Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Cyflog: Hyd at £27,000.00 y flwyddyn
EIN HANES:
Ein nod yw ymgysylltu â’r holl bobl ifanc, dysgwyr a chyflogwyr sy’n cefnogi’r sectorau Gweithgynhyrchu Bwyd a Diod a Phobi. Rydym wedi ennill enw da ledled Cymru am ddarparu rhaglenni hyfforddi a datblygu o ansawdd uchel.
YR HYN RYDYM YN CHWILIO AMDANO:
Rydym am recriwtio Swyddog Hyfforddi medrus i ymuno â’n tîm darparu dysgu Gwieithgynhyrchu Bwyd a Diod a Phobi sy’n tyfu.
Bydd gan y person delfrydol y gallu I addysgu a datblygu prentisiaid Gweithgynhyrchu Bwyd a Diod a Phobi a gyflogir yn y sector hwn. Mae hunangymhelliant, brwdfrydedd, annibyniaeth a gwaith tîm yn hanfodol i’r rôl, ochr yn ochr â sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da.
Byddwch yn gweithio’n uniongyrchol gyda chyflogwyr a phrentisiaid o bob oed felly mae’n rhaid i’r gallu i ysgogi unigolion a’u cefnogi i gyflawni nodau y cytunwyd arnynt fod yn un o’ch nodweddion.
Yn y pen draw, byddwch yn cael boddhad o’ch swydd drwy addysgu’ch prentisiaid a chyflawni eu cymwysterau diploma NVQ lefelau 2 i 4.
Dylech ddisgwyl cyflwyno addysg a dysgu yn y gweithle o ddydd i ddydd, gan drosglwyddo eich gwybodaeth a’ch profiad yn ogystal â chynnal asesiadau, cynorthwyo dysgwyr i baratoi portffolio o dystiolaeth, a chynnal cofnodion cyflawni cynnydd.
Yn yr un modd, byddwch yn cefnogi dysgwyr i wella eu sgiliau digidol, rhifedd a llythrennedd, ac yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg lle bynnag y bo modd.
Mae cael mynediad i drafnidiaeth eich hun fel ffordd o deithio yn hanfodol i’r swydd.
DYLECH CHI:
- Bod ag o leiaf 3 blynedd o brofiad o weithio yn y sector Gweithgynhyrchu Bwyd a Diod.
- Meddu ar gymwysterau Gweithgynhyrchu Bwyd neu Phobi lefel 2 a 3 neu 706 1 a 2.
- Bod â phrofiad o arwain tim neu goruchwylio eraill (delfrydol, ond nid hanfodol).
- Bod â sgiliau rheoli amser a threfnu gwych.
- Bod â lefel dda o sgiliau TG a’r gallu i ddysgu meddalwedd newydd.
- Meddu ar wobr aseswr D32/D33, TAQA neu A1.
- Meddu ar TGAU A* – C/ 9 – 4 mewn Saesneg a Mathemateg neu gymhwyster cyfwerth Lefel 2 (delfrydol, ond nid yn hanfodol).
- Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ond nid yn hanfodol.
CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL:
- Darparu addysg a dysgu effeithiol i lwyth achosion dysgwyr yn y gweithle.
- Datblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr.
- Cynllunio a chynnal asesiadau i ddiwallu anghenion y cymhwyster, gan gynnwys wyneb yn wyneb ac ar-lein.
- Cynnal cofnodion dysgwyr o asesu a chynnydd
- Ymgysylltu â chyflogwyr a dysgwyr posibl i gydnabod cyfleoedd newydd.
- Gweithio gydag adrannau eraill o fewn Hyfforddiant Cambrian i sicrhau bod gan y dysgwr y gallu i gwblhau ei raglen brentisiaeth ar amser.
BUDDION ALLWEDDOL:
- Gwyliau blynyddol hael a gwyliau banc.
- Oriau gwaith hyblyg.
- Cynllun Tâl Salwch y cwmni ar ddiwedd y cyfnod prawf.
- Cefnogaeth iechyd meddwl a lles.
- Cyfleoedd DPP parhaus.
- Cynllun pensiwn y cwmni.
- Bydd gwisg staff, gliniadur a ffôn symudol yn cael eu darparu
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, yna yn gyntaf anfonwch eich CV a’ch llythyr eglurhaol, gan amlinellu pam rydych eisiau’r swydd a pham rydych yn teimlo fel petaech yn ymgeisydd addas i:
Stephen Bound (Rheolwr Cyffredinol) i’r e-bost canlynol:
stephen@cambriantraining.com Ffôn: 01938 555 893
Bydd angen i chi gofrestru fel Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Bydd angen datgeliad DBS ehangach ar draul y cyflogwr.
Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn gyflogwr cyfle cyfartal a hyderus o ran anabledd.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 1af Tachwedd 2024.
Mae’r cwmni’n cadw’r hawl i gau’r swydd ar unrhyw adeg os ydym yn derbyn nifer fawr o geisiadau addas. Felly, rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau eich ystyriaeth ar gyfer y swydd.
Job Category | Hyfforddiant Cambrian -ymunwch â'n tîm! |