Mae myfyrwyr celfyddydau perfformio a adawodd y brifysgol i gychwyn ar yrfa fel cigydd wedi bod o dan y llifoleuadau yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn Llanfair ym Muallt ddydd Llun.
Gwnaeth Sam Hughes, 22, o Gigyddion Brian Crane, Maesycwmer, Caerffili, brofi mai ef yw’r gorau gan iddo ennill cystadleuaeth Cigydd Ifanc Cymru ar y cynnig cyntaf. Yn ail roedd Joseph Gibbs, 21, o Martin Players, Caerdydd ac yn drydydd roedd Dewi Davies, 19, Siop Goffi a Fferm Bethesda, Bethesda, Arberth.
Yn dilyn cystadleuaeth y bore daeth Sam yn gydradd drydydd yng nghystadleuaeth Cigydd Porc Cymru, a oedd ar agor i gigyddion o bob oed, yn y prynhawn. Yr enillydd oedd Craig Holly, o Gigyddion Neil Powell, y Fenni, â Kevin Aldred, Martin Players, Caerdydd yn ail a Clive Swan, Siop Fferm Swans, yr Wyddgrug, yn gydradd drydydd.
“Gwnaeth i mi deimlo ychydig yn nerfus ac ni fyddai fy nwylo’n stopio ysgwyd am yr awr gyntaf,” cyfaddefodd Sam, prentis gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian. “Roedd yr ail awr yn well o lawer ac ni allwn stopio gwenu pan gyhoeddwyd fy enw fel enillydd cystadleuaeth Cigydd Ifanc Cymru.
“Cefais syndod hapus i ennill ac mae’n hwb mawr i’m hyder. Er fy mod wedi bod yn gigydd am 18 mis yn unig, mae hyn yn dangos fy mod yn ddigon da i ennill cystadlaethau a bellach mae gennyf dlws i ddangos i gwsmeriaid.
“Rhoddais y gorau i’r brifysgol yng Nghaerdydd i gael swydd amser llawn, a chredaf fy mod wedi gwneud fy hun yn falch.”
Roedd hefyd yn fuddugoliaeth ar y cynnig cyntaf i Craig, 28, o’r Fenni. “Rhoddais gynnig ar y gystadleuaeth ar gyfer y profiad yn unig, i fod yn onest a ni allaf gredu o hyd fy mod wedi ennill,” cyfaddefodd. “Roeddwn yn eithaf nerfus ac roedd yn rhaid i mi gywiro un neu ddau o gamgymeriadau, ond roeddwn yn falch iawn i ennill.
“Yn bendant byddaf yn gwneud ychydig yn fwy o gystadlaethau oherwydd ei fod yn braf i weld pethau a’m hysbrydolodd.”
Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian, darparwr dysgu yn y gwaith sydd wedi ennill gwobrau, yn trefnu’r gystadleuaeth Cigydd Ifanc Cymru, sydd ar agor i gigyddion o dan 25 oed, a hefyd yn cydweithio â Keith Brown, prif stiward cystadlaethau cynhyrchu cig Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, i redeg Cystadleuaeth Cigydd Porc Cymru ar y cyd. Noddodd Hybu Cig Cymru y ddwy gystadleuaeth.
Mae’r ddwy rownd derfynol yn gerrig camu i gystadlaethau ledled y DU, â’r enillwyr yn cael y cyfle i ddilyn ôl troed cigyddion dawnus fel Matthew Edwards o Gigydd Teuluol Vaughan, Penyffordd a Peter Rushforth o Siop Fferm Swans, yr Wyddgrug, sydd ill dau wedi cynrychioli’r DU yng Nghystadleuaeth Genedlaethol Cigyddiaeth Worldskills UK.
Yn ogystal â chael y fraint o gael ei enwi yn gigydd ifanc gorau Cymru, cafodd yr enillydd siec am £130, ac roedd enillydd yr ail wobr yn derbyn £70 a derbyniodd y pedwar sy’n cyrraedd y rownd derfynol dlws.
Eleni, cafodd y cigyddion ifanc eu herio i gynhyrchu arddangosfa o gig mewn dwy awr o grwper uchaf cyfan o Gig Eidion Cymreig, coes o Gig Oen Cymreig PGI, bol mochyn cyfan a chyw iâr gyfan.
Yn y gystadleuaeth cigydd porc, cafodd y cigyddion ddwy awr i greu arddangosfa arloesol a chreadigol o hanner mochyn Cymreig, gan ddefnyddio naill ai dulliau modern ynteu ddulliau traddodiadol a phecynnu i hybu Porc Cymreig yn y ffordd orau i ddefnyddwyr.
Y beirniaid ar gyfer y ddwy rownd derfynol oedd Steve Vaughan, perchennog Cigyddion Vaughan, Penyffordd, Wrecsam a Steve Morgan, Cigyddion Morgan, Aberhonddu a Llanfair ym Muallt.
Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn darparu prentisiaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hariannu â chefnogaeth oddi wrth Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Capsiynau’r lluniau:
Sam Hughes gydag un o’r arddangosfeydd cig a helpodd iddo ddod yn bencampwr cystadleuaeth Cigydd Ifanc Cymru.
Cystadleuwyr rownd derfynol Cigydd Ifanc Cymru gyda’r noddwyr (o’r chwith) Arwyn Watkins, Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Dewi Davies, Sam Hughes, Rhys Llewelyn, swyddog datblygu marchnad Hybu Cig Cymru a Joseph Gibbs.
Pencampwr Cigydd Porc Cymru Craig Holly gyda’r noddwr Rhys Llewelyn, swyddog datblygu marchnad Hybu Cig Cymru.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian, ar Ffôn: 01938 555 893, neu Duncan Foulkes, cynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar Ffôn: 01686 650818.