
Ar ôl cwblhau ei Safon Uwch yn Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion, penderfynodd Cai Watkins ddilyn llwybr addysg alwedigaethol ac ymunodd â Chwmni Hyfforddiant Cambrian (CHC) fel Prentis Cymorth Contractau, lle dechreuodd Brentisiaeth Lefel 2 mewn Gweinyddu Busnes (sy’n cyfateb i bum TGAU llwyddiannus). Cyflawnodd Cai ei Brentisiaeth Lefel 2 mewn 13 mis, ac yna symudodd ymlaen i astudio ei Brentisiaeth Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes (sy’n cyfateb i ddau Safon Uwch lwyddiannus), a gyflawnodd y llynedd yn 21 oed.
Wrth weithio’n llawn amser yn CHC, fel rhan o’i brentisiaeth mae Cai wedi dysgu sgiliau gweinyddu busnes gwahanol ac wedi ennill profiad ymarferol o roi’r sgiliau hyn ar waith yn ei swydd. Mae hefyd wedi ennill profiad gwerthfawr o ddysgu gan ei reolwr llinell, ac Uwch Reolwyr a Chyfarwyddwyr eraill y cwmni. Ar ôl 2 flynedd o weithio yn CHC, gan weithio ym maes rheoli contractau, hyrwyddodd y Cyfarwyddwyr Cai i Bennaeth Dros Dro yr Uned Busnes: Rheolwr Contractau ar ôl i’w reolwr llinell fynd ar absenoldeb mamolaeth am 12 mis, a chafodd ei wneud yn rôl barhaol ar ddechrau’r flwyddyn diwethaf.
Yn ei rôl fel Pennaeth yr Uned Busnes: Rheolwr Contractau, mae Cai yn gyfrifol am fonitro a rheoli contractau naw is-gontractwr CHC, yn ogystal â monitro ac adrodd i’r Bwrdd ar berfformiad tair uned sector busnes mewnol CHC. Mae’r rôl hon yn gofyn am ddadansoddi ariannol, negodi contractau, rheoli prosiectau, dadansoddi data, sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu i enwi ond ychydig. Mae wedi meistroli’r rhain yn y ‘byd gwaith’ ac o ganlyniad mae wedi cyflawni ei Brentisiaethau Lefel 2 a 3 mewn Gweinyddu Busnes. Yn ei rôl, mae’n rhaid i Cai fod yn adweithiol ar unrhyw newidiadau a gyflëir gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y contract yn parhau i gydymffurfio â hi.
“Yn yr ysgol, ac yn enwedig yn ystod fy arholiadau Safon Uwch, roedd yr athrawon yn gwthio pawb i fynd i’r brifysgol a chafodd prentisiaethau mo’u trafod. Ond, mae fy Nhad yn edmygydd mawr o brentisiaethau oherwydd ei fod wedi dechrau ei yrfa fel prentis yn y Fyddin felly roedd hyn bob amser yn ffactor gyrru i mi,” meddai Cai.
Mae hyd y brentisiaeth yn dibynnu ar y math a lefel y cymhwyster sy’n cael ei astudio. Ar gyfer prentisiaethau dysgu seiliedig ar waith, mae pob prentis yn derbyn ei Swyddog Hyfforddi ei hun sy’n ymweld â’r prentis bob mis yn eu gweithle i weld eu cynnydd, rhoi adborth ar waith wedi’i gwblhau, a rhoi unrhyw hyfforddiant a gwaith ychwanegol i’w gwblhau. Rhaid i bob prentis feddu ar sgiliau Mathemateg, Saesneg a TG ar radd TGAU C/4. Os nad yw prentis wedi cyflawni’r sgiliau hanfodol hyn, byddent yn cael eu cefnogi i wneud hynny gyda thiwtora arbenigol gan Diwtor Sgiliau Hanfodol, a fydd hefyd yn ymweld â’r prentis yn ei weithle.
“Mae’r Swyddog Hyfforddi yn fy nghefnogi drwy gydol y brentisiaeth, gan gynnig adborth ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gen i a sicrhau fy mod i’n cadw ar y trywydd iawn yn fy astudiaethau er mwyn i mi allu cwblhau’r brentisiaeth ar amser,” meddai Cai.
Mae CHC wedi bod yn gefnogol iawn i’w astudiaethau prentisiaeth a gyda’r profiad y mae Cai wedi’i ennill yn ei swydd. Astudiodd Cai yn y gweithle am tua awr neu dwy awr yr wythnos, a dim ond tua awr yr wythnos o astudio y tu allan i’r gwaith y bu’n rhaid iddo gwblhau ei brentisiaeth.
“Mae cwblhau fy mhrentisiaeth wedi fy ngwneud yn llawer mwy hyderus ac erbyn hyn mae gen i’r sgiliau a’r wybodaeth i gyflawni a llwyddo yn fy swydd. Rwy’n gobeithio parhau i symud ymlaen yn y cwmni a’m nod hirdymor yw gweithio fy ffordd i fyny at ddod yn Gyfarwyddwr.
“Rwyf wedi dysgu cymaint o sgiliau bywyd yn ystod fy mhrentisiaeth, chefais i ddim fy nysgu yn y system ysgolion. Wrth astudio ar gyfer fy mhrentisiaeth, rwyf wedi ennill cyflog wrth imi ddysgu, symud ymlaen yn fy ngyrfa ac nid oes gennyf y miloedd o bunnoedd o ddyled myfyrwyr sydd gan lawer o’m cyfoedion.”