Wythnos Prentisiaethau Cenedlaethol
7 – 13 Chwefror 22
Mae Cwmni Hyfforddiant Cambren yn dathlu wythnos prentisiaethau cenedlaethol mis Chwefror eleni. Rydym am gymryd y cyfle i dynnu sylw at ba mor wych y gall prentisiaethau fod i fusnesau.
Dyrchafwch eich busnes. Llogwch brentis.
Mae prentisiaethau yn ffordd effeithiol o uwchsgilio eich staff presennol neu ehangu drwy gyflogi gweithwyr newydd. Bydd hyn yn datblygu gweithlu brwdfrydig a chymwys iawn a fydd yn tyfu ac yn dyrchafu eich busnes.
Dywedodd 74% o gyflogwyr fod prentisiaethau wedi eu helpu i wella ansawdd eu cynnyrch neu wasanaeth – GOV.UK
Uwchsgilio eich gweithlu
Nid oes angen i ni ddweud wrthych mai eich staff yw un o asedau mwyaf eich busnes. Mae sicrhau bod gan y staff hynny ystod eang o wybodaeth, sgiliau a chymwysterau yn ffordd gynhyrchiol o fynd â’ch busnes i’r lefel nesaf.
Mae darparwyr hyfforddiant yn cwmpasu amrywiaeth eang o sectorau a chyrsiau felly gallwch ddewis y cymhwyster mwyaf perthnasol i’w addasu i anghenion eich busnes ac aelodau staff.
Yma yn Hyfforddiant Cambren mae ein swyddogion hyfforddi yn arbenigwyr yn eu meysydd ac rydym yn darparu cymwysterau o fewn ystod eang o sectorau gan gynnwys lletygarwch, gweinyddu busnes, rheoli adnoddau cynaliadwy a llawer mwy.
Find out how you could upskill your staff . . .info@cambriantraining.com
Dywedodd 86% o gyflogwyr fod prentisiaethau wedi eu helpu i ddatblygu sgiliau sy’n berthnasol i’w sefydliad – GOV.UK
Dangoswch eich ymrwymiad i DPP
Mae cynnig cyfleoedd cyffrous ar gyfer datblygiad staff yn dangos i’ch gweithwyr eich lefel uchel o ymrwymiad i’w datblygiad proffesiynol parhaus.
Bydd hyn yn ei dro yn gwella lles staff, lleihau trosiant a chynyddu cyfraddau cadw. Bydd eich staff yn hapusach ac yn fwy brwdfrydig i ddysgu a symud ymlaen o fewn eich busnes.
Dywedodd 78% o gyflogwyr fod prentisiaethau wedi eu helpu i wella cynhyrchiant – GOV.UK
Ymwybyddiaeth gymunedol
Fel perchennog busnes ydych chi wedi meddwl am eich rôl yn y gymuned leol? Mae cael cefnogaeth gan y bobl leol yn hanfodol i ddatblygu eich busnes a sicrhau bod gennych chi gwsmeriaid sydd yn dychwelyd.
Ffordd hawdd ond effeithiol o wneud hyn yw trwy gynnig cyfle i’ch staff i ddatblygu eu gyrfa. Bydd hyn yn cynorthwyo eich busnes i gael enw da, cynyddu ymwybyddiaeth yn lleol ac yn ei dro ennill cefnogaeth ychwanegol gan gwsmeriaid lleol.
Yn ogystal, bydd pobl eisiau gweithio i chi felly bydd recriwtio yn hawdd!
Read all about Celtic Manor Resort and their growth since recruiting apprentices HERE
Cyllid a chefnogaeth y Llywodraeth
Mae gan y llywodraeth nifer o gynlluniau a chymhellion i annog busnesau i gynnig prentisiaethau i’w gweithwyr.
Gall Hyfforddiant Cambren ddarparu’r holl fanylion i weld a allech fod yn gymwys i gael cyllid sylweddol i gefnogi’ch staff trwy eu prentisiaeth ac i egluro’r amrywiol ganllawiau cymhwysedd a chyfyngiadau.
Mor hawdd ag 1, 2, 3 . . .
Tybir yn aml fod cyflogi prentisiaid yn broses sy’n cymryd llawer o amser. Gallwn chwalu’r myth hwnnw’n awr drwy ddangos i chi pa mor hawdd yw hi i gael prentis i ymuno â chi.
- Trafodwch eich gofynion busnes penodol a’r cymhwyster perthnasol
- Cwblhewch rai ffurflenni syml gyda’n help a’n harweiniad
- Dechreuwch eich proses chwilio a recriwtio gyda chymorth ein help ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru
Bydd prentisiaethau yn tyfu eich busnes yn hawdd ac yn effeithiol drwy greu gweithlu cymwys, llawn cymhelliant a medrus.