I ddathlu ein Bwyd Môr Cymreig gwych a’ch helpu i greu bwyd blasus yn y gegin i chi a’ch teulu, beth am roi cynnig ar y rysáit wych hon o Gregyn Gleision Cymreig mewn Cwrw Cymreig.
Dyma ganllaw cam-wrth-gam i baratoi a choginio’r saig Bwyd Môr wych hon:
Cynhwysion
- 75g o fenyn
- 2 Foronen (wedi’u torri yn giwbiau mân iawn, sef brunoise)
- 3 goesyn Seleri (wedi’u torri yn giwbiau mân iawn, sef brunoise)
- 1/2 Cenhinen (wedi’i dorri’n fân)
- 3 Sialotsyn (wedi’u torri’n giwbiau mân)
- 2 ewin Garlleg (wedi’u malu)
- 1kg o Gregyn Gleision Gŵyr
- 300g o Hufen dwbl
- Cennin syfi, Persli, Gorthyfail (wedi’u torri’n fân)
- 10g o Olew had rêp Cymreig
- 250g o gwrw iawn Cymreig
Torth Surdoes (dewisol)
Paratoi a Choginio eich Cregyn Gleision:
- I ddechrau, golchwch a glanhewch y cregyn gleision trwy redeg dŵr oer o dap drostynt a defnyddiwch lwy i dynnu’r cudynnau. Ar ôl tynnu’r cudynnau, bydd angen i chi grafu unrhyw gregyn llong i ffwrdd, rhoi dŵr drostynt yna’u rhoi mewn powlen lân. Ailadroddwch hyn nes bod pob cragen las yn lân.
- Ar gyfer y saws sylfaenol, bydd angen i chi doddi’r menyn mewn sosban a ffrio’r sialóts, y garlleg, y moron, y seleri a’r cennin yn ysgafn nes eu bod wedi coginio heb unrhyw liw. (cofiwch gymryd eich amser â’r llysiau brunoise a gwneud yn siŵr bod pob darn yn 2mm wrth 2mm, bydd hyn yn gwella eich sgiliau cyllell)
- Pan fydd y llysiau wedi’u coginio, tynnwch nhw o’r badell a’u rhoi i’r ochr i’w defnyddio yn nes ymlaen.
- Gan ddefnyddio’r un badell, rhowch yr olew had rêp ynddi a’i wresogi nes ei fod yn fyglyd.
- Pan fydd yr olew yn boeth, ychwanegwch y cregyn gleision a rhowch y caead ar y badell a’i hysgwyd i symud y cregyn gleision o gwmpas
- Parhewch i goginio nes bod y cregyn gleision yn dechrau agor ac yna tynnwch y caead
- Nesaf, arllwyswch y cwrw i mewn a’i dewychu nes ei fod wedi haneru, gan adael i’r alcohol goginio a gwella’r blas â sudd naturiol y cregyn gleision
- Ar ôl ei dewychu, ychwanegwch y llysiau gwnaethoch eu paratoi yn gynharach a throi’r cymysgedd
- Ychwanegwch yr hufen dwbl a’i dewychu nes ei fod yn drwchus wrth barhau i droi’r cregyn gleision
- Pan fydd yr hylif coginio wedi tewychu, tynnwch y badell oddi ar y gwres ac ychwanegwch y perlysiau wedi’u torri’n fân, ynghyd â halen a phupur at eich dant
- Yn olaf, gweinwch y saig mewn powlen â’r holl sudd coginio a chyda bara surdoes ffres i amsugno’r sudd coginio hwnnw
Gair i gall – Cofiwch ddefnyddio’r holl sudd coginio naturiol wrth goginio â physgod cregyn oherwydd dyma brofiad ni allwch ei brynu nid ydych chi eisiau colli allan ar y blas
Gair i gall – defnyddiwch win gwyn yn lle’r Cwrw Iawn Cymreig a gwnewch saig Ffrengig glasurol i’ch hun Moules Marinières
Mae paratoi a choginio Bwyd Môr yn datblygu sgiliau y bydd prentisiaid yn eu dysgu wrth weithio tuag at Brentisiaeth Sylfaen mewn Coginio Proffesiynol a Cuisine Crefftus Lefel 2 ac mae’n cwmpasu paratoi a choginio amrywiaeth o Fwyd Môr. I gael mwy o wybodaeth am Brentisiaethau cysylltwch â Chwmni Hyfforddiant Cambrian yn cambriantraining.com neu ffoniwch: 01938 555893.