Bydd cigyddion dawnus ledled y DU yn cael cyfle i arddangos eu sgiliau yng Nghystadleuaeth Genedlaethol Worldskills UK mewn Cigyddiaeth am y tro cyntaf eleni.
Penodwyd y darparwr hyfforddiant arobryn, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, yn y Trallwng, i drefnu’r gystadleuaeth cigyddiaeth ar ran WorldSkills UK. Mae’r ceisiadau’n agor ar ddydd Llun, 9 Chwefror a gall cigyddion gofrestru hyd at 20 Mawrth yn: http://worldskillsuk.org/competitions/national-competitions/professional-services/butchery
Bydd rhagbrofion rhanbarthol neu rowndiau asesu’n cael eu cynnal rhwng mis Ebrill a Gorffennaf a bydd y chwe chigydd uchaf eu sgôr o bob cwr o’r DU yn cymhwyso am y rownd derfynol i’w chynnal yn y Sioe Sgiliau, a gynhelir yn yr NEC Birmingham o 19 i 21 Tachwedd.
Y Sioe Sgiliau yw digwyddiad sgiliau a gyrfaoedd mwyaf y wlad ac mae’n helpu ffurfio dyfodol y genhedlaeth nesaf.
Dyluniwyd Cystadlaethau Sgiliau Cenedlaethol Worldskills UK i wella rhaglenni prentisiaeth a hyfforddiant a gwella a chymell sgiliau yn y diwydiant. Mae cigyddiaeth yn un o fwy na 60 o sgiliau i gael eu cynnwys yn y cystadlaethau eleni.
Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi dod â llawer o brif chwaraewyr y diwydiant cig at ei gilydd i ffurfio gr?p llywio ar gyfer y gystadleuaeth cigyddiaeth. Ymhlith y partneriaid mae Pearsons, Scottish Federation of Meat Traders, Y Ffederasiwn Cenedlaethol Masnachwyr Cig a Bwyd, Institute of Meat, BPEX, Eblex, Dunbia Ltd, Bwydydd Castell Howell, Leeds City College, Improve – The National Skills Academy for Food & Drink, Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales, Randall Parker Foods a’r ymgynghorydd diwydiant cig, Viv Harvey.
Ar ôl mynd â phrentisiaid cigyddiaeth i ddangos eu sgiliau yn y Sioe Sgiliau bob blwyddyn ers 2011, roedd Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn awyddus i ychwanegu’r alwedigaeth at y gystadleuaeth sgiliau i godi proffil cigyddion medrus ar draws y DU.
Mae’r cwmni yn rhedeg Cystadleuaeth flynyddol Cigydd Ifanc Cymru hefyd ac mae’r cystadleuwyr wedi mynegi dymuniad i gystadlu yn erbyn cyd-gigyddion ar lwyfan cenedlaethol a rhyngwladol.
“Yn ddiweddar, cafodd ddau o’n prentis cigyddion eu dewis i gynrychioli Prydain Fawr mewn cystadleuaeth ryngwladol, sydd wedi tynnu sylw at yr ychydig gyfleoedd sy’n bodoli iddynt arddangos eu sgiliau yn y DU,”esboniodd Arwyn Watkins, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian.
“Mae’n bwysig bod cigyddiaeth yn cael ei chynrychioli fel sgìl yn WorldSkills UK oherwydd mae’n grefft go iawn y mae angen ei meincnodi a’i hyrwyddo. Bydd ei chynnwys am y tro cyntaf yn arf gwych i godi safonau a phroffil y diwydiant.
“Mae WorldSkills fel Gemau Olympaidd y byd sgiliau ac mae’n newyddion mawr iawn ym maes dysgu galwedigaethol ar lefel genedlaethol a hefyd mewn ysgolion, colegau a sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach eraill.”
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Katy Godsell, Rheolwr Marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian ar Ffôn: 01938 555893 e-bost: katy@cambriantraining.com neu Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar 01686 650818