Mae busnes gwasanaeth bwyd Compass Group UK & Ireland wedi ymrwymo i ddarparu prentisiaethau ar gyfer y genhedlaeth nesaf o’r diwydiant lletygarwch yng Nghymru.
Mae’r cwmni’n darparu dilyniant gyrfa a datblygu sgiliau clir i’w weithwyr trwy fapiau prentisiaeth o Lefel 2 i Lefel 7 mewn Gradd Uwch Rheolwyr.
Cynigir 33 o raglenni prentisiaeth gwahanol, sy’n cynnwys Coginio, Blaen Tŷ, Rheoli Busnes, Adnoddau Dynol, Digwyddiadau, Cyllid a Rheoli Cyfleusterau.
Mae Compass Cymru, sy’n rhan o Compass Group UK & Ireland, wedi creu a gweithredu’r Mapiau Dilyniant Gyrfa Prentisiaethau mewn partneriaeth â Celtic Collection, grŵp o westai blaenllaw ac ICC Cymru yn Ne Cymru. Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn falch o gyflwyno’r prentisiaethau.
Wedi’i lansio ym mis Ebrill, mae Compass Cymru wedi ymrwymo i greu 50 o gyfleoedd prentisiaeth yn 2021.
Dywedodd Jonathan Foot, Pennaeth Prentisiaethau a Gyrfaoedd Cynnar yn Compass Group UK & Ireland: “Mae Compass Cymru yn falch o fod yn bartner gyda Hyfforddiant Cambrian, yr ydym yn gweithio’n agos gyda nhw i ddarparu prentisiaethau ysbrydoledig sy’n arwain y diwydiant.”
Mae’r cwmni hefyd yn cydweithio â’r cogydd enwog Bryn Williams i greu rhaglen hyfforddi coginio arloesol sydd wedi’i chynllunio i feithrin sgiliau a thyfu gwybodaeth prentisiaid.
Mae’r Rhaglen Brentisiaethau wedi cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.