Mae dau gigydd o fri o Ogledd-ddwyrain Cymru wedi profi eu bod nhw ben ac ysgwyddau uwchlaw’r gweddill trwy gael eu cynnwys ar restr fer am wobrau prentisiaeth cenedlaethol mawreddog.
Mae Tom Jones, 24 oed, sy’n rhedeg Jones’ Butchers yn Llangollen, yn rownd derfynol Prentis Entrepreneuraidd y Flwyddyn, ac mae Matthew Edwards, 22 oed, sy’n gweithio i S.A. Vaughan Family Butchers, Pen-y-ffordd, ger Caer, yn rownd derfynol Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru 2014.
Byddant yn ymuno â 34 arall yn y rownd derfynol mewn 13 categori yn y seremoni wobrwyo uchel ei phroffil yng ngwesty’r Celtic Manor Resort, Casnewydd ar ddydd Gwener, 31 Hydref. Trefnir y gwobrau ar y cyd â Llywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).
Noddir y gwobrau gan Pearson PLC gyda chefnogaeth ei bartner yn y cyfryngau, Media Wales i arddangos rhagoriaeth mewn datblygiad sgiliau yng Nghymru gan ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu.
Mae’r gwobrau’n cydnabod cyflogwyr sy’n ymroi i ddatblygu eu gweithlu trwy brentisiaethau a rhaglenni dysgu seiliedig ar waith eraill, sy’n cefnogi gweithwyr yn ystod eu hyfforddiant. Maen nhw’n ffordd wych hefyd o werthuso hyfforddiant a datblygiad, yn ogystal â bod yn ffactor llawn cymhelliant gwych ar gyfer unrhyw weithlu neu ddysgwr.
Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Mae Tom wedi ychwanegu greddf entrepreneuraidd at ei restr o glodydd wrth iddo ceisio ehangu ei fusnes ffyniannus yn Llangollen. Wedi iddo gael y dasg o redeg Jones’ Butchers yn y dref dair blynedd yn ôl, mae ar fin mynd ati i ennill gwybodaeth a chymwysterau busnes er mwyn rhoi sylfaen gadarn i’r siop.
Cyflawnodd Brentisiaeth Sylfaen mewn Sgiliau Diwydiant Cig a Dofednod, mae’n gweithio tuag at Brentisiaeth ac yn bwriadu symud ymlaen i Uwch Brentisiaeth gan ei fod bellach yn cyflogi pedwar prentis.
Mae’r busnes wedi tyfu. Mae’r derbyniadau dyddiol wedi dyblu ac mae’r elw ar fathau o gynnyrch wedi cynyddu gan fwy na 30 y cant, gan arwain at yr angen am safle mwy o faint. Nod Tom yw dyblu elw’r busnes trwy ehangu i arlwyo awyr agored, chwyddo’i werthiant ar-lein a denu cwsmeriaid newydd.
Nod Tom Jones yw bod y gorau yn y diwydiant.
I ffwrdd o’r gwaith, mae wedi cyflawni llwyddiant mawr. Cafodd ei enwi’n Ddysgwr VQ y Flwyddyn yn 2013, mae’n llysgennad ar gyfer yr ymgyrch ‘Sgiliau’r Dyfodol…gair yn ei bryd’, enillodd gystadleuaeth Cigydd Ifanc Cymru un tro a daeth yn agos at y brig ddwywaith a chynrychiolodd Cymru yn y gystadleuaeth y Prif Gigydd Ifanc.
“Diolch i’m hyfforddiant prentisiaeth, rydw i wedi gallu tyfu’r busnes, gan arwain at fy nghynlluniau i ehangu,” meddai.
Yn ei gyrch i fod y gorau, daeth Matthew yn bencampwr Cigydd Ifanc Cymru a chynrychiolodd Prydain Fawr mewn cystadleuaeth sgiliau Ewropeaidd yn y Swistir fis diwethaf.
Sicrhaodd ei le yn nhîm Prydain Fawr trwy ddod yn agos at y brig yng nghystadleuaeth Prif Gigydd Ifanc 2013 y Ffederasiwn Cenedlaethol Masnachwyr Cig a Bwyd. Mae bellach yn gweithio tuag at Brentisiaeth mewn Sgiliau Diwydiant Cig a Dofednod, ar ôl cyflawni Prentisiaeth Sylfaen yn y gorffennol.
Ers ymuno â Steve Vaughan, mae wedi ennill y gystadleuaeth Gwneuthurwr Selsig Ifanc y llynedd yn Sioe ar Daith Ranbarthol Bpex a bydd yn cystadlu yng nghystadleuaeth pencampwr y pencampwyr yn y digwyddiad eleni ym mis Hydref.
“Dewisais brentisiaeth er mwyn ehangu fy nealltwriaeth o gigyddiaeth a dysgu popeth y gallaf i’m helpu i gyflawni fy nod: sef perchen ar siop cigydd a throsglwyddo fy ngwybodaeth i gigyddion ifanc, brwdfrydig eraill,” meddai.
Mae’r ddau gigydd yn cymryd rhan mewn rhaglen ddysgu a gyflwynir gan y darparwr arobryn, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, yn y Trallwng.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James: “Mae prentisiaethau’n ffordd wych o ddechrau gyrfa lwyddiannus. Rydych chi’n ennill wrth ddysgu ac yn ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol. Yn ogystal, maen nhw’n darparu gweithlu medrus, uchel ei gymhelliant a chymwys i’r diwydiant. Dymunaf bob llwyddiant i Tom a Matthew yn eu gyrfaoedd.”
Mae disgwyl i dros 300 o randdeiliaid allweddol o’r sector addysg a hyfforddiant galwedigaethol ledled Cymru fynychu’r seremoni wobrwyo uchel ei phroffil lle bydd y gwesteion yn gwledda gyda chogyddion Tîm Coginio Cenedlaethol Cymru.