Yn fuan iawn, bydd y Gymraes, Alana Spencer, a enillodd gystadleuaeth The Apprentice ar y BBC yn 2016 yn dweud y geiriau enwog “You’re hired”, wrth iddi ddathlu Wythnos Prentisiaethau Cymru trwy fynd ati i recriwtio’i phrentis cyntaf ei hun.
Mae Alana, 27 oed, eisoes yn cyflogi saith aelod o staff yn ei chwmni cacennau o waith llaw, Ridiculously Rich by Alana, a symudodd i uned ar Ystâd Ddiwydiannol Glanyrafon yn nhref ei mebyd, sef Aberystwyth, fis Hydref diwethaf.
Tan hynny, bu’n prynu cynhyrchiant i mewn ond mae bellach wedi prynu popeth yn fewnol a arweiniodd at recriwtio pum aelod o staff yn syth.
Recriwtiwyd un o’r aelodau staff hynny, Matt Lloyd, 20 oed, trwy raglen Twf Swyddi Cymru Llywodraeth Cymru ac oherwydd iddo wneud mor dda, mae Alana’n edrych i gyflogi cynorthwyydd cyffredinol trwy’r rhaglen.
Yn ogystal, mae’n cynnig Prentisiaeth Sgiliau Diwydiant Hyfedredd mewn Pobi i gynorthwyydd popty a fydd yn helpu i bobi’r cacennau o waith llaw i dynnu’r dŵr o’ch dannedd.
Cynigir y brentisiaeth a swydd wag Twf Swyddi Cymru trwy Hyfforddiant Cambrian, sef darparwr dysgu yn y gwaith ledled Cymru arobryn, sydd wedi bod yn gweithio gyda Ridiculously Rich by Alana ers mis Awst diwethaf.
Mae manylion y swyddi gwag ar gael ar-lein yn: https://www.cambriantraining.com/wp/en/jobs-board/apprentice-bakery-assistant-ref46159-ridiculously-rich-by-alana-aberystwyth/ a
https://www.cambriantraining.com/wp/en/jobs-board/general-assistant-ref-46738-ridiculously-rich-by-alana-aberystwyth/ .
“Mae prentisiaeth yn ffordd berffaith o gefnogi rhywun yn nhref fy mebyd sydd am gael cymhwyster yn y diwydiant bwyd wrth ddysgu yn y swydd,” meddai Alana. “Gan fod cymaint o gymorth gwych ar gael yng Nghymru, mae’n help mawr i fusnesau bach dyfu tîm.”
Mae’r busnes yn tyfu’n eithriadol o gyflym sydd wedi cael hwb gan y penderfyniad i wneud y cynhyrchu i gyd yn fewnol.
Dechreuodd ei chariad proffesiynol at ddanteithion melys pan oedd hi’n 14 oed, ar ôl i’w mam brynu llyfr am wneud siocled iddi. Erbyn yr oedd hi’n 16 oed, roedd Alana wedi dysgu ei hun i greu siocledi, gan rentu ei chegin gyntaf a dechrau gwerthu ei siocledi moethus i ffrindiau, teulu ac athrawon, cyn denu diddordeb dwy siop yn Aberystwyth.
Daeth y siocledi blasus mor boblogaidd nes iddi benderfynu yn 2010 i adael yr ysgol a mynd ar drywydd ei breuddwyd entrepreneuraidd llawn siocled. I ddechrau, galwodd ei busnes yn Narna’s, lle dechreuodd greu cacennau mewn padelli pobi ochr yn ochr â’i siocledi a symudodd ei chynhyrchiant i gegin wledig wedi’i hadeiladu i bwrpas yng ngardd gefn ei rhieni.
Yn fuan, roedd Alana’n teithio ledled y wlad yn gwerthu ei chacennau mewn digwyddiadau bwyd a sioeau. Yn 2016, gwnaeth gais i fod yn ymgeisydd ar The Apprentice, i geisio cael buddsoddiad o £250,000 gan yr Arglwydd Sugar. Oherwydd ei chariad am ei busnes a’i chacennau blasus, mi lwyddodd ac fe aned ‘Ridiculously Rich by Alana’.
Yna, lansiodd Alana ei chynlluniau Ambassador a Cakepreneur i ddod o hyd i fyddin o garwyr cacennau, gan roi cyfle i’r rhai oedd wastad wedi dymuno rhedeg eu busnes eu hunain i ymuno a dechrau eu masnachfraint Ridiculously Rich eu hunain.
Erbyn hyn, mae gan y cwmni 50 masnachfraint ledled y wlad a gall cwsmeriaid hefyd archebu ar-lein yn https://www.ridiculouslyrichbyalana.co.uk/ . Mae Alana hefyd yn gwerthu ei chacennau yn siopau cyfleustod Nisa a BP a gydag adwerthwyr eraill, wrth i nifer gynyddol o gwsmeriaid gwympo mewn cariad â’i danteithion melys.
Cyflogwyd ffrind o Ysgol Gyfun Aberaeron, Stacey Smith, yn gynorthwyydd personol i Alana ac yn rheolwr ar y rhwydwaith masnachfreintiau.
Dywedodd Andrew Thompson, swyddog ymgysylltu â busnesau Hyfforddiant Cambrian ar gyfer Gorllewin a Chanolbarth Cymru: “Rydym wrth ein boddau o weithio gyda busnes Alana i helpu recriwtio staff newydd trwy’r rhaglenni Prentisiaeth a Thwf Swyddi Cymru. Mae yna gyfleoedd gwych i ymuno â’r cwmni cyflym ei dwf hwn.”
Picture caption:
Alana Spencer yn brysur wrth ei gwaith yn Ridiculously Rich by Alana yn Aberystwyth.
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Katy Godsell, Rheolwr Marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian ar Ffôn: 01938 555893 e-bost: katy@cambriantraining.com neu Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus ar 01686 650818.