I ddathlu ymgyrch Defnyddia dy Gymraeg eleni, rydym wedi bod yn siarad â rhai o’n prentisiaid a’n cydweithwyr am eu profiadau o ddefnyddio’r Gymraeg. Rhannodd y tri unigolyn, o bob rhan o Gymru, eu cyngor a’u safbwyntiau ynghylch pam ei bod yn bwysig defnyddio mwy o Gymraeg.
Mae Jack Williams, Swyddog Beics yn Antur Waunfawr, yn astudio Prentisiaeth Lefel 3 mewn Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy.
Y prentis cyntaf y buom yn siarad ag ef oedd Jack Williams, Swyddog Beics yn y fenter gymdeithasol Antur Waunfawr yng Nghaernarfon. Dywed Jack, sydd bellach yn gweithio tuag at Brentisiaeth Lefel 3 mewn Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy, fod siarad Cymraeg yn naturiol iddo ac mae wedi ei helpu i weithio tuag at gyflawni ei brentisiaeth.
“Ar fy mhrentisiaeth, dwi’n defnyddio’r Gymraeg yn bennaf drwy greu recordiau o drafodaethau. Mae hyn o fudd i fi achos dwi’n siarad Cymraeg drwy’r amser adre, yn y gwaith a gyda ffrindiau,” meddai.
Esboniodd hefyd bwysigrwydd defnyddio’r Gymraeg yn ei weithle a sut mae wedi ei helpu i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl.
“Yn ddiweddar rydw i wedi bod yn mynychu ysgolion cynradd i gynnal gwersi ar sgiliau beicio ar gyfer plant blwyddyn 3. Rwy’n credu yn yr oedran hwnnw, bod y plant yn dysgu’n well trwy eu hiaith gyntaf,” esboniodd.
Dywedodd hefyd: “Yn Antur Waunfawr, mae’r rhan fwyaf o staff a chwsmeriaid yn siarad Cymraeg yn rhugl felly mae’n bwysig meithrin ymddiriedaeth rhwng defnyddwyr ein gwasanaeth a’n staff.”
Yn dod o ardal fwyaf Cymraeg Caernarfon, Gwynedd, mae Jack yn deall ac yn cydnabod y berthynas a’r ymddiriedaeth y mae’n eu meithrin o fewn cymunedau. Mae’n canfod bod defnyddio’r Gymraeg ond wedi bod o fantais iddo yn y gweithle ac ar ei brentisiaeth.
Ei gyngor i’r rhai sy’n dysgu Cymraeg neu sy’n llai hyderus wrth ei defnyddio yw: “Defnyddiwch e [Cymraeg] waeth beth yw eich lefel chi. Mae’r gymuned Gymraeg yn falch o’u hiaith ac yn fwy na pharod i helpu unrhyw un sy’n mynd allan o’u ffordd i ddysgu a defnyddio’r iaith anodd.”
Mae Manon Rosser, Swyddog Cymorth y Gymraeg yn Hyfforddiant Cambrian yn astudio tuag at Brentisiaeth Lefel 4 mewn Ymarfer Cyfieithu.
Dywedodd Manon wrthym sut y cafodd ei phrofiad o fyw mewn tŷ lle nad oedd yr un o’i rhieni yn siarad Cymraeg effaith sylweddol ar ei barn o’r iaith.
“I ddweud y gwir, mae’n anodd iawn os nad ydych chi’n siarad Cymraeg gartref. Gan nad oedd yr un o’m rhieni yn siarad Cymraeg, roedd yn golygu nad oeddwn i a fy chwaer a fy mrawd yn siarad Cymraeg â’i gilydd chwaith,” eglurodd.
“Oherwydd hyn, doedd gen i ddim llawer o angerdd am yr iaith pan oeddwn yn yr ysgol ond newidiodd hyn pan symudais i i’r brifysgol yn Aberystwyth ac yna pan ddechreuais weithio i Hyfforddiant Cambrian,” meddai. “Ac wrth edrych yn ôl nawr, hoffwn pe bawn i wedi defnyddio’r Gymraeg gyda fy mrawd a’m chwaer pryd bynnag y bo modd.”
