Category: Archif 2018
Mae busnes cigyddion arlwyo a phrosesu cig, sydd wedi sefydlu academi hyfforddi i feithrin ei weithwyr medrus ei hunan, wedi’i enwi’n Gyflogwr Canolig y Flwyddyn yng Nghymru. Cyflwynwyd y wobr i Celtica Foods, sy’n rhan o gwmni cyfanwerthu bwyd annibynnol Castell Howell, o Cross Hands ger Llanelli, yn noson fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru yng Ngwesty… Read more »
Mae’r pen cogydd prentis Thomas Martin, sydd wedi profi gwaith mewn rhai o fwytai ‘bwyta mewn steil’ gorau Llundain, wedi dathlu’r rysáit ar gyfer llwyddiant wrth iddo gasglu gwobr genedlaethol o fri. Cafodd Thomas, 22, cogydd cynorthwyol yn 13 Market Street, Caerffili, ei enwi’n Brentis Sylfaen y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru o fri a… Read more »
Cig Oen Cymreig yw’r cig o ddewis ar gyfer Gwobrau Prawf Blas newydd Ffair Aeaf Frenhinol Cymru sy’n ceisio arddangos y gorau o gig oen Cymreig Fel datblygiad newydd ar gyfer Ffair Aeaf Frenhinol Cymru 2018, mae’r gymdeithas wedi ymuno â Hyfforddiant Cambrian, Cymdeithas Coginio Cymru a Thîm Coginio Cymru, i gyflwyno Gwobrau Blas Ffair… Read more »
Mae’r prentis cogydd Thomas Martin wrth ei fodd yn coginio ac mae eisoes wedi cael profiad o weithio yn rhai o fwytai gorau Llundain. Ac yntau’n 22 oed, mae’n gobeithio y bydd ei lwybr gyrfa’n ei arwain i wireddu ei uchelgais o agor bwyty yng Nghaerdydd i hyrwyddo cynhwysion gorau Cymru. Ar ôl dilyn Prentisiaeth… Read more »
Mae cigyddion dawnus ledled Cymru yn hogi eu cyllyll wrth iddynt baratoi i roi eu sgiliau ar brawf ym mhrif gystadleuaeth gigyddiaeth y genedl yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-Muallt fis nesaf. Bydd enillydd y gystadleuaeth, ar ddydd Mawrth, Tachwedd 27, yn ennill teitl o fri Cigydd y Flwyddyn Cymru ynghyd â siec am… Read more »
Yr uchelgais o fod yn gwmni gorau ei sector oedd yr hwb i gwmni cigydda a phrosesu cig yng ngorllewin Cymru sefydlu academi hyfforddi fewnol i ddatblygu gweithwyr medrus. Mae Celtica Foods o Cross Hands, sy’n rhan o gwmni cyfanwerthu bwyd annibynnol Castell Howell, wedi hyfforddi 45 o brentisiaid dros y pedair blynedd diwethaf ac… Read more »
Ar ôl lansio rhaglen brentisiaethau bum mlynedd yn ôl, mae cynhyrchiant, ymgysylltiad y gweithlu a chyfraddau cadw staff wedi gwella yng nghwmni Mainetti sydd â gweithlu rhyngwladol o dros 200. Mae cwmni Mainetti o Wrecsam ailddefnyddio, ailgylchu ac ailddosbarthu hangers dillad i gwmnïau siopau mawr ac maent yn trafod tua miliwn o hangers y dydd.… Read more »
Bydd pum cigydd dawnus o bob cwr o’r DU yn cystadlu yn rownd derfynol gornest fawreddog Cigyddiaeth WorldSkills UK ym mis Tachwedd. Enillodd y cigyddion eu lleoedd yn rownd derfynol y Sioe Sgiliau yn yr NEC Birmingham o 15 i 17 Tachwedd ar ôl creu argraff ar y beirniaid yn rowndiau rhanbarthol Cymru a Lloegr,… Read more »
Mae busnes teuluol bach o’r gogledd, Lelo Skip Hire, sydd wedi dyblu ei drosiant ers iddo recriwtio’i brentis cyntaf bedair blynedd yn ôl, ar y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol o bwys. I ddechrau, cymerodd Oswyn Jones, sy’n rhedeg y cwmni o Gorwen, ei fab 16 oed Daniel i weithio i’r cwmni ar y… Read more »
Mae gwasanaeth newydd ar gael ar gyfer busnesau sy’n awyddus i recriwtio prentisiaid neu ddefnyddio’r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru i gynyddu sgiliau eu gweithwyr. Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), sy’n cynrychioli dros gant o ddarparwyr dysgu ledled Cymru, wedi penodi tîm o arbenigwyr i’w gwneud yn haws i gyflogwyr ymwneud â Rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth… Read more »