Prentis Gweinyddiaeth Busnes

Gweinyddiaeth
Y Drenewydd
Posted 2 months ago

Prentis Gweinyddu Busnes

Uned 79 Tŷ Rheoli, Ystâd Ddiwydiannol Mochdre, Y Drenewydd, SY16 4LE.

Cyfle cyffrous i ymuno â Control Techniques (Nidec Drives)! Bydd y rôl yn cynnwys ystod eang o ddyletswyddau sy’n cefnogi timau fel Adnoddau Dynol, Caffael a Phrynu yn ogystal â’r Swyddfa Rheoli Prosiectau (PMO). Byddwch yn cael cyfle i symud o gwmpas yr adrannau ac ar ôl y flwyddyn gyntaf byddwch yn gallu aros mewn un tîm gweinyddu busnes.

Crynodeb o’r Swydd

Byddwch yn paratoi ar gyfer gyrfa mewn Gweinyddiaeth Busnes drwy ddysgu’r sgiliau angenrheidiol ac ennill profiad. Bydd y prentis yn gyfrifol am ddysgu a datblygu sgiliau ymarferol, gan gymryd rhan mewn dosbarthiadau priodol a phrofiadau dysgu eraill, ar ac oddi ar y safle. Bydd angen i’r unigolion arsylwi ar yr holl godau iechyd a diogelwch, cwblhau tasgau ac aseiniadau yn ogystal â chynnal cyflwyniadau i staff a rhanddeiliaid eraill pan fo angen.

PRIF GYFRIFOLDEBAU’R SWYDD:

Gweinyddiaeth Busnes: Caffael a Phrynu

  • Cynorthwyo gydag archwiliadau o ddogfennau a chontractau telerau.
  • Helpu i adeiladu perthnasoedd â rhwydweithiau sefydliadol a gwerthwyr allanol ar gyfer caffael.
  • Cynorthwyo i archwilio cofnodion i weld a yw prosesau a gweithdrefnau gwaith yn effeithiol.
  • Casglu restr o werthwyr yn ôl y broses ddethol.
  • Gweithredu technolegau a meddalwedd newydd.
  • Cefnogi gweithgareddau caffael yn seiliedig ar arweiniad cynnyrch ac angehnion y cwmseriaid.

Gweinyddiaeth Busnes: Swyddfa Rheoli Prosiectau

  • Trefnu gyfarfodydd o fewn y Prif Swyddog Gweithredol ac ar gyfer prosiectau a rheolwyr prosiect, a chymryd munudau yn ystod cyfarfodydd.
  • Cynnal tasgau a chyhoeddi cofnodion ar gyfer y prosiectau y maent yn eu cefnogi.
  • Cefnogi cwblhau taflenni cost ac amser ar gyfer prosiectau a chfonodi pryniadau prosiectau.
  • Helpu i ddiweddaru amserlen a chynlluniau prosiect pan gytunir ar newidiadau.
  • Cynorthwyo gyda chadw cofnodion a delio â’r dogfennau mae’r prosiectau’n cynhyrchu ac yn cofnodi’r data sydd eu hangen i gynhyrchu adroddiadau PMO.
  • Cyfathrebu ar draws y swyddfa, prosiectau a rhanddeiliaid y prosiect gyda cheisiadau am wybodaeth, diweddariadau amserlen a sesiynau briffio.

Gweinyddiaeth Busnes: Y Swyddfa Adnoddau Dynol (AD)

  • Cynorthwyo AD gyda recriwtio – trefnu apwyntiadau, ystafelloedd cyfarfod ac ati.
  • Casglu a chynnal cofnodion gweithwyr papur, digidol ac electronig, gan gynnwys gwyliau blynyddol, a chyfnod salwch.
  • Cefnogi rhaglenni hyfforddi, gwithdai a seminarau AD.
  • Cofnodi ddata gweithwyr i’r gronfa ddata.
  • Cefnogaeth logisteg ar gyfer gweithwyr newydd.
  • Unrhyw ddyletswyddau eraill ac yn dymuno’n briodol.

Priodoleddau personol:

  • Mwynhau heriau newydd.
  • Sgiliau rhyngbersonol da.
  • Yn barod i wrando.
  • Yn frwdfrydig i ddatblygu.
  • Dibynadwy.
  • Chwaraewr tîm sydd ag etheg gwaith gwych.
  • Y gallu i weithio dan bwysau a chwrdd â therfynau amser llym.
  • Y gallu i weithio ar liwt eich hun.

Gwybodaeth Ychwanegol

Y cyflog fydd £21,000.00 gyda chontract dysgu 3 blynedd.

Byddwch yn astudio Lefel 2 mewn Gwasanaeth Busnes gyda Hyfforddiant Cambrian am y flwyddyn gyntaf ac yna’n symud ymlaen i raglen lefel 3 ar ôl hynny.

Mae Control Techniques yn gwmni gweithgynhyrchu gyrru ac mae wedi bod yn dylunio a gweithgynhyrchu gyriannau cyflymder amrywiol o ansawdd ar gyfer moduron trydan ers 1973. Mae ein gyriannau yn cael eu defnyddio gan gwsmeriaid ledled y byd ar gyfer dulliau diwydiannol a masnachol (ee lifftiau, roboteg, a llawer mwy).

Yr hyn y gall ei gynnig…

Ffocws cryf ar olyniaeth, mewn amgylchedd diogel a chefnogol i chi weithio a thyfu. Mae’n lleoliad lle, os oes gennych yr awydd, mae’r posibiliadau’n ddiamod. Mae datblygiadau hyfforddi a gyrfa yn uchel ar ein rhestr o flaenoriaethau, a byddwn yn eich cefnogi o ddechrau eich prentisiaeth hyd at ddiwedd eich prentisiaeth, gyda’r posibilrwydd o gyflogaeth llawn amser ar ôl hynny.

Cymwysterau gofynnol: 

Safon dda o addysg. Mae TGAU Mathemateg a Saesneg yn ddelfrydol.

Cwrs Prentisiaethau: 

Prentisiaeth Lefel 2 mewn Busnes a Gweinyddiaeth

Cyflog:

£21,000.00 y flwyddyn, yn cael ei dalu’n fisol.

Oriau: 

37.5 awr yr wythnos.

Trefniadau Cyfweliad: 

Cynhelir cyfweliad wyneb yn wyneb yn Control Techniques.

Gwneud gais: 

Anfonwch lythyr eglurhaol gyda’ch CV at talent@mail.nidec.com

Job CategoryControl Techniques (Nidec Drives)