Cawl Pwmpen Cnau Menyn Rhost â Hadau wedi’u tostio. Gan Chris Price, Swyddog Hyfforddiant, Hyfforddiant Cambrian Training.

Hydref… yr adeg orau o’r flwyddyn i ddechrau gwneud cawl i gynhesu’r galon pan fydd y nosweithiau oer a digalon hynny’n cyrraedd. Gyda Chalan Gaeaf yn agosáu a cherfio pwmpen yn uchel ar yr agenda, beth am roi cynnig ar wneud cawl pwmpen eich hun.

Gyda’r rysáit yma, gallwch gyfnewid y bwmpen cnau menyn safonol a defnyddio unrhyw fath arall, mae gan bob un ei blas a’i lliw ei hun. Peidiwch ag anghofio eich bod yn gallu cadw’r hadau  hynny o’r neilltu a’u rhostio ar gyfer byrbryd bach neu eu hychwanegu at eich cawl ar gyfer crensian ychwanegol.

Dyma ganllaw cam-wrth-gam i baratoi a choginio’r saig cawl hydrefol hon:

Cynhwysion

  • 2 lwy fwrdd o olew olewydd
  • 2 nionyn, wedi'u torri’n fân
  • 1kg o bwmpen
  • 200g o fenyn
  • 700ml o stoc llysiau neu stoc cyw iâr
  • 150g o hufen dwbl
  • Persli, wedi'i dorri'n fân (dewisol)
  • Halen a phupur at eich dant
  • Papur arian ar gyfer rhostio.

Hadau wedi’u Tostio
Wrth wagio’r hadau o’r bwmpen, rhowch nhw i un ochr a’u glanhau i’w defnyddio nes ymlaen.

Paratoi a Choginio eich Cawl Pwmpen:

1. Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 185c

2. Gan ddefnyddio bwrdd torri brown a chyllyll pen-cogydd, torrwch y bwmpen yn ofalus yn ei hanner ar ei hyd, gan ddefnyddio llwy fwrdd crafwch yr hadau allan a’u rhoi mewn powlen i’w ddefnyddio nes ymlaen.

3. Nawr bydd angen i chi grafu’r bwmpen gan wneud croes yn ei chnawd. Ar ôl gwneud hyn, ychwanegwch dalp bach o fenyn a halen a phupur at eich dant. Yna rhowch y bwmpen mewn papur arian a’i lapio’n dynn a’i rhoi ar dun rhostio. Wedyn, rhowch y tun rhostio yn y ffwrn a’i bobi am 30-40 munud neu nes bod y bwmpen yn teimlo’n feddal ar ôl ei phrocio â llwy bren.

4. Pan mae’r bwmpen yn y ffwrn, gallwch ddechrau ar yr hadau. Tynnwch yr hadau o’r mwydion yn ofalus a’u rhoi ar dun rhostio, eu cymysgu ag ychydig o olew olewydd ac ychwanegwch halen a phupur at eich dant. Yna, gallwch eu rhostio yn y ffwrn nes eu bod yn frown euraidd. Oerwch nhw a’u defnyddio yn nes ymlaen fel garnais i’ch cawl.

5. Unwaith y bydd y bwmpen wedi’i choginio, tynnwch hi o’r ffwrn a gofalwch i beidio â llosgi eich hun. Yn fy mhrofiad i, mae’n well i gael gwared ar y cnawd pan ei bod yn dal i fod yn boeth. Felly gan fod yn ofalus, tynnwch y papur arian a defnyddiwch lwy fwrdd i , wagu’r cnawd a’i roi mewn powlen.

6. Pan fyddwch yn barod â hyn, gallwch dorri’r winwns yn ddis yn ofalus a’u ffrio nes eu bod yn dryloyw.

Gair i gall; “dyma’r amser gorau i ddechrau ychwanegu halen a phupur at eich cawl oherwydd nid ydych eisiau ychwanegu gormod o halen ar y funud olaf a chael cawl sy’n blasu fel halen yn unig”.

7. Wrth i’r winwns feddalu, gallwch ychwanegu cnawd eich pwmpen a throi’r cymysgedd nes ei fod wedi cyfuno. Yna ychwanegwch y stoc yn ôl y gofyn a berwi’r cymysgedd.

Gair i gall; “wrth ychwanegu eich stoc, gwnewch yn siŵr eich bod yn ychwanegu’r swm cywir, dim ond digon i orchuddio’r cynnwys, gallwch bob amser ychwanegu mwy yn nes ymlaen os bydd angen.”

8. Dewch â’r cymysgedd yn y sosban i ferwi yna troi’r gwres i lawr i fudferwi am 15 munud.

9. Yn olaf, gan ddefnyddio naill ai blendiwr llaw neu flendiwr. Pledwch y cynnwys nes ei fod yn llyfn. Yna gwiriwch a oes angen mwy o halen a phupur ar y cawl a’u hychwanegu fel bo angen, gallwch weini’r cawl mewn powlenni a thaenu’r hadau wedi’u tostio ar ei ben ynghyd â’r persli sydd wedi’i dorri os dymunir.

Mae’r grefft o greu cawl llysiau tymhorol blasus yn datblygu sgiliau bydd prentisiaid yn eu dysgu wrth weithio tuag at Brentisiaeth Lefel 2 mewn Cuisine Crefftus a Choginio Proffesiynol ac mae’n cynnwys paratoi a choginio amrywiaeth o lysiau. I gael mwy o wybodaeth am Brentisiaethau cysylltwch â Chwmni Hyfforddiant Cambrian yn cambriantraining.com neu ffoniwch: 01938 555893.