Wrth i’r Llewod baratoi am eu gornest yn erbyn cewri’r byd rygbi, sef Crysau Duon Seland Newydd, mae rhai o gigyddion gorau Prydain ac Iwerddon wedi bod yn gweithio’n wrol hefyd, yn cystadlu am le yn rownd derfynol cystadleuaeth gigyddiaeth fawreddog Worldskills UK.
Mae cystadleuwyr ar draws y pedair gwlad wedi dod at ei gilydd ac wedi cael ystod o heriau cigyddiaeth mewn rowndiau yn Perth, Leeds, Newry a Chanolfan Ragoriaeth Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng. Bydd y chwe chigydd â’r sgorau uchaf o’r rowndiau’n symud ymlaen i’r rownd derfynol yn yr NEC Birmingham ym mis Hydref.
Ac, yn ddi-os, mae’r cigyddion gorau wedi gweithio gyda’r cynhwysion gorau, gan fod y corff Cymreig Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales (HCC) wedi mynd i bartneriaeth gyda threfnwyr yr ornest i sicrhau bod ysgwydd o Gig Oen Cymreig PGI (Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig) yn rhan o’r her i bob cystadleuydd ym mhob rownd.
“Rydym yn falch o barhau â’n hymwneud â chystadleuaeth gigyddiaeth Worldskills UK trwy noddi a phrynu’r Cig Oen Cymreig PGI ar gyfer pob rownd eleni,” meddai Kirstie Jones, Swyddog Datblygu Marchnata HCC.
Ychwanegodd Kirstie, “Mae HCC yn ymroi i gefnogi’r sector cigyddiaeth a phrosesu sydd mor dyngedfennol bwysig i’n diwydiant. Yn ogystal â chefnogi busnesau cigyddiaeth y stryd fawr trwy’n Clwb Cigyddion Cig Oen Cymreig PGI a Chig Eidion Cymreig PGI, cefnogwn hyfforddiant a rhagoriaeth yn y sector hefyd.”
“Mae cigyddion ifanc Cymru’n llwyddo yn nigwyddiadau mawreddog Worldskills,” esboniodd Kirstie. Dros y ddwy flynedd diwethaf, Matthew Edwards a Peter Rushforth, ill dau’n hanu o ardal Wrecsam, sydd wedi cipio’r wobr uchaf yn y rownd derfynol, ac ers hynny, maen nhw wedi adeiladu gyrfaoedd addawol yn y diwydiant ac wedi cymryd rhan yn ymgyrchoedd hyrwyddo HCC.
“Rwy’n falch y cafodd holl gystadleuwyr eleni’r cyfle i arddangos eu sgiliau gydag ysgwydd o Gig Oen Cymreig PGI o’r safon uchaf. Roedd y safon yn eithriadol, ac rwy’n edrych ymlaen at glywed pwy fydd yn cyrraedd y rownd derfynol.”
Dywedodd Katy Godsell o Gwmni Hyfforddiant Cambrian, sy’n trefnu’r gystadleuaeth ar gyfer Worldskills UK: “Bu cam rowndiau’r gystadleuaeth eleni’n agos iawn ac rydym yn edrych ymlaen at gyhoeddi enwau’r sawl yn y rownd derfynol eleni. Fel darparwr hyfforddiant Cymraeg ein hunain, roedd hi’n anrhydedd mawr i weld holl gystadleuwyr cigyddiaeth Worldskills yn gweithio gyda Chig Oen Cymreig safon uchel ar draws y DU a hoffwn ddiolch i HCC am eu cefnogaeth.”
Am fwy o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Swyddfa’r Wasg HCC ar 01970 625050 / press@hccmpw.org.uk