Adwerthu yw gwerthu nwyddau a gwasanaethau gan unigolion neu fusnesau i’r defnyddiwr terfynol. Mae adwerthwyr yn rhan o system integredig a elwir yn gadwyn gyflenwi. Mae adwerthwr yn prynu nwyddau neu gynhyrchion mewn symiau mawr yn uniongyrchol gan gynhyrchwyr neu trwy gyfanwerthwyr, ac yna’n gwerthu symiau llai i’r defnyddiwr am elw.

Gellir adwerthu mewn mannau fel siopau neu farchnadoedd, o ddrws i ddrws neu mae danfoniadau neu adwerthu ar-lein, sef math o fasnach electronig a ddefnyddir ar gyfer trafodion busnes i ddefnyddwyr ac archebu drwy’r post yn fathau o adwerthu heb fynd i’r siop.

Gall dysgu trwy brentisiaethau helpu staff i ddatblygu sgiliau sy’n hanfodol i greu gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant.

Hyfforddiant a Phrentisiaethau

Cynigiwn brentisiaethau mewn Sgiliau Adwerthu i weddu i bob maes o’r diwydiant; o lefel sylfaen ledled Cymru. Gellir defnyddio’r prentisiaethau hyn ar draws ystod eang o sectorau a rolau swyddi.

Mae prentisiaethau’n darparu rhaglen syml a rhesymol o ddysgu sy’n cyflwyno cyflawniad a chymwysterau dysgwyr mewn ffordd sy’n hawdd ei deall, ei mesur a’i chymharu gyda chymwysterau cenedlaethol eraill.

Anelwn at roi cyfle i unigolion ddysgu’n fwy hyblyg a galluogi ystod ehangach o sefydliadau, gan gynnwys cyflogwyr, i gael cydnabyddiaeth am eu hyfforddiant.

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn ganolfan gymeradwy gydag Edexcel i gyflwyno hyfforddiant mewn Sgiliau Adwerthu.

Gall ein Swyddogion Hyfforddi profiadol helpu gweithwyr i ddewis y cwrs iawn ar y lefel briodol i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth. Cyflwynir y cymwysterau hyn yn y gweithle.

Cymwysterau Prentisiaethau sydd ar gael;

Cyflogwyr; 

Rydym wedi sefydlu cysylltiadau gweithio gwych gyda chyflogwyr ledled Cymru ac rydym yn parhau i rwydweithio gyda chyflogwyr sy’n cymryd rhan mewn prentisiaethau fel rhan o’u rhaglen datblygu hyfforddiant. Gwelwch beth mae ein cyflogwyr yn dweud amdanom ni >>

Cyllid ar gael

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu y rhan fwyaf o gostau’r prentis, gan adael chi i dalu am eu cyflog yn unig.

Am ddysgu yn y Gymraeg? Rydym yn gallu darparu pob un o’n rhaglenni prentisiaethau yn ddwyieithog neu’n Gymraeg