Cydnabuwyd llywydd Cymdeithas Coginiol Cymru gan gogyddion o gwmpas y byd am ei waith yn hyrwyddo’r celfyddydau a’r proffesiwn coginio.
Yng Nghyngres ac Expo Worldchefs yn Kuala Lumpur, Malaysia, cyflwynwyd Medal y Llywydd fawreddog i Arwyn Watkins, OBE, sef rheolwr gyfarwyddwr y darparwr hyfforddiant arobryn, Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng.
Mae’r fedal hon, a gyflwynwyd gan lywydd Worldchefs, Thomas Gugler, yn cydnabod unigolion sydd wedi ymgymryd â gweithgareddau yn eu gwlad eu hunain i hyrwyddo datblygiad a phroffil y celfyddydau a’r proffesiwn coginiol.
“Rydw i’n teimlo anrhydedd mawr o gael y fedal hon a ddaeth er syndod mawr i mi ,” meddai Mr Watkins.
Rhwydwaith byd-eang o dros 100 o gymdeithasau cogyddion ledled y byd yw Worldchefs. Mae’n sefydliad proffesiynol anwleidyddol, sy’n ymroi i gynnal a gwella safonau dulliau coginio’r byd.
Mae’n troi’n flwyddyn gofiadwy i gyn prentis cogydd y Fyddin oherwydd dyfarnwyd OBE iddo yn rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd am ei wasanaethau i addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Derbyniodd yr OBE gan y Tywysog William, Dug Caergrawnt, ym Mhalas Buckingham ym mis Mawrth.
Mae sgiliau coginiol yn un o’i brif gariadon a hyfforddodd Dîm Coginiol Iau Cymru i fedal aur yn y Gemau Coginiol Olympaidd yn 2004. Fel aelod o’r Pwyllgor Cenedlaethol Dyfarniadau Gallu Cymhwysol, roedd yn allweddol wrth redeg rhaglenni peilot yng Nghymru gan arwain at Fframweithiau Prentisiaeth arloesol a arweinir gan grefft ar gyfer cogyddion.
Llynedd, bu’n bennaeth ar dîm a ddenodd cynhadledd Ewropeaidd WorldChefs i’r Celtic Manor Resort, Casnewydd ac mae bellach yn rhan o dîm sy’n gwneud cais i gynnal Cyngres WorldChefs yng Nghanolfan Confensiynau Rhyngwladol Cymru yn y Celtic Manor Resort yn 2024.
Ymunodd Mr Watkins, sy’n byw yn Llanfair Caereinion, â Chwmni Hyfforddiant Cambrian bron i 20 mlynedd yn ôl ac mae’n gyn gadeirydd ac yn brif weithredwr ar Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.
Mae wrthi’n gwasanaethu fel aelod o fwrdd y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol ar gyfer Gorllewin a Chanolbarth Cymru, mae’n ymddiriedolwr i Ymddiriedolaeth Bwyd Prydain ac yn aelod o Bwyllgor Bwydo’r Blaned a Chynaliadwyedd Worldchefs.
Fel mab i ffermwr o Lanwrtyd, gadawodd Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt i ymuno â’r Fyddin fel prentis cogydd ac mae wedi cynnal ei ymrwymiad i raglenni prentisiaeth byth ers hynny.
Picture caption:
Arwyn Watkins (ar y chwith) yn derbyn Medal y Llywydd gan lywydd Worldchefs, Thomas Gugler.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwyn Watkins, llywydd Cymdeithas Coginiol Cymru, ar Ffôn: 01938 555893 neu Duncan Foulkes, swyddog cyhoeddusrwydd ar Ffôn: 01686 650818.