Angela Maguire-Lewis
Cyfarwyddwr Llywodraethu
Angela Maguire-Lewis yw Cyfarwyddwr Llywodraethu Hyfforddiant Cambrian. Daw â bron i dri degawd o brofiad yn y sectorau dysgu a phrentisiaethau seiliedig ar waith, gan ei bod wedi ymroi ei gyrfa i wella cyfleoedd addysgol i bob dysgwr a darparu hyfforddiant o ansawdd uchel ledled y DU. Dros gyfnod ei thaith 29 mlynedd, mae wedi cael y fraint o weithio mewn rolau blaenllaw ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac mae wedi ei galluogi i ddatblygu dealltwriaeth eang o anghenion amrywiol dysgwyr a chyflogwyr.
Dechreuodd gyrfa Angela yn 1994 fel aseswr gyda’r Hotel and Catering Training Company yng Nghaerdydd. Ysbrydolodd y rôl gychwynnol hon ei hangerdd am hyfforddiant prentisiaeth ac ers hynny mae wedi ymrwymo i ehangu mynediad at brentisiaethau tra’n canolbwyntio ar ansawdd, tryloywder a chydraddoldeb. Wrth i Angela ddatblygu yn ei gyrfa, mae hi wedi cael cyfle i arwain mentrau sy’n meithrin twf o fewn hyfforddiant prentisiaethau, a gweithio gyda chyflogwyr yn y sector cyhoeddus a phreifat i ddarparu rhaglenni prentisiaeth arloesol, effaith uchel.
Trwy gydol ei gyrfa, mae wedi cael y fraint o weithio mewn ystod o ddarparwyr hyfforddiant prentisiaethau, lle mae hi wedi hyrwyddo datblygiad rhaglenni sydd ar flaen y gad o ran anghenion y diwydiant. Trwy gymysgu galluoedd amlsector, hyfforddwyr arbenigol, a thechnoleg flaengar, meddai “gallwn sicrhau bod rhaglenni prentisiaeth wedi datblygu i fod yn effeithiol ac yn hyblyg, gan baratoi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr medrus ar gyfer marchnad swyddi sy’n datblygu’n gyflym.”
Y tu hwnt i’w chyfrifoldebau o ddydd i ddydd, mae hi wedi chwilio am gyfleoedd i ddarparu llywodraethu a mewnwelediad strategol ar lefel ehangach. Mae Angela wedi bod yn aelod gweithgar o nifer o Fyrddau a Phwyllgorau Sgiliau, gan gynnwys ei rôl fel Aelod Bwrdd Cymwysterau Cymru, ac aelod presennol o Fwrdd NTfW. Yn y swyddi hyn, mae hi wedi cefnogi sefydliadau i rannu polisïau, gan sicrhau bod anghenion prentisiaid, cyflogwyr a’r economi ehangach yn cael eu diwallu.