Ar ôl lansio rhaglen brentisiaethau bum mlynedd yn ôl, mae cynhyrchiant, ymgysylltiad y gweithlu a chyfraddau cadw staff wedi gwella yng nghwmni Mainetti sydd â gweithlu rhyngwladol o dros 200.
Mae cwmni Mainetti o Wrecsam ailddefnyddio, ailgylchu ac ailddosbarthu hangers dillad i gwmnïau siopau mawr ac maent yn trafod tua miliwn o hangers y dydd.
Dechreuodd y cwmni arloesol ailgylchu hangers ar ran ei gwsmeriaid yn yr 1960au ac mae’n rheoli rhaglenni ailddefnyddio ers canol yr 80au gan ddod yn un o brif gwmnïau’r maes.
Yn awr, mae Mainetti wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd y cwmni’n cystadlu i fod yn Gyflogwr Canolig y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.
Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.
Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.
Gan gydweithio â’r darparwr dysgu Cwmni Hyfforddiant Cambrian, ar gyfer goruchwylwyr y cyflwynodd Mainetti brentisiaethau i ddechrau ac yna fe ddaeth y rheiny’n fentoriaid i gefnogi prentisiaid newydd.
Cafodd y rhaglen ei ehangu i gynnwys y gweithlu ehangach yn y ddwy flynedd ddiwethaf ac erbyn hyn mae 63 o weithwyr y cwmni’n gweithio tuag at gymwysterau sy’n amrywio o Brentisiaethau Sylfaen i Brentisiaethau Uwch.
Ymhlith y cymwysterau lefel dau a thri mae rheoli adnoddau cynaliadwy, technegau gwella busnes ac arwain tîm. Yn ogystal, symudodd dau o’r prentisiaid gwreiddiol ymlaen i Brentisiaethau Uwch (lefel pedwar) mewn rheolaeth ac arweinyddiaeth a rheoli systemau a gweithrediadau gan weithredu fel mentoriaid a modelau rôl ar yr un pryd.
Un arwydd o’r berthynas dda sydd rhwng Mainetti a Chwmni Hyfforddiant Cambrian yw eu bod yn rhannu un aelod o staff. Hofforddwyd Joanna Nawrot fel asesydd ac mae’n treulio dau ddiwrnod yn cyflenwi prentisiaethau a thri diwrnod yn gwneud gwaith cynhyrchu. Mae hefyd yn helpu i gyfieithu deunyddiau technegol i Bwyleg i helpu rhai o’i chydweithwyr.
“Mae ein perfformiad yn dibynnu ar y bobl a gyflogwn ac, yn ein barn ni, mae hyfforddiant yn hanfodol i’r busnes,” Meddai Mikolaj Pietrzyk, rheolwr safle Mainetti. “Bu cynnydd o 30 y cant yn ymgysylltiad y staff rhwng 2016 a 2017, sy’n uwch na’r cyfartaledd yn y diwydiant, bu cynnydd hefyd mewn cynhyrchiant a chynnyrch ac mae trosiant y staff gryn dipyn yn llai nag sy’n arferol.”
Mae Heather Martin, pennaeth uned fusnes Cwmni Hyfforddiant Cambrian, yn dweud mai Mikolaj sydd wedi cyflwyno’r agwedd gadarnhaol at hyfforddi a datblygu staff Mainetti. “Mae’r cwmni’n dangos mwy o ymroddiad nag a welwn gan gyflogwyr eraill,” meddai.
Wrth longyfarch Mainetti ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan: “Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a’r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a’n hyfforddeion disglair wedi’i gyflawni.
“Mae prentisiaethau’n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi’r busnes ar gyfer y dyfodol.
“Ni fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.
Capsion llun:
Rheolwr safle Mainetti, Mikolaj Pietrzyk (yn y canol) gyda’r prentisiaid Ovidijus Rugienis, Alexandru Hearsu, Ewa Pulkosnik a Boguslawa Ros.
Heather Martin (ar y chwith) o Gwmni Hyfforddiant Cambrian yn ystod sesiwn hyfforddi gydag Ovidijus Rugienis a Boguslawa Ros ar safle Mainetti Wrecsam.