Mae gennym berthynas weithio wych gydag ystod eang o fusnesau a sefydliadau o bob maint ledled Cymru.

Partneriaethau

Rydym yn ymroi i adeiladu, datblygu a chynnal perthynas gyda busnesau ledled Cymru. Rydym hefyd yn aelodau gweithgar ac yn gweithio’n agos gyda Grwpiau Rhwydweithio Busnesau, Cynghorau Sgiliau Sector a Chyrff Proffesiynol i ffurfio partneriaethau cryf a chyflawni rhagoriaeth.

Mae ein partneriaid a sefydliadau rhwydweithio’n cynnwys;

Gellir dod o hyd i ni hefyd ar wefannau FacebookTwitter a LinkedIn lle cyhoeddwn y newyddion diweddaraf, cystadlaethau a chyfleoedd i wneud yn si?r fod ein busnesau, partneriaid a phrentisiaid yn cael gwybodaeth gennym.

Cyrff Hyfforddi a Dyfarnu

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn gweithio gyda phartneriaid i gyflwyno rhaglenni dysgu a hyfforddiant gyda’r sefydliadau canlynol;

  • Canolfan gymeradwy Pearsons  – Pearson yw’r corff dyfarnu mwyaf yn y DU, gan gynnig cymwysterau a phrofion academaidd a galwedigaethol yn y DU
  • Canolfan gydnabyddedig BIIAB – Y corff proffesiynol ar gyfer y sector adwerthu trwyddedig a darparwr BIIAB APLH, sef cymhwyster trwydded bersonol arweiniol y farchnad.
  • Llywodraeth Cymru, AdAS – Yr Adran Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
  • Improve – Cyngor Sgiliau Sector Cynhyrchu Bwyd a Diod
  • CFA – Y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer sgiliau busnes
  • EURSA – y Sector Sgiliau Ynni a Chyfleustodau
  • Agored Cymru — Agored Cymru yw’r corff dyfarnu o ddewis yng Nghymru gan ddarparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu talent yng Nghymru, i Gymru.
  • WAMITAB — Sefydliad dyfarnu ar gyfer y rhai sy’n rheoli gwastraff ac ailgylchu, glanhau a glanhau strydoedd, rheoli cyfleusterau a pharcio.

Perthnasoedd Cymunedol

Cefnogwn amryw gymdeithasau a chlybiau trwy ddigwyddiadau cymunedol ar raddfa leol a chenedlaethol:

Gwaith Elusennol

Mae Cambrian yn ymroddedig i gefnogi elusennau lleol a chenedlaethol a chymer rhan mewn llawer o ddigwyddiadau yn ein cymuned.

  • Eleni rydym yn cefnogi Cancer Research ac wedi codi arian iddyn nhw trwy brosectiau wahanol
  • Rydym hefyd yn cefnogi elusennau lleol fel Lingen Davies Cancer Fund trwy digwyddiadau cymunedol fel: teithiau cerdded neu rhedeg hwyl ac yn y blaen