Prentis Derbynnydd gyda Pitman Training
Pitman Training, 2il lawr, Castle House, 1 – 7 Castle Street, Caerdydd. CF10 1BS.
Mae’r cyfle cyffrous hwn wedi codi i ymuno â’n tîm sy’n tyfu yng Nghaerdydd. Mae Pitman Training yn darparu hyfforddiant preifat, wedi’i ariannu, a chorfforaethol i ystod o gwsmeriaid ledled y ddinas a rhanbarth De Cymru.
Dyletswyddau dyddiol:
- Croesawu ymwelwyr i’n canolfan ddysgu a’u cyfeirio yn unol â hynny gan ddarparu argraff gadarnhaol o’r cwmni.
- Rheoli amserlenni dysgwyr.
- Diweddaru ac olrhain cynnydd dysgwyr.
- Dyletswyddau gweinyddol yn ôl yr angen.
- Cynorthwyo gyda chynnal offer TG.
- Ateb galwadau ffôn a sicrhau ymdrinnir ag ymholiadau mewn modd cwrtais ac amserol a chymryd negeseuon fel y bo’n briodol.
- Trefnu apwyntiadau.
- Sefydlu arholiadau.
- Cyflwyno arholiadau ar gyfer marcio.
- Goruchwylio arholiadau.
- Cefnogi dysgwyr.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill yn ôl yr angen.
Rinweddau personol dymunol:
- Sgiliau cyfathrebu da.
- Sgiliau TG da.
- Gwisgo mewn ffordd taclus a phroffesiynol.
- Gallu gweithio fel rhan o dîm a gallu cyfathrebu â chydweithwyr ar bob lefel.
- Y gallu i weithio o dan bwysau a defnyddio menter.
- Yn ddibynadwy gyda ethos gwaith da.
- Gallu addasu a bod yn hyblyg yn eich dull.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae Pitman Training yn un o gwmnïau hyfforddi mwyaf sefydledig y wlad gyda rhwydwaith o dros 70 o swyddfeydd ledled y DU.
Mae Pitman Training yn ddarparwr blaenllaw o hyfforddiant sgiliau swyddfa sy’n arbenigo mewn cyrsiau megis diplomâu PA gweithredol, cymwysterau cyfrifeg, diplomâu cyfryngau cymdeithasol a marchnata ynghyd â chyrsiau sengl gyda’r nod o ddatblygu sgiliau gweithwyr yn y gweithle.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer y rôl hon yn cael cyfle nid yn unig i ennill cymhwyster lefel 2 mewn gwasanaeth i gwsmeriaid ond hefyd i astudio cyrsiau hyfforddi Pitman ac ennill sgiliau a chymwysterau pellach i’w galluogi i berfformio yn eu rôl ac i gryfhau eu CV.
Cymwysterau Gofynnol:
Safon dda o addysg gyffredinol. TGAU Saesneg a Mathemateg safon C neu’r cywerth yn ddelfrydol.
Gofynion y Gymraeg:
Dim.
Cwrs Prentisiaeth:
Prentisiaeth Lefel 2 mewn Gwasanaeth Cwsmer neu Brentisiaeth Lefel 2 mewn Busnes a Gweinyddu.
Cyflog:
Isafswm Cyflog Cenedlaethol, sy’n dechrau ar £7.50 yr awr.
Oriau:
Llawn amser, 36.5 awr yr wythnos. Dydd Llun – dydd Iau, 9:00am – 5:00pm, Dydd Gwener 9:00am – 4:00pm.
Contract cyfnod penodol 14 mis ar gyfer hyd y brentisiaeth.
Trefniadau Cyfweliadau:
Cyfweliad wyneb-yn-wyneb neu dros Teams yn Pitman Training.
Gwneud Cais:
Anfonwch e-bost eglurhaol a’ch CV i Phill.johnson@pitman-training.com.
Wedi’i lleoli yng nghanol dinas Caerdydd, gyferbyn â Chastell hanesyddol Caerdydd, mae ein canolfan hyfforddi yn hawdd ei lleoli ac mae’n cynnig awyrgylch cyfeillgar a hamddenol cynnes. Yn Pitman Training Caerdydd rydym yn helpu i hybu hyder pobl, yn eu helpu i ddysgu sgiliau newydd a gwneud unigolion yn fwy effeithiol yn y gweithle.
Argymhelliad ar gyfer Pitman Training gan eu prentis blaenorol…
“Fel prentis yn Pitman Caerdydd, rwyf wedi cael y cyfle i weithio a dysgu mewn amgylchedd cefnogol iawn. Bydd y tîm yma yn eich helpu chi i ddysgu sut i wneud yr holl swyddi amrywiol y byddwch chi’n eu gwneud yn Pitman. Bob dydd rydych chi’n cael gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol, p’un a yw’n delio ag ymholiadau, yn argyhoeddi arholiad neu’n cyfarch cwsmeriaid. Byddwch hefyd yn cael mynediad am ddim i gyrsiau i amrywio eich set sgiliau ymhellach. Mae’r myfyrwyr yma yn hyfryd ac maent bob amser yn wych i sgwrsio â nhw, rydych chi wir yn dod i adnabod gyda phwy rydych chi’n gweithio. Ar y cyfan, rydw i wir wedi gwerthfawrogi fy amser fel prentis yn Pitman, y pethau mae’n rhaid i mi eu dysgu a’r bobl rydw i wedi’u cyfarfod.”
Job Category | Pitman Training |