Mae cigyddion dawnus ledled Cymru yn hogi eu cyllyll wrth iddynt baratoi i roi eu sgiliau ar brawf ym mhrif gystadleuaeth gigyddiaeth y genedl yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-Muallt fis nesaf.
Bydd enillydd y gystadleuaeth, ar ddydd Mawrth, Tachwedd 27, yn ennill teitl o fri Cigydd y Flwyddyn Cymru ynghyd â siec am £130. Bydd enillydd yr ail wobr yn derbyn £70 a bydd pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn tlws.
Nid oes unrhyw gyfyngiad oedran i’r gystadleuaeth ac mae gan gigyddion, sy’n gorfod byw neu’n gweithio yng Nghymru, tan 5pm ar 12 Tachwedd i gyflwyno eu ceisiadau. Gallwch lawrlwytho’r ffurflen gais yn www.cambriantraining.com/wp/en/Welsh-butcher-of-the-year-competition/ ac mae’n rhaid ei hanfon i Katie George, Cystadleuaeth Cigyddion Cymru, Cwmni Hyfforddiant
Cambrian, Tŷ Cambria, Uned 10 Parc Busnes Clawdd Offa, Ffordd Fisher, Tal-y-bont, Y Trallwng, SY21 8JF
Bydd panel o feirniaid yn dewis y rhestr fer a fydd yn wynebu gwir brawf o’u sgiliau cigyddiaeth dros dair tasg o flaen cynulleidfa ym Mhafiliwn Hyfforddiant Cambrian ar faes y Sioe Frenhinol.
Byddant yn cael awr i dorri coes porc, 70 munud i greu cynnyrch sy’n barod i’r gegin ar gyfer cwsmeriaid o flwch dirgel o gynhwysion a 90 munud i greu arddangosfa cig barbeciw sy’n gyffrous yn weledol gan ddefnyddio cyw iâr cyfan, ochr orau Cig Eidion Cymreig, coes Cig Oen Cymreig ac ochr orau porc.
Bydd y beirniaid yn chwilio am syniadau newydd, creadigol a bydd y rheiny sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu sgorio ar eu techneg torri, gwerth ychwanegol, technegau arddangos, HACCP a hylendid personol a'r cynnyrch carcas mwyaf posibl. Mae’r gystadleuaeth wedi’i noddi gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian, Hybu Cig Cymru a Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, ac mae’n gam pwysig i gystadlaethau ledled y DU.
Bydd yr enillydd yn cael y cyfle i ddilyn cigyddion dawnus fel Peter Rushforth a Matthew Edwards, sydd wedi cynrychioli’r DU ac ennill Cystadleuaeth Genedlaethol Cigyddiaeth WorldSkills UK.
Bydd Cigydd y Flwyddyn Cymru y llynedd, Daniel Allen-Raftery, 35, o Fwydydd Randall Parker, Llanidloes a Craig Holly a ddaeth yn ail o Gigyddion Neil Powell, Y Fenni, cyn enillydd Cigydd Porc y Flwyddyn Cymru, yn cystadlu yn rownd derfynol Cystadleuaeth Genedlaethol Cigyddiaeth WorldSkills UK yn yr NEC, Birmingham o Dachwedd 15-17.
Meddai Arwyn Watkins, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian: “Mae cystadleuaeth Cigydd y Flwyddyn Cymru yn darparu'r llwyfan perffaith ar gyfer y cigyddion gorau yng Nghymru i arddangos eu sgiliau mewn digwyddiad pwysig.
“Mae’n anrhydedd enfawr i gael eich enwi y gorau yng Nghymru yn eich galwedigaeth o ddewis a byddwn yn annog pobl sy’n ymweld â’ Ffair Aeaf i ddod i wylio’r cigyddion medrus iawn hyn yn arddangos eu sgiliau a thechnegau arddangos cig.”
Diwedd I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian, ar Ffôn: 01938 555 893, neu Duncan Foulkes, cynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar Ffôn: 01686 650818.