Gwobrau VQ 2017
Gwnaeth diswyddiad agor y drws i yrfa newydd gwerth chweil ar gyfer Julie Mundy sydd wedi dathlu llwyddiant ei siwrnai ddysgu â Gwobr Cymwysterau Galwedigaethol (VQ) ar gyfer Cymru.
Enwyd Julie Mundy, 52, mam i dri o Finffordd, ger Porthmadog, yn Ddysgwr y Flwyddyn VQ (Uwch) yn y seremoni wobrwyo flynyddol a gynhaliwyd yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd nos Fawrth, y noson cyn Diwrnod VQ yng Nghymru.
Hi yw arweinydd tîm yr uned ailgylchu dodrefn yn Seren Cyf ym Mlaenau Ffestiniog, elusen sy’n cefnogi oedolion ag anawsterau dysgu. Oherwydd ei brwdfrydedd ar gyfer dysgu gydol oes mae hi wedi cwblhau Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Rheoli Systemau a Gweithrediadau trwy’r darparwr hyfforddiant Cwmni Hyfforddiant Cambrian.
“Cefais fy synnu i ennill y wobr oherwydd bod y bobl eraill yn y rownd derfynol o safon mor uchel,” meddai. “Rwy’n falch iawn dros fy hun, dros Heather Martin, fy hyfforddwr o Gwmni Hyfforddiant Cambrian a thros fy nhîm cyfan.
“Mae Heather yn haeddu llawer o glod oherwydd ei bod wedi fy helpu gymaint trwy’r hyfforddiant a hoffwn i hyfforddi pobl eraill yn y dyfodol. “Rwy’n gobeithio bydd fy ffrindiau yn y gwaith yr un mor falch â minnau oherwydd ei fod yn lle gwych i weithio.”
Mae hi’n werthwr blodau cymwysedig a arferai weithio fel cogydd ysgol a rheolwr gwasanaethau i gwsmeriaid. Cafodd Julie ei gorfodi i ddod o hyd i swydd newydd mwy na phum mlynedd yn ôl pan gafodd ei diswyddo.
“Roedd yn gyfle i ddod o hyd i rywbeth ro’n i wir eisiau ei gwneud oherwydd ni feddyliais erioed am yrfa pan oeddwn yn magu fy mhlant,” eglurodd. “Roedd y cyfle i ailgylchu dodrefn â Seren Cyf yn dynfa fawr ac roeddwn hefyd eisiau cynorthwyo pobl ag anawsterau dysgu.”
Mae hi’n arwain tîm o wyth yn Seren Cyf ac yn cymryd rhan yn y gwaith o ailgylchu dodrefn a thecstilau wedi’u casglu o’r gymuned. Mae’n falch i fod y dysgwr cyntaf â Chwmni Hyfforddiant Cambrian i gwblhau’r Diploma Lefel 4 mewn Rheoli Systemau a Gweithrediadau a llwyddo i wneud hyn mewn llai na dwy flynedd.
“Trwy’r gwahanol brosiectau, rwyf wedi helpu i ddargyfeirio tunelli o ddodrefn a fyddai, fel arall, wedi mynd i safleoedd tirlenwi. Mae gadael i bobl wybod sut y gallwn fanteisio i’r eithaf ar ein hailgylchu yn rhan hanfodol o’m rôl yn trefnu’r logisteg o’i ddod i mewn.
“Rwy’n falch o’r gwaith a wnawn a sut mae’n cael effaith gadarnhaol ar y gymuned gyfan.”
Mae Heather Martin yn canmol ymroddiad rhagorol Julie at ei chymwysterau a dywedodd ei bod yn rôl-fodel ardderchog.
Llongyfarchodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, yr holl enillwyr a’r rheiny sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. “Mae gwobr VQ – cymhwyster galwedigaethol, yn symbol o ymroddiad tuag at eich galwedigaeth o ddewis,” meddai. “Mae gwobrau’n ein helpu i ddathlu’r cyflogwyr, dysgwyr a hyfforddwyr Cymreig hynny sydd eisoes yn mynd y filltir ychwanegol wrth ddatblygu sgiliau a chymwysterau galwedigaethol.
“Er mwyn i economi Cymru barhau i dyfu yna mae’n rhaid i ni sicrhau bod cyflogwyr, unigolion, darparwyr hyfforddiant a Llywodraeth Cymru yn gweithio â’i gilydd i fuddsoddi yn y sgiliau cywir ar gyfer llwyddiant er mwyn rhoi gweithlu o’r radd flaenaf i Gymru.
“Nid yw cymwysterau galwedigaethol erioed wedi bod yn fwy pwysig i’r economi a’r unigolyn, oherwydd eu bod yn darparu’r gweithwyr hyfforddedig a dawnus y mae busnesau’n crefu amdanynt, ac yn sicrhau bod unigolion yn meddu ar y sgiliau sy’n ofynnol i lwyddo mewn addysg a gwaith.”
Roedd Julie yn un o 12 a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn cystadlu am y Gwobrau VQ, sy’n dathlu’r rheiny sy’n defnyddio cymwysterau technegol, ymarferol a galwedigaethol er mwyn sicrhau llwyddiant.
Mae Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a ColegauCymru / CollegesWales yn trefnu’r gwobrau. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru â chefnogaeth oddi wrth Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Capsiwn y llun:
Julie Mundy â’i Gwobr VQ.
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Claire Roberts, ColegauCymru, ar Ffôn: 029 2052 2500 neu 07534 859426, neu Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar 01686 650818 neu 07779 785451.