Mae unigolyn blaenllaw yn y sector dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru wedi sôn am ei brofiad “syfrdanol” o dderbyn OBE gan y Tywysog Wiliam ym Mhalas Buckingham yn gynharach yn y mis.
Disgrifiodd Arwyn Watkins, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng, y seremoni fel “cyfle unwaith mewn bywyd” fyth yn aros yn ei gof am byth.
“Fe’ch gwneir i deimlo’n arbennig iawn ac rydych chi’n cwrdd â phobl anhygoel sy’n gwneud ichi gwestiynau pam rydych chi yno,” meddai Mr Watkins, y gwobrwywyd OBE iddo yn rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd am ei wasanaethau i addysg a hyfforddiant yng Nghymru.
“Cydnabuwyd derbynyddion o bob cwr o’r Deyrnas Unedig a’r Gymanwlad am ystod o gyflawniadau, o’r byd addysg, amgylcheddol, achub mynydd, beicio a nyrsio, gan gynnwys gwasanaethau i iechyd meddwl. Roedd y diwrnod yn un gwych a hedfanodd.”
Yn ystod ei sgwrs fer gyda Mr Watkins, siaradodd Dug Caergrawnt am Fynyddoedd Cambria yng Nghalon Cymru, i ba raddau yr oedd wedi mwynhau bod yng Nghymru fel peilot hofrennydd Chwilio ac Achub a phwysigrwydd prentisiaethau.
Cafodd Mr Watkins gwmni ei wraig, Vicky a’i feibion Cai a Zac yn y seremoni. Teithion nhw o Balas Buckingham i Dŷ’r Arglwyddi i gael cinio gyda’i fentor, yr Arglwydd Ted Rowlands, cyn lywydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.
Dywedodd Mr Watkins fod yr OBE yn cydnabod y cyfraniad pwysig a wna’r sector hyfforddiant annibynnol i fywydau beunyddiol y bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Diolchodd Gwmni Hyfforddiant Cambrian a’i deulu am eu cefnogaeth lwyr.
Ymunodd â Chwmni Hyfforddiant Cambrian bron i 20 mlynedd yn ôl ac mae’n gyn gadeirydd a phrif weithredwr Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru lle gweithiodd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a’r rhwydwaith i ffurfio’r rhaglenni dysgu seiliedig ar waith llwyddiannus a gyflwynir yng Nghymru heddiw.
Mae’n aelod o fwrdd Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol Gorllewin a Chanolbarth Cymru, yn ymddiriedolwr y British Food Trust, yn llywydd ar Gymdeithas Coginiol Cymru ac yn aelod o Bwyllgor Bwydo’r Blaned a Chynaliadwyedd WorldChefs.
Gadawodd y mab fferm o Lanwrtyd Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-muallt er mwyn ymuno â’r Fyddin fel cogydd prentis ac mae wedi cynnal ei ymrwymiad i raglenni prentisiaeth byth ers hynny.
O adael y Fyddin, ymunodd â’r Llynges Fasnachol, gan weithio i Stena Line a daeth yn ddarlithydd coleg arlwyo yng Nghaint cyn dychwelyd i Ganolbarth Cymru i ymuno â Chwmni Hyfforddiant Cambrian ym 1998.
Mae’r cwmni wedi mwynhau twf sylweddol dan ei arweiniad, gan ennill Darparwr Prentisiaethau’r Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn 2007 a 2012 ynghyd â chyfres o glodydd eraill. Mae’r cwmni bellach yn cyflogi dros 120 aelod o staff ac is-gontractwr.
Un o’i brif gariadon yw sgiliau coginio ac fe hyfforddodd Tîm Coginio Iau Cymru i fedal aur yn y Gemau Coginio Olympaidd yn 2004. Fel aelod o Bwyllgor Cenedlaethol y Gwobrau Gallu Cymhwysol, roedd yn allweddol wrth redeg rhaglenni peilot yng Nghymru a arweiniodd at Fframweithiau Prentisiaeth a arweinir gan grefft arloesol i gogyddion.
Yn gynharach eleni, bu’n bennaeth ar dîm a ddenodd cynhadledd Ewropeaidd WorldChefs i’r Celtic Manor Resort, Casnewydd. Mae bellach yn rhan o gais y tîm i gynnal Cyngres WorldChefs yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yn y Celtic Manor Resort yn 2024.
Y tu allan i’r gwaith, mae Mr Watkins yn byw yn Llanfair Caereinion ac yn llywydd ar ei glwb rygbi lleol, Cobra RFC.