Mae technegydd plastigion mewn canolfan ailgylchu yng Ngogledd Cymru’n elwa ar ymgyrch Llywodraeth Cymru i gyflwyno prentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Cyflogir Dafydd Emrys, sy’n 34 oed, yn safle Caergylchu’r fenter gymdeithasol Antur Waunfawr yng Nghaernarfon. Mae Dafydd ar y sbectrwm awtistig a chanfu ei fod yn cael trafferth gwneud ei waith yn Saesneg pan ddechreuodd asesiad sgiliau hanfodol i ddarganfod a oedd yn gweddu i Brentisiaeth Sylfaen mewn Ailgylchu (NVQ lefel 2).
Canfu’r swyddog hyfforddiant Amy Edwards, o Gwmni Hyfforddiant Cambrian, fod Dafydd yn deall y cwestiynau asesu’n well o’u gofyn yn y Gymraeg, sef ei iaith gyntaf, yn lle’r Saesneg.
Felly, gofynnodd tad Dafydd, sef Emrys Reid, a fyddai modd cyflwyno’r Brentisiaeth Sylfaen yn y Gymraeg a chytunodd Cwmni Hyfforddiant Cambrian a chyfieithu ei werslyfrau iddo. Mae Dafydd yn un o saith aelod o staff sy’n gweithio tuag at y cymhwyster, ond ef yw’r unig un sy’n ei wneud yn y Gymraeg ar hyn o bryd.
Mae Haydn Jones, rheolwr Antur Waunfawr, Amy ac Emrys i gyd wedi addo helpu Dafydd gyda’r cymhwyster os bydd angen cymorth ychwanegol arno.
“Mae Dafydd yn cael trafferth prosesu rhai geiriau Saesneg ond yn teimlo bod y cwrs yn llawer haws ei ddeall yn y Gymraeg,” meddai Haydn. “Rwy’n credu ei bod hi’n wych bod Dafydd wedi agor y drws i bobl eraill a hoffai wneud eu NVQ yn eu mamiaith yn y dyfodol.
“Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi bod yn gefnogol iawn o Dafydd o’r dechrau’n deg sydd wedi’i alluogi i fynd ar y cwrs ac maen nhw wedi gwneud y broses ddysgu’n llawer haws ei rheoli ac yn effeithiol iddo.”
Mae Amy yn hyderus y bydd Dafydd, sydd â TGAU mewn Mathemateg a Chelf, yn cwblhau’r cymhwyster ochr yn ochr â’i gydweithwyr. “Mae’n gwneud yn dda iawn hyd yma ac mae ei atebion yn bodloni’r meini prawf bob amser,” meddai. “Mae’n angerddol iawn ynghylch ailgylchu.
“Rydym yn trafod trwy’n holl sesiynau yn y Gymraeg ac yn cellwair ei fod yn fy helpu i wella fy Nghymraeg oherwydd mae’n ail iaith i mi. Dyma’r tro cyntaf i Gwmni Hyfforddiant Cambrian gyflwyno cymhwyster mewn rheoli adnoddau yn gynaliadwy yn y Gymraeg oherwydd nid oes neb wedi gofyn o’r blaen.”
Rhoddodd ganmoliaeth i Antur Waunfawr am gyflogi, cefnogi ac integreiddio pobl gydag anableddau dysgu a dywedodd y byddai’n enwebu’r cwmni am un o wobrau Cyflogwr y Flwyddyn Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn 2018.
Mae Antur Waunfawr yn fenter gymdeithasol sy’n darparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i bobl gydag anableddau dysgu yn eu cymuned. Cyfloga’r elusen dros 90 aelod o staff ac mae’n cefnogi dros 60 o oedolion gydag anableddau dysgu.
Mae Llywodraeth Cymru’n awyddus i gynyddu’r cyfleoedd i ddysgwyr ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Mae am sicrhau bod pob dysgwr yn cael cyfle i gynnal a datblygu eu sgiliau yn y Gymraeg.