arloesol gan ddefnyddio amrywiaeth o gynhyrchion mewn awr a 30 munud.
Dywedodd Harvey fod cystadlaethau fel hyn yn bwysig i arddangos y diwydiant ac i’r cigyddion hogi eu galluoedd. “Mae’n ymwneud â dangos eu sgiliau, eu harloesi, eu llygaid am fanylion, gwybodaeth am eu cynnyrch – hefyd mae bob amser yn arwydd da o weld beth mae’ch cystadleuwyr yn ei wneud,” meddai.
“Rydych yn dysgu cymaint oddi wrth y cystadleuwyr eraill ag oddi wrth eich hun. Rydym mewn diwydiant lle y byddwn yn gweld rhywbeth ac yn meddwl: ‘Dyna syniad da, ond gallwn ei wneud fel hyn i’w wneud ychydig yn wahanol’.”
Caiff y gystadleuaeth ei threfnu gan y darparwr hyfforddiant Cwmni Hyfforddiant Cambrian, â Meat Trades Journal yw’r partner cyfryngau unigryw. Ymhlith y noddwyr mae NFMFT, the Institute of Meat, Cyngor Addysg a Hyfforddiant Bwyd a Diod, Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales a Viv Harvey.