Mae ymateb i anghenion cyflogwyr a dysgwyr trwy gyflwyno Fframweithiau Prentisiaeth newydd i Gymru wedi cynnal statws Cwmni Hyfforddiant Cambrian fel un o brif ddarparwyr dysgu’r wlad.
Erbyn hyn, mae’r cwmni yn y Trallwng yn ymryson i ennill gwobr Darparwr Prentisiaethau’r Flwyddyn am yr eildro mewn tair blynedd yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2014.
Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi’i gynnwys ar y rhestr fer ar gyfer categorïau Gwobr y Darparwr er Ymatebolrwydd Cymdeithasol a Darparwr Prentisiaethau’r Flwyddyn gydag ACT Training a Babcock Training Ltd yng Nghaerdydd a byddant yn mynychu seremoni wobrwyo uchel ei phroffil yng ngwesty’r Celtic Manor Resort, Casnewydd ar ddydd Gwener, 31 Hydref.
Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).
Noddir y gwobrau gan Pearson PLC gyda chefnogaeth ei bartner yn y cyfryngau, Media Wales i arddangos rhagoriaeth mewn datblygiad sgiliau yng Nghymru gan ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu.
Mae’r gwobrau’n cydnabod cyflogwyr sy’n ymroi i ddatblygu eu gweithlu trwy brentisiaethau a rhaglenni dysgu seiliedig ar waith eraill, sy’n cefnogi gweithwyr yn ystod eu hyfforddiant. Maen nhw’n ffordd wych hefyd o werthuso hyfforddiant a datblygiad, yn ogystal â bod yn ffactor llawn cymhelliant gwych ar gyfer unrhyw weithlu neu ddysgwr.
Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi datblygu enw da am arloesedd, ymgysylltiad â 450 o gyflogwyr ac am gyflwyno rhaglenni dysgu o safon. Ynghyd ag isgontractwyr partner, mae’r cwmni’n cyflogi rhyw 100 o bobl ac wedi cyflawni cyfradd llwyddo o 91 y cant ar gyfer Fframweithiau Prentisiaeth wedi’u cwblhau mewn ystod eang o sectorau diwydiannol.
Gan weithio gyda’r British Institute of Innkeeping a Lantra, cyflwynodd y cwmni Fframweithiau Prentisiaeth mewn Lletygarwch Trwyddedig a Ffensio, yn y drefn honno, i gefnogi’r ddau ddiwydiant.
Chwaraeodd y cwmni rôl allweddol hefyd wrth ddatblygu Prentisiaeth Sylfaen a Phrentisiaeth mewn Coginio Celfydd yng Nghymru ac mae wedi bod ynghlwm â People 1st wrth greu Uwch Brentisiaeth mewn Coginio Celfydd, a dreialwyd yng Nghymru eleni.
“Ein cryfder yw’n perthynas weithio agos gyda diwydiant a’r gymuned ehangach gan fod hyn yn hollbwysig ar gyfer dyfodol cynaliadwy lle caiff anghenion hyfforddi eu harwain gan alw ac nid eu cymell gan gyflenwad,” meddai’r rheolwr gyfarwyddwr Arwyn Watkins, a arferai fod yn brentis ei hun.
Dywedodd Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: “Prentisiaethau yw un o’r ffyrdd mwyaf ymarferol a chost effeithiol i fusnes adeiladu gweithlu medrus. Gall prentis ddysgu’r sgiliau y mae ar gyflogwr eu hangen i gadw i fyny gyda’r datblygiadau yn eu diwydiant a chyflawni gofynion cwsmeriaid y gwasanaeth.
“Mae darparwyr fel Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn chwarae rhan allweddol wrth helpu Llywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglenni dysgu seiliedig ar waith i hyfforddi a datblygu gweithlu’r wlad.”
Mae disgwyl i dros 400 o randdeiliaid allweddol o’r sector addysg a hyfforddiant galwedigaethol ledled Cymru fynychu’r seremoni wobrwyo uchel ei phroffil lle bydd y gwesteion yn gwledda gyda chogyddion Tîm Coginio Cenedlaethol Cymru.