Ni fydd Michael Ramsden, y swyddog hyfforddiant lletygarwch, byth yn anghofio 2016. Yn ogystal â chael ei gynnwys ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru, mae’r pen-cogydd 29 oed wedi cael ei ddethol gan Dîm Celfyddyd Goginio Cymru i gystadlu yn y Gemau Olympaidd Coginio yn yr Almaen ym mis Hydref.
Mae Michael, sydd yn gweithio i Gwmni Cambrian Training yn y Trallwng, yn byw yng Nghaerdydd ac mae ei wreiddiau teuluol yn Llandrindod, lle’r oedd yn berchen ar fistro a busnes arlwyo cyn eu gwerthu.
Mae’n angerddol tu hwnt am ei waith. Mae’n hyfforddi ac yn datblygu pen-cogyddion ifanc, yn rhannu technegau arloesol diweddaraf celfyddyd goginio ac yn dod o hyd i leoliadau iddynt mewn ceginau blaenllaw er mwyn hybu eu sgiliau a’u profiad.
Oherwydd ei angerdd am hyfforddiant, mae wedi cael ei gynnwys ar y rhestr fer ar gyfer Asesydd Dysgu Seiliedig ar Waith y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru eleni, a gynhelir yn Venue Cymru, Llandudno ar 20 Hydref. Yn drist iawn, oherwydd ei ymrwymiadau gyda’r Gemau Olympaidd Coginio dros Gymru, ni fydd yn gallu mynychu.
Mae’r gwobrau blaenllaw, a drefnir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), yn dathlu cyflawniadau eithriadol unigolion, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygu rhaglenni Hyfforddeiaeth, Twf Swyddi Cymru a Phrentisiaethau Llywodraeth Cymru.
Noddir y Gwobrau gan Pearson PLC gyda chymorth partner y cyfryngau, Media Wales.
Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
“Rwyf bob amser wedi bod yn angerddol am hyfforddi pen-cogyddion,” dywedodd Michael. “Mae nid yn unig yn gyflawniad ond mae’n anrhydedd mawr gweld rhywun yn llwyddo ac yn gwneud yn dda yn eu bywydau.”
Ar ôl gadael yr ysgol yn 16 oed, daeth yn brentis pen-cogydd yn Nh? Llety Gwledig Brynafan, Rhayadr ac aeth ymlaen i weithio yng Ngwesty Lake Country House, Llangammarch a Gwesty’r Belle Vue, Aberystwyth.
Achubodd ar y cyfle ddwy flynedd yn ôl i ymuno â Chwmni Cambrian Training, oedd wedi cyflwyno ei brentisiaeth. Bellach mae’n gyfrifol am gyflwyno prentisiaethau lletygarwch a chymwysterau coginio proffesiynol a chrefft goginio yr AAA, sydd wedi eu teilwra i fodloni anghenion pen-cogyddion a’u cyflogwyr, yn cynnwys Gwesty’r Celtic Manor, Casnewydd a SA Brains, Caerdydd.
Ar hyn o bryd, mae’n gweithio tuag at Wobr Sicrwydd Ansawdd Mewnol, fydd yn ei alluogi i fod yn ddilyswr mewnol ac ef yw prif asesydd y cwmni ar gyfer y brentisiaeth crefft goginio, y safon aur ar gyfer y diwydiant.
Mi wnaeth Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, longyfarch Michael a’r 32 ymgeisydd arall ar y rhestr fer. “Rydym yn falch o ddarparu un o’r rhaglenni prentisiaeth mwyaf llwyddiannus yn Ewrop gyda chyfraddau llwyddiant yng Nghymru yn dal ymhell uwchlaw 80 y cant,” dywedodd.
“Mae datblygu pobl â sgiliau yn hanfodol i’n heconomi. Mae gennym brentisiaid eithriadol yma yng Nghymru ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn llwyfan perffaith i ni ddathlu eu gwaith caled a’u cyflawniad. Mae’r darparwyr dysgu a’r cyflogwyr, sydd yn mynd y tu hwnt i’r disgwyliadau i gefnogi eu prentisiaid, yr un mor bwysig.”
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Duncan Foulkes ar Ffôn: 01686 650818 neu 07779 785451 neu e-bost: duncan.foulkes@btinternet.com neu Karen Smith, rheolwr cyfathrebu a marchnata NTfW, ar Ffôn: 02920 495861.