Mae pedwar uwch gogydd dawnus ar ddeg o bob cwr o Gymru’n paratoi am her rownd derfynol pwysau uchel i gwblhau cymhwyster arloesol.
Os byddant yn llwyddiannus, nhw fydd y cogyddion cyntaf yn y DU i gwblhau’r Uwch Brentisiaeth i Gogyddion, cymhwyster lefel uchel sy’n arddangos eu sgiliau crefft a gwybodaeth.
Ar gyfer eu hasesiad terfynol, rhaid i’r cogyddion gynllunio, paratoi a choginio gwledd i 112 o bobl yn yr International Festival of Business (IFB) 2014 yn Lerpwl ar ddwy noson yn olynol o flaen llygaid gwyliadwrus y beirniaid arbenigol.
Cynhelir Ciniawau G?yl Gogyddion Prydain, a chanddynt restr gwesteion rhyngwladol, sy’n rhan o broffil uchel IFB 2014 yn ystod yr Wythnos Bwyd a Diod yn Neuadd St George ar 8 a 9 Gorffennaf.
Bydd y ciniawau’n cael eu cynnal a’u beirniadu’n swyddogol gan Gymdeithas Coginio Cymru, Academi Frenhinol y Celfyddydau Coginiol, Urdd Crefft y Cogyddion, Ffederasiwn Coginio Prydain, Uwch-gogyddion Prydain Fawr a Ffederasiwn Cogyddion yr Alban.
Mae’r Uwch Brentisiaeth, a ddatblygwyd gan People 1st Cymru, ac a gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru, wedi’i threialu a’i harbrofi gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian gyda chogyddion ar draws Cymru.
Fe’i datblygwyd mewn partneriaeth lawn gyda chogyddion a’u cyflogwyr a bydd yn chwarae rôl allweddol wrth godi safon twristiaeth yng Nghymru.
Dyluniwyd y rhaglen ddysgu’n benodol i gogyddion uwch sydd am ddatblygu eu gyrfa wrth barhau i ganolbwyntio ar fwyd a choginio yn hytrach na mentro i gymwysterau rheoli.
Mae’r rhaglen yn cynnwys datblygu sgiliau crefft, datblygu bwydlen broffidiol a dychmygus, hyfforddi a mentora ar gyfer anghenion unigol a thîm, deall cigyddiaeth, pysgod a chregynbysgod a chynhwysion tymhorol, prynu cynnyrch ffres yn gynaliadwy, rheolaeth ariannol, goruchwylio diogelwch bwyd a datblygu rhagoriaeth o ran perfformiad personol.
Dyma’r 14 cogydd fydd yn coginio i’r gwesteion rhyngwladol: Nathan Brown o SA Brains, Caerdydd, Pascal Merril o St Joseph’s Hospital, Casnewydd, Christopher Price o Fwyty’r Sosban, Llanelli, Jack Davison o St Tudno Hotel, Llandudno, James Newing, Brennan Hall a Lee Davies o’r Celtic Manor Resort, Casnewydd, Leigh Marshall o’r Castle Hotel, Conwy, Shaun Bailey a Tony Burgoyne o Gr?p NPTC, Y Drenewydd, Sion Wellings a Daniel Griffiths o Bortmeirion, Penrhyndeudraeth, Emma Hobbs o Blasty Nanteos, Aberystwyth and Philip Ashe o’r Lilly Restaurant, Llandudno.
Dywedodd Veronica Burt, rheolwr prosiectau People 1st Cymru: “Mae ein hymchwil wedi dynodi angen am lwybr gyrfa newydd i gogyddion ar lefel uwch. Bydd y cymhwyster newydd a chyffrous hwn yn chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu’r gydnabyddiaeth o sgiliau crefft lefel uchel cogyddion ledled Cymru ac yn helpu gwella arlwy ein gwlad i dwristiaid.
“Hoffwn longyfarch yn ffurfiol yr 14 yn y rownd derfynol am mai nhw yw’r cogyddion cyntaf i ymgymryd â’r cymhwyster, nid dim ond yng Nghymru ond ledled y DU hefyd!”
Dywedodd Arwyn Watkins, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian ac aelod o Gymdeithas Coginio Cymru: “Dyluniwyd y cymhwyster arloesol hwn i godi sgiliau i’r lefel uchaf a chreu’r cogyddion gorau i Gymru.
“Dyna pam mae’n hanfodol ein bod ni’n profi’r sgiliau a’r wybodaeth a ddysgwyd gan yr 14 cogydd yn ystod y rhaglen Uwch Brentisiaeth gyda her olaf ac nid yw’r rheiny’n dod yn fwy na Chiniawau G?yl Cogyddion Prydain.”
Nod yr International Festival of Business yw cysylltu busnesau’r DU â marchnadoedd rhyngwladol, a dod â’r meddyliau entrepreneuraidd craffaf a’r cyfleoedd busnes gorau at ei gilydd.
Nod Business of Food and Drink, a gynhelir o 7-11 Gorffennaf yw cynnig mewnwelediad i dueddiadau ac arfer gorau’r diwydiant bwyd a diod, cymell dadl a thrafodaeth, yn ogystal â chreu cyfleoedd i gysylltu prynwyr a gwerthwyr.