Mae 36 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant o bob cwr o Gymru wedi’u dewis i rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau mawreddog Cymru eleni yn dilyn nifer uwch nag erioed o geisiadau.
Daw’r gwobrau chwenychedig, a drefnir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) i uchafbwynt gyda seremoni gyflwyno a chinio proffil uchel yn y Celtic Manor Resort, Casnewydd ar ddydd Gwener, 31 Hydref.
Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n dathlu cyflawniadau’r rheiny sydd wedi gwneud yn well na’r disgwyl, wedi dangos dull deinamig o droi at hyfforddiant ac wedi dangos blaengaredd a mentergarwch, arloesedd, creadigedd ac ymrwymiad i wella datblygiad sgiliau economi Cymru.
Noddir y gwobrau, sy’n dangos rhagoriaeth o ran datblygu sgiliau yng Nghymru gan ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu, gan Pearson PLC gyda chymorth partner y cyfryngau, Media Wales.
Mae’r gwobrau’n cydnabod cyflogwyr sy’n ymroi i ddatblygu eu gweithlu trwy brentisiaethau a rhaglenni dysgu yn y gwaith eraill, sy’n cefnogi gweithwyr yn ystod eu hyfforddiant. Maen nhw’n ffordd wych hefyd o arfarnu hyfforddiant a datblygiad, yn ogystal â bod yn ffactor gwych wrth gymell unrhyw weithlu neu ddysgwr.
Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Dyma’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn yr 13 categori: Prentis a Phrentis Entrepreneuraidd y Flwyddyn: James Perry o Pentre sy’n gweithio i Openreach yn BT, Neil Meredith o Abercynon sy’n gweithio i Complete Core Business Solutions, Sophie Gittins o Aberriw sy’n gweithio i C. D. Gittins Partnership a Tom Jones, sy’n berchen ar Jones Butchers, Llangollen.
Uwch Brentis y Flwyddyn: Daniella Hughes o Fynydd Isa, Yr Wyddgrug a Devon Sumner o Saighton, ger Caer, y ddau’n gweithio i Airbus UK a Luke Goodrich o Dreforys sy’n gweithio i’r Adran Gludiant.
Prentis Sylfaen y Flwyddyn: Matthew Edwards o’r Hob, Wrecsam sy’n gweithio i Vaughan’s Family Butchers, Penyffordd, ger Caer, Thomas Woodward o’r Drenewydd sy’n gweithio i RWE Innogy, Tomos Kinsey o Newbridge sy’n gweithio i John Lewis.
Dysgwr Swydd dan Hyfforddiant y Flwyddyn (Ymgysylltiad): Andrew Lloyd o Gonwy, Dewi Evans o Donyrefail a Nicole Evans o Fangor. Dysgwr Swydd dan Hyfforddiant y Flwyddyn (Lefel 1): Ashley Coleman o Bentre-baen, Caerdydd, Nicholas Mckeown o Fangor a Rebecca Cooper o Lanfaethlu, Caergybi.
Cyflawnwr Eithriadol y Flwyddyn Twf Swyddi Cymru: Helen Brickley o Bontllanfraith, sy’n gweithio i Goose Island, Ricky Owen o Dreforys sy’n gweithio i Hydra Blackwood Technologies Ltd a Sion Hampson o Ddinas Powys sy’n gweithio i Pedal Power.
Y tri sydd wedi cyrraedd rownd derfynol categori Cyflogwr Macro’r Flwyddyn (dros 5,000 o weithwyr) yw BBC Cymru Wales, Bwrdd Gwasanaeth Lleol Conwy a Sir Ddinbych ac EE Ltd, Merthyr Tudful.
Categori Cyflogwr Mawr y Flwyddyn (250 i 4,999 o weithwyr): Gwasanaethau Adeiladu ac Eiddo Corfforaethol Dinas a Sir Abertawe, Dunbia (Wales) Llanybydder, G. E. Aviation, Nantgarw a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Cyflogwr Canolig y Flwyddyn (o 50 i 249 o weithwyr): Andrew Price Group, Arberth, Carmarthenshire Construction Training Association Ltd (CCTAL) a’r Urdd, Caerdydd. Cyflogwr Bach y Flwyddyn (hyd at 49 o weithwyr): Nemein Ltd, Pen-y-bont ar Ogwr, Real SFX, Caerdydd a’r Tree Frog Creative, Saltney.
Gwobr Darparwr Dysgu’r Flwyddyn a Gwobr Darparwr ar gyfer Ymatebolrwydd Cymdeithasol: ACT Training, Caerdydd, Babcock Training Ltd, Caerdydd a Chwmni Hyfforddiant Cambrian, Y Trallwng.
Llongyfarchodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Ken Skates yr holl bobl a gyrhaeddodd y rownd derfynol a dywedodd fod pob un ohonynt eisoes yn enillwyr am eu bod wedi cyrraedd y rhestr fer am y gwobrau.
“Crëwyd argraff fawr arnaf o ran safon a nifer y ceisiadau gan fusnesau a darparwyr,” ychwanegodd. Rydym wedi gweld lefel ddigynsail o ddiddordeb yn y gwobrau eleni sy’n destament i’r parch mawr i’r prentisiaethau.
“Ymhlith y ceisiadau eleni mae rhai prentisiaid gwirioneddol eithriadol ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle i ni ddathlu eu gwaith caled a’u cyflawniadau.
“Cyn bwysiced â’r rhain, wrth gwrs yw’r darparwyr hyfforddiant a’r cyflogwyr sydd wedi teithio’r filltir ychwanegol i gefnogi eu prentisiaid.”
Datgela’r ffigurau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru fod y cyfraddau llwyddiant ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru’n parhau i fod ymhell dros 80%.
Prentisiaethau yw’r safon aur mewn hyfforddiant galwedigaethol i bobl ifanc uchelgeisiol.
I fusnes, darparant fanteision tymor hir ychwanegol o ostyngiad mewn costau hyfforddi a recriwtio, cynnydd mewn cynhyrchiant a gweithlu ymatebol, uchel ei gymhelliant.
I unigolion, gall prentisiaeth fod yn gyfwerth â lle yn y brifysgol orau, gan alluogi prentisiaid i ennill arian wrth ddysgu ac ennill sgiliau, gwybodaeth a chymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol.