Ei diweddar ŵr yn ysbrydoli Lee i gwblhau ei Phrentisiaeth Uwch

Dim ond mis ar ôl iddi gychwyn ar ei Phrentisiaeth Uwch, roedd rhaid i Lee Price ymdopi â marwolaeth Rob, ei gŵr ers 36 o flynyddoedd.

Cafodd anogaeth a chefnogaeth i barhau â’r hyfforddiant gan ei chydweithwyr, ei chyflogwr, ei darparwr hyfforddiant a’i theulu a llwyddodd i gwblhau’r cymhwyster naw mis yn gynnar er eu bod yn brin o staff yn y gwaith.

Erbyn hyn, mae Lee ar y rhestr fer i ennill Gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y mis nesaf, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.

Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.

Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

“Roedd colli fy ngŵr yn dorcalonnus ac roedd yn anodd i mi ddod i’r gwaith weithiau,” meddai Lee, 59 oed, sy’n byw yn Rhaeadr Gwy. “Ond ro’n i’n cadw i fynd trwy’r adegau anoddaf achos ei fod e mor gefnogol i’r hyn roeddwn i’n ei wneud a’i fod mor falch mod i’n fy ngwthio fy hunan i ennill cymwysterau newydd. Rhoddodd hynny nod newydd a phwrpas newydd mewn bywyd i mi.”

A hithau’n Uwch Swyddog Ansawdd a Safonau Amgylcheddol Cyngor Sir Powys, mae’n cydweithio’n agos â thîm gwastraff ac ailgylchu’r sir a thîm trosglwyddo gwastraff Ceredigion, gan sicrhau bod yr holl wasanaethau’n rhedeg yn esmwyth ac yn gweithredu’n ddiogel ac yn gyfreithlon.

Cwblhaodd ei Phrentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Rheoli Systemau a Gweithrediadau trwy’r darparwr dysgu Hyfforddiant Cambrian ar ôl cwblhau cymwysterau ILM Lefel 5 Arwain a Rheoli, Rheoli’n Ddiogel IOSH, a Chynllun Hyfforddi Rheoli Safleoedd yn Ddiogel gan y CITB.

Yn ogystal, hi oedd yr Archwilydd Arweiniol wrth gyrraedd safonau ISO 9001, ISO 14001 a BS OHSAS 18001.

“Mae cwblhau’r Brentisiaeth Uwch wedi bod yn hwb enfawr i fy hyder a’m hunan-gred ac wedi dysgu llawer i mi am y diwydiant ailgylchu fel y gallaf wneud fy ngwaith yn fwy hyderus,” meddai Lee, sy’n awyddus i barhau i ddysgu.

“Rwy’n llysgennad brwd dros brentisiaethau ac yn eu gallu i wella’ch gwybodaeth, eich medrusrwydd, eich sgiliau a’ch golwg ar fywyd. ”

Bu Ian Harris, sydd newydd ymddeol fel Rheolwr Gweithrediadau Gwasanaethau Ailgylchu a Chasglu Gwastraff Cyngor Sir Powys, yn cydweithio â Lee tra oedd yn dilyn yr hyfforddiant ac roedd yn llawn canmoliaeth iddi am gwblhau ei chymhwyster naw mis yn gynnar.

Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee a phawb arall sydd ar y rhestrau byrion.

“Mae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru,” meddai.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a’r sefydliadau disglair sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.”

Picture captions:

Lee Price gyda’i chydweithiwr Nigel Hicks, Goruchwyliwr yn Nepo Rhaeadr Gwy, Cyngor Sir Powys, a’r Swyddog Hyfforddiant, Jay Syrett-Judd o Hyfforddiant Cambrian.

Lee Price – “llysgennad brwd dros brentisiaethau”.

Diwedd

Cewch wybod rhagor trwy gysylltu â Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar 01686 650818 neu 07779 785451 neu e-bostio: duncan@duncanfoulkespr.co.uk.