Prentis Cogydd

Cogydd proffesiynol or Chef
Penfro
Posted 4 weeks ago

Cyfle cyffrous i Brentis Cogydd brwdfrydig ymuno â’n tîm yn y Old Kings Arms Hotel ym Mhenfro. Os ydych wrth eich bodd yn coginio ac yn awyddus i ddysgu a datblygu eich sgiliau, dyma’r cyfle perffaith i chi!

Amdanom ni

Yn cael ei adnabod yn annwyl fel ‘The Kings’, rydym wedi ein lleoli yng nghanol tref swynol Penfro. Mae’r dafarn draddodiadol Gymreig hon wedi croesawu teithwyr blinedig ers yr 16eg ganrif ac mae’n parhau i fod yn hwb i ail-lenwi ac adfer. Mae Old Kings Arms Hotel & Restaurant wedi cael ei wobrwyo â Gwobr Ragoriaeth gan Booking.com yn 2024, ac fe’i dyfarnwyd yn ‘Rhagorol’ ar TripAdvisor. Mae ganddo sgôr tair seren gyda Croeso Cymru ac fe’i gwelwyd yn ddiweddar yn y UK Good Beer Guide 2024!

Dyletswyddau:

Bydd dyletswyddau dyddiol yn cynnwys paratoi a choginio llysiau, pwdinau, prydau oer a phoeth. Cwblhau tasgau glanhau a chynorthwyo’r cogyddion i redeg y gegin.

Priodoleddau personol dymunol: 

Mae agwedd yn bwysicach na chymwysterau gyda’r person cywir yn chwaraewr tîm sydd â diddordeb gwirioneddol mewn coginio a bwyd.

Mae rhinweddau personol dymunol yn cynnwys brwdfrydedd, awydd i ddysgu a hyblygrwydd.

Buddion allweddol: 

  • Rhannu ‘tips’.
  • Mentora un-i-un gyda chogydd profiadol ac aeddfed mewn gwesty bach, anibynnol.
  • Prif gogydd gyda chefndir mewn asesu NVQ.

Cymwysterau angenrheidiol: 

Bydd lefel dda o rifedd yn fuddiol.

Gofynion y Gymraeg: 

Dim.

Cwrs Prentisiaethau: 

Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol.

Cyflog:

Gan ddechrau ar Isafswm Cyflog Cenedlaethol, bydd eich cyflog yn cynyddu wrth i chi ddatblygu eich sgiliau a’ch profiad.

Oriau: 

Bydd oriau gwaith tua 40 awr yr wythnos dros 5 diwrnod, gan gynnwys y penwythnos a gwyliau banc.

Trefniadau cyfweliadau: 

Cyfarfod ar y safle.

Gwneud cais: 

Byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych! E-bostiwch ni trwy info@oldkingsarmshotel.co.uk ac ysgrifennwch ychydig amdanoch chi’ch hun a pham mae gennych ddiddordeb mewn ymuno â ni.

 

Job CategoryOld Kings Arms Hotel