Mae’r partner sy’n trefnu, Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi enwi’r chwe chigydd terfynol a fydd yn cystadlu yng nghystadleuaeth WorldSkills.
Hannah Blakey, prentis 17 oed yng Ngholeg Dinas Leeds, yw’r cystadleuydd ieuengaf a’r ferch gyntaf i gyrraedd y rownd derfynol.
Bydd Peter Rushforth (yn y llun) o Siop Fferm Swans yn yr Wyddgrug, Cymru; James Gracey o Quails of Dromore yn Sir Down; Dylan Gillespie o Clogher Valley Meats yn Sir Tyrone; Martin Naan o Kettyle Irish Foods yn Sir Fermanagh; a Daniel Turley o Aubrey Allen yn Coventry yn ymuno â hi.
Enillodd Rushforth y wobr efydd yng nghystadleuaeth y llynedd, a dywedodd ei fod wedi bod yn hyfforddi’n galed: “Rwy’n hyderus, fel y mae’n rhaid i chi fod ym mhob cystadleuaeth, ond yn amlwg nid wyf yn hunanfodlon oherwydd mae’r gystadleuaeth yn mynd yn fwy ac yn fwy anodd bob blwyddyn.”
I baratoi ar gyfer yr her, mae o wedi bod yn ymarfer drwy gydol bob wythnos. “Rwy’n treialu cynhyrchion i’r cownter ac yn gweld pa mor llwyddiannus maent gyda chwsmeriaid, ac yn gweithio ar hynny i wneud argraff dda ar y beirniaid, rwy’n gobeithio.
“Rwyf wedi gwneud y gystadleuaeth o’r blaen, ond wedi dweud hynny, maent wedi newid y gystadleuaeth eleni. Maent wedi cymysgu rhai o’r categorïau ac ychwanegu categori newydd.
“Mae’n anrhydedd mawr cael eich enwi fel y cigydd gorau yng nghystadleuaeth WorldSkills y DU. Mae’n marchnata da ac yn gyhoeddusrwydd da ac yn arwain at y cyfle nesaf.”
Mae’r chwe chigydd wedi cystadlu mewn rhagbrofion yn Lloegr, Cymru neu Ogledd Iwerddon i frwydro’u ffordd i’r rownd derfynol.
Mae’r cystadleuwyr yn cael 45 munud i dorri ochr orau o gig eidion, yna awr a hanner i greu arddangosfa arloesol ar thema barbeciw.
Yna aeth y chwe chigydd a chafodd y sgoriau uchaf ar draws y tri rhagbrawf ymlaen i’r rownd derfynol, a gynhelir ar 17-18 Tachwedd yn yr NEC ym Mirmingham. Yno, bydd y cystadleuwyr yn cyflawni pum tasg dros ddau ddiwrnod a fydd yn profi eu gallu i’r eithaf.
Byddant yn cael eu barnu gan Roger Kelsey, prif weithredwr Ffederasiwn Cenedlaethol y Masnachwr Cig, ymgynghorydd y diwydiant Viv Harvey a phrif weithredwr yr Institute of Meat, Keith Fisher.
Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn trefnu’r gystadleuaeth, â chefnogaeth Gr?p Llywio’r Diwydiant a’r unig bartner cyfryngau yw Meat Trades Journal.
Ymhlith y noddwyr mae’r NFMFT, Institute of Meat, The Food & Drink Training and Education Council, Hybu Cig Cymru a Viv Harvey, mae pob un wedi caniatáu Hyfforddiant Cambrian i gynyddu ymwybyddiaeth o’r fasnach cigyddiaeth.
“Hoffwn ddiolch i’n holl noddwyr a phartneriaid sydd wedi darparu cymorth ac adnoddau amhrisiadwy yn ystod y gystadleuaeth hyd yma, oherwydd heb y cymorth rydym wedi’i dderbyn oddi wrth y diwydiant, ni fyddai’r gystadleuaeth yn bosibl. Mae’n chware rhan fawr wrth wella sgiliau, cynyddu ymwybyddiaeth ac annog y genhedlaeth nesaf i ddewis cigyddiaeth fel eu llwybr gyrfa,” meddai Chris Jones, pennaeth uned fusnes gweithgynhyrchu bwyd a chigyddiaeth yn Hyfforddiant Cambrian.
Peidiwch â methu’r Rownd Derfynol a gynhelir yn y Skills Show ar 17eg – 19eg Tachwedd 2016.