Dychwelodd prentis arobryn o Goed-llai, sy’n dal teitl cigydd ifanc y flwyddyn y DU ar hyn o bryd, i’w hen ysgol er mwyn ysbrydoli’r myfyrwyr i ystyried llwybr amgen i’w gyrfa yn y dyfodol.
Mae Peter Rushforth, 21 oed, yn rhan o dîm o ‘Lysgenhadon Prentisiaethau’ a ddewiswyd gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo manteision ymgymryd â phrentisiaeth, wrth arwain at Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (6 – 10 Mawrth).
Y nod yw teithio’r wlad yn annog pobl ifanc mewn ysgolion ledled Cymru i ystyried dilyn llwybr prentisiaeth a chymryd un o amrywiaeth enfawr o’r rolau prentisiaeth sydd ar gael.
Ar ôl llwyddo yn ei arholiadau Safon Uwch mewn seicoleg, Addysg Grefyddol a dylunio cynnyrch, aeth Peter i ddilyn Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 yn Sgiliau’r Diwydiant Cig a Dofednod ac ers hynny mae wedi symud ymlaen i gymhwyster Uwch Brentisiaeth Lefel 4 o ganlyniad i’w lwyddiant.
Ymwelodd Peter ag Ysgol Uwchradd Castell Alun, ynghyd â’i ddarparwr hyfforddiant, Hyfforddiant Cambrian, a’i gyflogwr Swans Food Shop, i siarad gyda disgyblion Blwyddyn 10 ynghylch sut gwnaeth mynd ar drywydd y llwybr galwedigaethol ei helpu i sicrhau swydd a mynd ymlaen i fod yn gigydd prentis arobryn.
Dywedodd Peter: “Ar un tro, roeddwn i yn yr un sefyllfa â chynifer o’r disgyblion yn yr ystafell, nid oedd gennyf freuddwydion nac uchelgais i fod beth ydw i heddiw.
“Bûm yn gweithio yn y siop am bron i dair blynedd fel cynorthwyydd cyn penderfynu gwneud prentisiaeth. Fi oedd y prentis cyntaf iddynt ei gyflogi a dydw i ddim yn credu fy mod i na’r cwmni wedi sylweddoli cymaint o lwyddiant yr oedd yn mynd i fod.
“Ennill Cigydd Ifanc y Flwyddyn Cymru Hyfforddiant Cambrian oedd y gystadleuaeth iawn gyntaf i mi ei hennill erioed a roddodd dân yn fy mol i ddatblygu yn y cystadlaethau. Ers hynny, rydw i wedi hedfan i’r Iseldiroedd am gystadleuaeth ryngwladol ac enillais fedal aur yng Nghystadleuaeth Cigyddiaeth Worldskills UK 2016.
“Mae prentisiaethau’n agored i bawb sydd am wneud yn dda yn eu gyrfa. Maen nhw’n gwneud i chi deimlo’n rhan o’r tîm ac rydych chi’n cael y gefnogaeth y mae arnoch ei hangen i ddysgu sgiliau newydd.
“Mae dysgu wrth wneud y swydd am dair blynedd o leiaf yn golygu y bydd gennych flynyddoedd o brofiad a chymhwyster cenedlaethol yn y pen draw. Os dechreuwch brentisiaeth gyda’r agwedd y byddwch yn gweithio’n galed, gallwch gyrraedd safle rhyfeddol mewn ychydig flynyddoedd.”
Yn fuan, fe fydd Peter yn bwrw am UDA i ddysgu mwy am y diwydiant cig yn ystod ei daith mis o hyd a fydd yn mynd ag ef i Ddinas Efrog Newydd, Portland yn Oregon a Lincoln yn Nebraska.
Dywedodd Gail Swan o Swans Food Shop: “Y peth gorau y gallem fod wedi’i wneud oedd annog Peter i fynd ar drywydd prentisiaeth gyda ni. Mae egwyddor gweithio’n galed Peter a’r sgiliau mae wedi’u meithrin trwy’r rhaglen brentisiaeth wedi’i helpu i fynd ymlaen i gyflawni cymaint o lwyddiant, sydd wedi cael effaith enfawr ar ein busnes. Diolch iddo fo, rydym bellach yn cael ein cydnabod ar lefel ryngwladol.
“Trwy gefnogi’n gweithwyr yn nilyniant eu gyrfa fel hyn, bu modd i ni adeiladu gweithlu ffyddlon a brwdfrydig sy’n chwilio am ffyrdd newydd o ddatblygu eu sgiliau er lles ein busnes ni bob amser.”
Dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James AC: “Mae pobl ifanc heddiw’n ffodus iawn am fod nifer fawr o wahanol lwybrau i helpu mynd â nhw i’w gyrfa ddethol, yn enwedig trwy’r llwybr galwedigaethol. Mae’n hollbwysig bod y myfyrwyr yn ymwybodol o’r holl ddewisiadau sydd ar gael er mwyn iddynt allu gwneud dewisiadau deallus am eu dyfodol, a dyna pam mae’r ymweliadau prentisiaeth hyn cyn bwysiced.
“Hoffwn annog mwy o fusnesau i edrych i gynnig prentisiaethau gan ei fod yn gyfle gwych i bontio’r bylchau mewn sgiliau ac adeiladu gweithlu ffyddlon a brwdfrydig. Mae profiad Peter wedi dangos i’r disgyblion yn hen ysgol Peter y gall dilyn llwybr galwedigaethol, fel prentisiaeth, arwain at yrfa hynod werth chweil a llwyddiannus i’r prentis a’r cyflogwr.”
Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.