Darparwr hyfforddiant caredig yn helpu’r digartref y Nadolig hwn

Picture caption: Llun o Sian Clarke, is-gadeirydd Helping Our Homeless Wales a’r gwirfoddolwr Liam Crosby gyda rheolwr gyfarwyddwr Hyfforddiant Cambrian, Arwyn Watkins a’r aelodau staff Loz Gaskin, Donna Heath, Shirley Chelmick a Steve Bound a helpodd gasglu bocsys esgidiau, bagiau o fwyd a siacedi i’r elusen.

Mae cyfarwyddwyr a staff caredig mewn cwmni hyfforddiant arobryn yn helpu’r digartref mewn cymunedau ledled Cymru’r Nadolig hwn.

Pan awgrymodd Loz Gaskin, sef y swyddog datblygu staff ac adnoddau ar-lein ym mhencadlys Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng, i gefnogi Casgliad Bocsys Esgidiau Nadolig Helpu’r Digartref yng Nghymru, cafodd ei hannog gan y gefnogaeth yn y cwmni.

Mae 23 bocs esgidiau’n llawn eitemau hanfodol fel hetiau, menig, sgarffiau, sanau, llyfrau, bwyd a siocledi wedi’u casglu, ynghyd â 30 siaced newydd sbon, 15 siaced gynnes ail law a bagiau o fwyd.

“Mae pob prentis yn cwblhau modiwl ar les yn ein cymwysterau ac rydym yn eu hannog i edrych ar bynciau sy’n cynnwys digartrefedd,” esboniodd Loz. “Teimlai’n briodol felly i ni gefnogi’r elusen hon yn Llandrindod sy’n gweithio gyda’r digartref.

“Bydd ein rhoddion yn mynd i bobl ddigartref yn ein cymunedau ledled Cymru. Gallwch deimlo mor ddiymadferth wrth fynd heibio i unigolyn digartref ar y stryd, ond mae’r casgliad hwn yn sicrhau eu bod yn cael eitemau hanfodol y Nadolig hwn.

“Mae ein cyfarwyddwyr a’n staff wedi bod mor hael gyda’r pethau maen nhw wedi rhoi yn eu bocsys esgidiau. Mae’n braf gweld eu bod wedi rhoi cymaint o amser ac ymdrech iddo ac maen nhw wedi rhagori ar yr hyn a oedd yn ddisgwyliedig.”

Mae plant Loz hyd yn oed wedi bod wrthi’n pacio ac mae grŵp Rainbows ei merch yn Arddlîn wedi rhoi dau focs esgidiau. Dywedodd ei bod hi’n dda bod y plant yn dysgu am ddigartrefedd.

Elusen a sefydlwyd i wella bywydau’r rhai sy’n byw ar y stryd yw Helping Our Homeless Wales ac mae’n gwneud hynny trwy ddarparu eitemau hanfodol, gofal a chymorth wyneb yn wyneb. Mae’r elusen wedi bod yn rhedeg ers tair blynedd.

Wrth ddiolch i Hyfforddiant Cambrian am ei gefnogaeth, dywedodd Sian Clarke, yr is-gadeirydd: “Rwy’n rhyfeddu faint o focsys esgidiau mae’r cwmni wedi’u rhoi i ni ac rydym yn ddiolchgar iawn.

“Mae’r bobl ddigartref a gefnogwn ledled Cymru’n caru cael y bocsys esgidiau hyn. Mae’r gefnogaeth a gafwyd wedi bod yn wych eleni ac alla i ddim aros i wneud y cyfrif terfynol yr wythnos nesaf. Cyflawnwyd y record bresennol o 450 o focsys esgidiau llynedd ac rwy’n gobeithio ein bod ni wedi casglu dros 500 eleni.”

Mae Hyfforddiant Cambrian, sydd â swyddfeydd yn y Trallwng, Llanelli, Llanfair-ym-Muallt, Caergybi a Bae Colwyn, hefyd wedi bod yn codi arian i Ymchwil Canser eleni ar ôl gosod targed i’w hunan o redeg, cerdded a beicio 1,000 o filltiroedd, gan ymweld â’r 22 sir yng Nghymru.

Bydd Diwrnod Siwmperi Nadolig y cwmni ar 13 Rhagfyr yn codi arian i Achub y Plant.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian ar y Ffôn: 01938 555 893 neu Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus ar y ffôn: 01686 650818.