Mae un deg chwe phrentisiaeth newydd yn cael eu creu yn sgil lansio academi hyfforddiant mewn cwmni llwyddiannus yn y Trallwng sy’n creu ystod enfawr o bwdinau crefftus i’r diwydiant gwasanaeth bwyd.
Mae Sidoli, sy’n cyflogi 400 o bobl yn ei bencadlys yn Henfaes Lane, yn lansio’r academi er mwyn tyfu ei weithlu amlfedrus ei hun, wedi iddo gael trafferth recriwtio staff medrus yn y gorffennol.
Gweithia’r cwmni’n agos gyda’r darparwr hyfforddiant lleol, Cwmni Hyfforddiant Cambrian sydd wedi ennill sawl gwobr, a nhw fydd yn cyflwyno’r rhaglenni prentisiaeth i’r Academi. I ddechrau, bydd y darparwr hyfforddiant yn cyflwyno Prentisiaethau Sylfaen yn Sgiliau’r Diwydiant Bwyd, gan gefnogi prentisiaid yn y gweithle.
Mae Sidoli’n awyddus i recriwtio pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed sy’n rhifog, yn llythrennog ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu da. Yn ogystal, mae angen iddynt hoffi bwyd, gallu gweithio fel aelod o dîm a defnyddio’u menter eu hunain.
Bydd ymgeiswyr ar gyfer yr 16 prentisiaeth yn cael eu gwahodd i ddiwrnod agored ar 11 Awst pan fyddant yn cael taith o gyfleusterau cynhyrchu Sidoli ac yn cael gwybod yn union beth mae’r swyddi’n eu golygu.
Mae’r swyddi’n cael eu hysbysebu ar Wasanaeth Paru Prentisiaethau Gyrfa Cymru – https://ams.careerswales.com/Public/Vacancies/View.aspx?vid=35041 – a chan Gwmni Hyfforddiant Cambrian.
Caiff 600 o bwdinau Sidoli, o’r syniad cychwynnol i’r creu, eu cynhyrchu yn y Trallwng a’u cyflenwi i gwsmeriaid ar draws y DU yn ogystal â’u hallforio i Ewrop a’r Dwyrain Canol. Amrywia’r cynhyrchion o hufen iâ i gacennau saith haen gymhleth ac i archebion wedi’u teilwra.
Mae’r cwmni, sy’n stori lwyddiant fawr i Ganolbarth Cymru, wedi bod yn y Trallwng er 1982 ac ers hynny, mae ei weithlu wedi ehangu deg gwaith ac mae’n parhau i dyfu.
“Fel llawer o fusnesau cynhyrchu, rydym yn ei chael hi’n anodd denu gweithwyr medrus”, esboniodd rheolwr personél Sidoli, Sian Evans. “Yn hanesyddol, nid ydym wedi llwyddo i ddenu llawer o bobl ifanc, felly mae hwn yn adnodd potensial i’r cwmni fanteisio arno.
“Bydd yr academi’n rhoi’r sgiliau a’r hyblygrwydd i brentisiaid ifanc weithio yn y gwahanol adrannau ar draws y busnes i gyd. Bodola gyfleoedd da iddynt dyfu yn ein busnes teuluol.
“Mae gennym bolisi o ddyrchafu’n fewnol lle bo modd ac mae gennym sawl enghraifft o gyn hyfforddeion yn datblygu i swyddi uwch. Er enghraifft, ymunodd un o reolwyr y ffatri â’r busnes fel gweithredwr cynhyrchu pan oedd yn 18 oed ac mae wedi gweithio’i ffordd i fyny.
“Cynigiwn amrywiaeth eang o hyfforddiant i staff ar draws pob maes busnes ac rydym yn gyson fuddsoddi yn y cyfleusterau cynhyrchu. Tueddwn i ddenu gweithwyr o fewn radiws 15 milltir o’r Trallwng ac mae’r cwmni’n falch fod ganddo drosiant staff isel iawn. Gwnaethom hyd yn oed llwyddo i gynnal y gweithlu heb golli swyddi yn ystod y dirwasgiad.
“Rydym wedi amseru’r diwrnod agored i gyd-daro â’r bobl ifanc sy’n gadael yr ysgol a’r coleg ac rydym yn gobeithio cael yr 16 prentis yn eu lle ar gyfer mis Medi.”
Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi bod yn gweithio gyda Sidoli er 2009 ac wedi cyflwyno hyfforddiant i 36 prentis hyd yma.
“Rydym wedi datblygu perthynas weithio lwyddiannus iawn gyda Sidoli ac rydym wrth ein boddau i gynorthwyo’r cwmni i sefydlu academi er mwyn cynnig cyfleoedd gwaith i’r gymuned leol,” meddai Chris Jones, pennaeth busnes Cwmni Hyfforddiant Cambrian.
“Mae’r academi newydd yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol gan y cwmni llwyddiannus hwn i ddatblygu ei weithlu amlfedrus ei hun er mwyn iddo gyflawni ei amcanion busnes.
“Cynigia’r diwrnod agored ar 11 Awst gyfle i bobl ifanc a’u rhieni weld dros eu hunain y cyfleoedd cyffrous sy’n bodoli yn y busnes.”
Cefnogir y rhaglenni prentisiaeth, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
I gael rhagor o wybodaeth am brentisiaethau Sidoli, cysylltwch â Sian Evans ar y Ffôn: 01938 555234 neu’r e-bost sianlevans@sidoli.co.uk
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Sian Evans, rheolwr personél Sidoli ar ffôn: 01938 555234, Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian: 01938 555 893 neu Duncan Foulkes, yr ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus ar ffôn: 01686 650818.