Bydd pum cigydd dawnus o bob cwr o’r DU yn cystadlu yn rownd derfynol gornest fawreddog Cigyddiaeth WorldSkills UK ym mis Tachwedd.
Enillodd y cigyddion eu lleoedd yn rownd derfynol y Sioe Sgiliau yn yr NEC Birmingham o 15 i 17 Tachwedd ar ôl creu argraff ar y beirniaid yn rowndiau rhanbarthol Cymru a Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae’r rhestr yn cynnwys dau yr un o Gymru a Gogledd Iwerddon ac un o’r Alban yn y rownd derfynol. Byddant yn cwblhau pum tasg dros ddeuddydd o flaen cynulleidfa fyw yn y Sioe Sgiliau, sef digwyddiad sgiliau a gyrfaoedd mwyaf y wlad gyda’r bwriad o helpu ffurfio dyfodol y genhedlaeth nesaf.
Cynrychiolir Cymru gan Craig Holly, 29 oed o Neil Powell Butchers, Y Fenni a Dan Allen-Raftery, 35 oed o Randall Parker Foods, Llanidloes. Yn chwifio’r faner dros Ogledd Iwerddon fydd Dylan Gillespie, 23 oed o Clogher Valley Meats, Clogher a Saulius Repecka, 31 oed o Emerson’s Supermarket, Armagh. Bydd Robbie Hughan, 25 oed o Blair Drummond Smiddy Farm Shop, Stirling yn cadw gobeithion yr Alban yn fyw.
Bydd Allen-Raftery yn amddiffyn ei deitl fel Cigydd y Flwyddyn Cymru, wedi iddo ennill y teitl yn Ffair Aeaf y Sioe Frenhinol llynedd, a Holly yw cyn Gigydd Porc y Flwyddyn yng Nghymru.
Bydd enillydd eleni’n dilyn yn ôl traed James Taylor o G. Simpson Butchers yn Heckington, Swydd Lincoln a enillodd y gystadleuaeth fis Tachwedd diwethaf.
Trefnir y gystadleuaeth gigyddiaeth gan y darparwr hyfforddiant arobryn, Cwmni Hyfforddiant Cambrian ac fe’i cefnogir gan Grŵp Llywio’r Diwydiant. Ymhlith y noddwyr mae’r Cyngor Addysg a Hyfforddiant Bwyd a Diod, y Sefydliad Cig, Hybu Cig Cymru/Meat Promotion Wales, y Ffederasiwn Cenedlaethol Masnachwyr Cig a Bwyd ac ABP.
Y partner dehongli ar gyfer cystadleuaeth Cigyddiaeth WorldSkills UK yn y Sioe Sgiliau yw’r Southern College, Newry. Bydd staff a myfyrwyr y coleg yn esbonio ac yn hyrwyddo sgiliau cigyddiaeth i’w dangos i ymwelwyr.
Canolbwyntia’r gystadleuaeth ar yr holl sgiliau hanfodol sy’n angenrheidiol ar gyfer gyrfa lwyddiannus fel cigydd amlfedrus yn y diwydiant cynhyrchu bwyd. Caiff cigyddion eu profi am eu sgiliau cyffredinol, arloesedd, creadigedd, cyflwyniad, etheg gwaith, dull a ffordd o droi at dasgau, defnydd o’r carcas a’r toriad gorau, gwastraff ac arfer gweithio diogel a hylan.
Er mwyn cystadlu, rhaid bod y cigyddion heb gwblhau cymhwyster uwch na lefel 4 mewn Rhagoriaeth Cynhyrchu Bwyd neu gymhwyster cyfatebol. Rhaid bod ganddynt sgiliau cyllell a sgiliau cigyddiaeth sylfaenol ac eiladd da, gan gynnwys cigyddiaeth ar hyd yr uniad, sgiliau clymu da, profiad o wneud selsig a’r gallu i weithio dan bwysau o flaen cynulleidfa.
Mae cigyddiaeth yn un o dros 60 o sgiliau sydd wedi’u cynnwys yng Nghystadlaethau WorldSkills UK eleni, sydd wedi profi eu bod yn helpu pobl ifanc i fynd ymhellach, yn gynt yn eu hyfforddiant a’u gyrfaoedd. Dyluniwyd y cystadlaethau gan arbenigwyr y diwydiant ac maen nhw’n canolbwyntio ar safonau uchaf y DU ac yn rhyngwladol.
Cyflwynant fuddiannau nid yn unig i brentisiaid a myfyrwyr, ond i’w cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a cholegau hefyd. Mae cymryd rhan yn y cystadlaethau’n darparu’r sgiliau o
safon fyd eang y mae ar brentisiaid eu hangen i helpu sefydliadau i gynnal eu hochr gystadleuol.
“Mae’n bwysig bod cigyddiaeth yn cael ei chynrychioli fel sgil yn WorldSkills UK oherwydd mae’n grefft wirioneddol y mae angen ei meincnodi a’i hyrwyddo,” meddai Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian sy’n cydlynu’r gystadleuaeth. Mae ei chynnwys am y bedwaredd gwaith yn arf gwych i godi safonau a phroffil y diwydiant.”
Picture caption:
Cigyddion ar waith yng nghystadleuaeth Cigyddiaeth WorldSkills UK.
Ends
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Katy Godsell, Rheolwr Marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian, ar y Ffôn: 01938 555893, e-bost: katy@cambriantraining.com neu Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus ar 01686 650818.