Dylan yn ennill rownd Gogledd Iwerddon o gystadleuaeth Cigyddiaeth WorldSkills UK

Enillwyd rownd Gogledd Iwerddon cystadleuaeth fawreddog Cigyddiaeth WorldSkills UK gan Dylan Gillespie o Clogher Valley Meats, Clogher, Tyrone.

Mae Dylan, sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Cigyddiaeth WorldSkills UK dros y tair blynedd diwethaf, wedi rhoi ei enw ymlaen unwaith eto i gymhwyso am y rownd derfynol eleni yn y Sioe Sgiliau yn yr NEC Birmingham o 15 i 17 Tachwedd.

Rhaid iddo aros nawr am ddwy rownd arall y DU, yng Ngholeg Prifysgol Birmingham ar 12 Mehefin a Choleg Dinas Glasgow ar 26 Mehefin, i ddarganfod ai fe yw un o’r chwe chigydd gyda’r sgorau uchaf.

Gwelodd rownd Gogledd Iwerddon, a gynhaliwyd yn y Southern Regional College yn Newry ar 5 Mehefin, Dylan yn rhoi ei sgiliau ar waith yn erbyn Saulius Repecka a John Shortland, y ddau o’r Southern Regional College, Portadown.

Fe’u heriwyd  i torri coes o borc ar hyd y cyhyr mewn 45 munud ac i greu arddangosfa barbeciw o gyw iâr, porc, cig eidion a chig oen mewn 90 munud.

Canolbwyntiodd y gystadleuaeth ar yr holl sgiliau hanfodol sy’n ofynnol am yrfa lwyddiannus fel cigydd amlfedrus yn y diwydiant cynhyrchu bwyd.

Profir cigyddion am eu sgiliau cyffredinol, eu harloesedd, creadigedd, cyflwyniad, moeseg gwaith, dull a ffordd o droi at dasgau, defnydd o’r carcas a’r toriad gorau, gwastraff ac arfer gweithio diogel a hylan.

Yn rownd derfynol y DU, bydd y chwe chigydd yn cwblhau pum tasg dros ddeuddydd o flaen cynulleidfa fyw. Y Sioe Sgiliau yw digwyddiad sgiliau a gyrfaoedd mwyaf y wlad ac mae’n helpu ffurfio dyfodol y genhedlaeth nesaf.

Trefnir y gystadleuaeth gigyddiaeth gan y darparwr hyfforddiant arobryn, Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng ac fe’i cefnogir gan Grŵp Llywio’r Diwydiant. Ymhlith y noddwyr mae’r sefydliad dyfarnu arbenigol FDQ, y Sefydliad Cig, Hybu Cig Cymru/Meat Promotion Wales a’r Ffederasiwn Cenedlaethol Masnachwyr Cig a Bwyd.

Y beirniaid oedd Roger Kelsey o’r Ffederasiwn Cenedlaethol Masnachwyr Cig a Bwyd, Keith Fisher o’r Sefydliad Cig a Viv Harvey, ymgynghorydd cig.

Dywedodd Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian, sy’n trefnu’r gystadleuaeth i WorldSkills UK, fod rownd Gogledd Iwerddon wedi’i hymladd yn frwd, gyda dim ond un pwynt yn gwahanu’r ddau uchaf. Diolchodd i’r Southern Regional College am gynnal y rownd ac am ei letygarwch gwych.

Mae cigyddiaeth yn un o dros 60 o sgiliau i gael eu cynnwys yng Nghystadlaethau WorldSkills UK eleni. Profwyd bod y rhain yn helpu pobl ifanc i fynd ymhellach, yn gynt yn eu hyfforddiant a’u gyrfaoedd.

Dyluniwyd y cystadlaethau gan arbenigwyr y diwydiant ac maen nhw’n canolbwyntio ar safonau uchaf y DU ac yn rhyngwladol. Cyflawnant fuddiannau nid yn unig i brentisiaid a myfyrwyr, ond hefyd i’w cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a cholegau.

Mae cymryd rhan yn y cystadlaethau’n paratoi prentisiaid gyda’r sgiliau o’r radd flaenaf y mae eu hangen i helpu sefydliadau i gynnal eu hochr gystadleuol. Cred dros 95% o gyn ymgeiswyr fod cymryd rhan yn y cystadlaethau wedi gwella’u sgiliau technegol a chyflogadwyedd.

Yn y rownd derfynol rhagbrawf Coleg Prifysgol Birmingham ar 12 Mehefin mae Ashton Lindeman o James of Shepperton Butchers, Surrey, Craig Holly o Neil Powell Butchers, Y Fenni, Peter Smith o Jamie Ward Butcher, Churchstoke a Daniel Allen-Raftery o Randall Parker Foods, Llanidloes.

Yn rownd derfynol rhagbrawf yr Alban yng Ngholeg Dinas Glasgow ar 26 Mehefin mae Robbie Hughan ac Euan McLagan o Blair Drummond Smiddy Farm Shop, Stirling, Connor Wilson, Stuart Rankin ac Erin Conroy o Falleninch Farm, Stirling a Kevin McMillan o A. Donald Ltd, Uddington.

Picture caption:

Dylan Gillespie yn derbyn ei wobr am ennill rhagbrawf Gogledd Iwerddon gan y beirniaid Roger Kelsey, Keith Fisher a Viv Harvey.

Dylan Gillespie ar waith.

Cigyddion rhagbrawf Gogledd Iwerddon gyda’r beirniaid a chydlynydd y gystadleuaeth, Katy Godsell o Gwmni Hyfforddiant Cambrian a Micheal Prunty o Southern Regional College.

Diwedd

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Katy Godsell, Rheolwr Marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian ar Ffôn: 01938 555893 e-bost: katy@cambriantraining.com neu Duncan Foulkes, yr ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus ar Ffôn: 01686 650818.