Beth yw Prentisiaeth?

Mae prentisiaeth yn ffordd i ddysgwyr ifanc ac mewn oed fel ei gilydd i ennill wrth ddysgu mewn cyflogaeth, gan ennill cymhwyster galwedigaethol a dyfodol go iawn. Bydd cyflogi prentisiaid neu hyfforddi’r staff sydd gennych yn helpu’ch busnes i feithrin ei ddoniau ei hun gan ddatblygu gweithlu uchel ei gymhelliant, medrus a chymwys.

Rhaglen o ddysgu a chymwysterau yw prentisiaeth, a gwblheir yn y gweithle sy’n rhoi’r sgiliau, y wybodaeth, yr hyder a’r gallu y mae eu hangen ar weithwyr i symud ymlaen yn eu dewis gyrfa neu ddiwydiant.

Credwn mai’r allwedd i brentisiaethau yw darparu hyfforddiant ansawdd uchel a fydd o fantais i brentisiaid a chyflogwyr yn y gweithle.

Mae rhaglenni prentisiaeth yn dilyn ‘Fframwaith Cenedlaethol’ cymeradwy i alluogi dysgwyr cyflogedig i gyflawni eu Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (FfCCh) ar lefelau 2, 3, 4 ac uwchlaw hynny gyda sgiliau hanfodol priodol yn unol â’r lefel ddynodedig. Fel rhan o’r fframwaith, bydd angen i chi hefyd gwblhau dau aseiniad – Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogaeth ac Iechyd a Diogelwch.

Mae fframweithiau bellach ar gael ar draws y rhan fwyaf o sectorau galwedigaethol ledled Cymru. Cynigiwn fframweithiau ar draws y meysydd canlynol:

Fframwaith Prentisiaeth:

Apprenticeship-flow-chart_CYM_637

Lefelau Prentisiaethau

Mae tair gwahanol fath o brentisiaeth oherwydd bod angen gwahanol lefelau cymwysterau ar wahanol swyddi, rhai’n uwch nag eraill. Bydd y lefel y gallwch wneud cais amdani’n dibynnu ar y sgiliau a’r cymwysterau sydd gennych ar hyn o bryd.

Mae prentisiaethau ar gael yn y tair lefel ganlynol ar gyfer pobl 16 oed neu’n h?n;

1. Prentisiaethau Sylfaen (cyfwerth â phum gradd llwyddo da mewn TGAU)
Mae’r prentisiaid yn gweithio tuag at gymwysterau dysgu yn y gweithle fel NVQ Lefel 2 ac yn darparu’r sgiliau y mae ar brentisiaid eu hangen ar gyfer eu dewis gyrfa ac yn caniatáu mynediad i Brentisiaeth.

2. Prentisiaeth (cyfwerth â dwy radd llwyddo mewn Safon Uwch)
Mae’r prentisiaid yn gweithio tuag at gymwysterau dysgu yn y gweithle fel NVQ Lefel 3.

Er mwyn dechrau ar y lefel hon, dylai prentisiaid feddu ar bum gradd TGAU (gradd C neu uwch) neu wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen yn ddelfrydol.

3. Prentisiaethau Uwch
Mae Prentisiaethau Uwch yn gweithio tuag at gymwysterau dysgu yn y gweithle fel NVQ Lefel 4 neu 5.

I bwy maen nhw?

Mae prentisiaethau ar gael i bobl o bob oedran, boed yn cael eich cyflogi fel prentis mewn swydd newydd neu fel rhan o hyfforddiant yn eich gweithle presennol ar hyd a lled Cymru.

Cysylltwch â Ni

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflogi prentis, neu ddechrau ar raglen Brentisiaeth, cysylltwch â ni i drafod eich dewisiadau a sut gallwn ni eich cefnogi chi:
E-bost: info@cambriantraining.com  |  Ffôn: 01938 555893

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu y rhan fwyaf o gostau hyfforddi’r prentisiaid.