Cymwysterau ar gyfer Pawb – Rhaglen Gymhorthdal Cymhwyso Rhannol

Jordan Davies – Ei daith hyd yn hyn

Ar hyn o bryd mae Jordan, sy’n byw yn Aberpennar, yn gweithio yn Dewis ym Mhontypridd ac mae’n rhan o’r llwybr ‘Rhannu Prentisiaeth a Gynorthwyir’. Mae’n ymgymryd â Phrentisiaeth Lefel 2 mewn Gweinyddu Busnes. Cafodd ddiagnosis o ‘syndrom Asperger’ pan oedd yn bedair oed. Mae’n mwynhau ei swydd wrth iddo ddysgu sgiliau a gwybodaeth newydd ar yr un pryd. Mae wedi canfod bod ei gydweithwyr yn gefnogol iawn ac yn amyneddgar pan oedd yn newydd i’r rôl ac yn dysgu beth oedd angen iddo ei wneud.

Dywedodd Jade Jones, rheolwr llinell Jordan: “Daeth Jordan i Dewis Centre for Independent Living drwy’r rhaglen ‘Rhannu Prentisiaeth a Gynorthwyir’. Mae Jordan yn aelod o staff positif, cwrtais a chymwynasgar ac mae wedi goresgyn ei bryderon cychwynnol am ei rôl newydd trwy ddeall bod ei gydweithwyr yn hapus i’w gefnogi, os oes eu hangen arno. Mae wedi ymgartrefu’n dda iawn ac mae bellach yn gymwys yn y tasgau a ymddiriedwyd iddo ac mae ei hyder yn ei waith a gyda’i gydweithwyr wedi tyfu.”

Esboniodd Jordan: “Cymerodd y CADY (Debbie Lovatt) o Gwmni Hyfforddiant Cambrian a’r hyfforddwr swyddi (Lauren Harris) o Elite amser i ddysgu amdanaf a beth oedd fy anghenion penodol yn ystod ac ar ôl cyfarfod. Maent wedi dod o hyd i amrywiaeth o ddulliau sydd wedi fy helpu i lwyddo. Trafodais fod angen help arnaf wrth esbonio pynciau a thestunau penodol i mi, drwy esbonio mewn ffordd glir a chryno neu drwy ei ail-eirio. Wrth ateb cwestiynau gwybodaeth benodol, efallai y bydd angen ychydig o anogaeth arnaf er mwyn i mi ddeall beth mae’r cwestiwn yn ei ofyn. Soniais hefyd y gallai fod angen llawer o amynedd os nad wyf yn siŵr o rywbeth gan fy mod weithiau’n mynd yn rhwystredig os nad wyf yn deall. Yna datblygwyd ‘Cynllun Datblygu Personol’ (CDP) i helpu’r swyddogion hyfforddi i’m cefnogi.”

Aeth ymlaen i ddweud: “Rwyf wedi teimlo’n hapus iawn ac yn falch o’r gefnogaeth a’r amynedd a roddwyd i mi’r holl ffordd trwy fy astudiaethau prentisiaeth gan swyddogion Hyfforddiant Cambrian (Jonathan Hewitt a Claire Morris). Os nad wyf yn deall y cwestiwn neu’r pwnc, nid oes unrhyw bwysau yn cael ei roi arnaf o gwbl. O bryd i’w gilydd, efallai y bydd yn cymryd sawl munud i mi ddeall rhai pethau ond yn bendant mae yna lawer o amynedd ac egluro ynghlwm. Mae’r swyddogion hyfforddi yn egluro cwestiynau a phynciau penodol yn seiliedig ar eu gwybodaeth a’u profiad eu hunain, sy’n bendant yn fy helpu i ddeall yn well ac maen nhw’n ei gwneud hi’n ddiddorol iawn ac yn berthnasol i’r rôl rwy’n ei gwneud yn y swyddfa hefyd.”

Mae Jordan yn credu bod yr ymchwil y mae wedi bod yn ei wneud er mwyn cwblhau’r unedau prentisiaeth wedi rhoi mwy o wybodaeth a dealltwriaeth iddo wrth weithio o fewn yr amgylchedd busnes ac yn mynd ymlaen i ddweud: “Roeddwn i’n ansicr am nifer o bethau pan ddechreuais weithio yn ‘Dewis Independent Living’ am y tro cyntaf, ac erbyn hyn mae gen i well dealltwriaeth o dasgau swyddfa benodol sydd wedi gwneud i mi deimlo’n fwy cyfforddus a brwdfrydig wrth weithio yn y swyddfa ac rwy’n teimlo’n fwy hyderus wrth gwblhau mwy o dasgau.

“Byddwn yn argymell llwybr prentisiaeth i unrhyw un ag anghenion dysgu neu anabledd gan fy mod wedi canfod bod CHC yn hynod gefnogol yn y gefnogaeth a’r arweiniad y maent yn eu rhoi ar waith i mi. Mae’n ffordd wych i bobl ddechrau gyrfa newydd. Hefyd, mae’n ffordd wych o adeiladu a datblygu sgiliau dysgu a hyder. Mae’r cymorth, y gefnogaeth, y ddealltwriaeth a’r hyfforddiant gan Aseswyr Hyfforddiant Cambrian a’r cydweithwyr a’r rheolwyr o Dewis yn sicr heb ei ail, – yn enwedig pan fyddant yn gweithio mor galed i gael cyflogwyr / dysgwyr i lwyddo. Rwyf hefyd yn teimlo bod gan bob un ohonynt wybodaeth, profiad a dealltwriaeth ragorol gydag unigolion sydd ag ystod o anghenion dysgu ychwanegol.”

Yn olaf, eglurodd y cyflogwr: “Hoffai Dewis fynegi pa mor falch ydym o gael y math hwn o raglen ar gael i ni gan ein bod yn gwerthfawrogi’r holl bobl rydym yn eu cyflogi, ond mae’n wych bod yn rhan o raglen sy’n helpu ac yn rhoi sgiliau newydd i bobl ag anableddau neu gyfyngiadau yn eu bywydau. Maent yn cael effaith fawr ar ein busnes yn ogystal â defnyddwyr ein gwasanaethau. Rydym yn gobeithio y gallwn barhau i weithio gyda’r rhaglen hon i roi’r un cyfleoedd i eraill.”