O’i gymharu ag Abertawe, mae Ceredigion a Phowys, y ddwy ardal y mae Manon wedi byw ers symud o Abertawe, yn uwch yn ôl canran o’r boblogaeth Gymraeg – Abertawe gyda chanran o 18.6%, Powys 29% a Cheredigion 57.7%.
“Mae’n wych – rydw i nawr yn siarad Cymraeg bob dydd ac rydw i wedi cael cymaint o gyfleoedd ardderchog. Rwyf wedi gwneud cais i fod yn Llysgennad Prentisiaethau Cymraeg gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac rwyf hefyd yng nghanol cwblhau Prentisiaeth Lefel 4 mewn Ymarfer Cyfieithu,” meddai. “Dwi mor ddiolchgar am hyn ac mae’r gallu i siarad Cymraeg sydd wedi galluogi popeth dwi wedi ei wneud hyd yn hyn!”
Mae siarad Cymraeg wedi cynnig nifer o gyfleoedd i Manon na fyddai hi wedi eu cael fel arall. Maent wedi ei galluogi i fynd i mewn i’r amgylchedd proffesiynol a’i helpu ymhellach drwy ei phrentisiaeth.
Mae Jess Lewis, Gweithiwr Cyswllt Bwyd a Diod yn y Celtic Colletion, yn astudio Prentisiaeth Lefel 2 mewn Gwasanaethau Lletygarwch.
Yn wahanol i Manon a Jack, mae Jess Lewis, prentis sy’n gweithio tuag at ei Phrentisiaeth Lefel 2 mewn Gwasanaethau Lletygarwch yn y Celtic Collection, yn byw mewn ardal lle mae nifer fach o bobl yn siarad Cymraeg. Soniodd am y syndod yr oedd hi’n teimlo i wybod y gallai astudio ei chwrs yn Gymraeg.
“Pan wnes i ddarganfod y cyfle i astudio fy nghymhwyster yn Gymraeg, roedd yn syndod i mi, yn enwedig gan fy mod yn byw yng Nghasnewydd.”
Er ei bod wedi synnu, dywedodd ei bod yn gyfle gwych i ailgysylltu â’r iaith. Nid yn unig y mae Jess yn awyddus i allu defnyddio’i Chymraeg ar ei chwrs, ond soniodd hefyd am gyfnod penodol lle’r oedd hi’n teimlo bod ei gallu i siarad Cymraeg wedi gwella ei gwasanaethau.
Eglurodd: “Wrth wasanaethu, roeddwn i’n gofalu am grŵp o fenywod henoed oedd yn ymddangos yn nerfus. Ond clywais nhw’n siarad Cymraeg, felly penderfynais siarad gyda’r menywod yn Gymraeg ac fe wnaethon nhw ymlacio a mwynhau’r amgylchedd llawer mwy.”
Achosion fel y rhain sy’n gwneud siarad Cymraeg mor bwysig. Mae gallu cysylltu’n well â holl gwsmeriaid y cwmni a gwella eu profiad trwy wneud iddynt deimlo’n fwy cyfforddus yn fantais fusnes wych.
Gydag un darn olaf o gyngor, dywed Jess: “Yn bersonol, y peth pwysig yw parhau i ddysgu’r iaith a’i hyrwyddo i eraill hefyd.”
Yn Hyfforddiant Cambrian, rydym wedi ymrwymo i safonau Cymraeg ac yn rhoi statws cyfartal i’r Gymraeg yn ein holl wasanaethau. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddarparu cyfleoedd Cymraeg o fewn ein darpariaeth prentisiaethau. Rydym hefyd yn falch o allu cynnig gymwysterau prentisiaeth seiliedig ar waith drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cysylltwch â ni heddiw i gael mwy o wybodaeth am ein cyfleoedd prentisiaeth yng Nghymru:
Ebost: info@cambriantraining.com Ffôn: 01938 555893
I gael gwybod mwy am ymgyrch Defnyddia dy Gymraeg, a drefnwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg, cliciwch yma.