MAE CWMNI HYFFORDDIANT CAMBRIAN
Yn chwilio am Swyddog Datblygu Busnes (I ddechrau ym mis Mai 2025)
Lleoliad: Ardal Casnewydd / Caerdydd De Cymru
Cyflog: £27,000.00 y flwyddyn
37 awr yr wythnos, Llawn amser / Parhaol, gyda gwaith y tu allan i oriau gwaith arferol o bryd i’w gilydd a dros nos ar gyfer digwyddiadau.
Amdanom ni:
Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn un o brif Ddarparwyr Prentisiaethau Dysgu Seiliedig ar Waith, sy’n darparu prentisiaethau o ansawdd uchel ledled Cymru ers dros 25 mlynedd. Yn diweddar, rydym wedi dod yn gwmni ‘perchenogaeth gan weithwyr’ lle mae gan y gweithwyr budd mewn llwyddiant y busnes. Rydym yn canolbwyntio ar sectorau Lletygarwch, Gweithgynhyrchu Bwyd a Diod, Arweinyddiaeth a Rheoli, a Rheoli Adnoddau Cynaliadwy.
Cyfrifoldebau Allweddol:
- Rheoli Perthynasoedd: Cynnal a chryfhau perthnasoedd â chyflogwyr Lletygarwch CHC.
- Caffael Busnes Newydd: Rheoli perthnasoedd, ymgysylltu â darpar gyflogwyr, ac ennill hen gleientiaid yn ôl.
- Gwerthu a Marchnata: Hyrwyddo rhaglenni prentisiaethau trwy gyflwyniadau, deunyddiau marchnata, a chyfranogiad mewn digwyddiadau.
- Ymchwil Marchnad: Dadansoddi tueddiadau’r diwydiant i gydnabod cyfleoedd busnes newydd.
- Datblygu Partneriaethau: Adeiladu partneriaethau strategol gyda chyrff y diwydiannau, sefydliadau addysgol, cleientiaid allweddol a rhanddeiliaid.
- Cymorth i Gleientiaid: Cefnogi cyflogwyr gyda recriwtio prentisiaid a chydymffurfio.
- Gweinyddu ac Adrodd: Dilyn gweithgareddau datblygu busnes a darparu diweddariadau rheolaidd i uwch reolwyr.
Sgiliau a Phrofiad Allweddol:
- Profiad profedig mewn datblygu busnes neu werthu, yn ddelfrydol mewn sectorau addysg neu hyfforddiant.
- Cyfathrebu, negodi a sgiliau rhyngbersonol cryf.
- Y gallu i reoli amrywiaeth o brosiectau ar yr un pryd.
- Hyfedredd gyda Microsoft Office / Google Workspace, a meddalwedd busnes arall.
- Mae angen trwydded yrru lawn yn y DU.
Priodoleddau Personol:
- Ffocws ar y cwsmer, cadernid, y gallu i addasu, a meddyliwr creadigol.
Pam ymuno â ni?:
- Cyflog a budd-daliadau cystadleuol.
- Cyfleoedd ar gyfer twf gyrfa a datblygiad proffesiynol.
- Amgylchedd gwaith deinamig, blaengar.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio, yna yn y lle cyntaf, anfonwch eich CV
a llythyr eglurhaol yn amlinellu pam rydych chi eisiau’r swydd a pham rydych chi’n teimlo y byddech chi’n ymgeisydd addas at:
Stephen Bound (Rheolwr Cyffredinol) trwy’r cyfeiriad e-bost isod:
stephen@cambriantraining.com Ffôn: 01938 555 893
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: Dydd Gwener 11eg Ebrill 2025
Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian Ltd yn gyflogwr cyfle cyfartal a hyderus o ran anabledd
Mae’r cwmni’n cadw’r hawl i gau’r swydd wag ar unrhyw adeg os byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau addas. Felly, rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth i’r swyddi.
Job Category | Hyfforddiant Cambrian -ymunwch â'n tîm! |