Gorffen coleg ym mis Mehefin a meddwl tybed beth i’w wneud nesaf? Beth am feddwl am brentisiaeth?
Beth yw prentisiaeth?
Mae prentisiaeth yn ffordd i bobl ifanc ac oedolion ennill cymwysterau wrth weithio a chael profiad ymarferol bywyd go iawn.
Mae prentisiaethau ar gael ar draws ystod o sectorau gan gynnwys; TG, y gyfraith, rheoli, lletygarwch, gweithgynhyrchu bwyd, rheoli adnoddau, manwerthu a mwy.
Mae’r hyfforddiant a ddarperir yn dilyn Fframwaith Cenedlaethol sy’n eich galluogi i ennill cymwysterau o lefel 2 hyd at lefel gradd, ond trwy ymgymryd â phrentisiaeth ni fydd rhaid mynychu darlithoedd, bydd dim dyled myfyrwyr a byddech chi’n dysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i gyflawni eich nodau gyrfa.
Pam dod yn Brentis:
- Rydych chi’n dysgu yn y swydd
- Ennill wrth ddysgu
- Ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad ac wynebu heriau newydd
- Ennill cymwysterau cydnabyddedig y mae cyflogwyr yn eu parchu
- Cyfleoedd dilyniant rhagorol, p’un ai am astudio ymhellach neu ddringo’r rhengoedd yn y gweithle
- Dysgu ar gyflymder sy’n addas i chi gyda chefnogaeth swyddog hyfforddi
Mae yna lawer o resymau gwych i gofrestru fel prentis ar ôl gadael y coleg, os ydych chi am ddarganfod mwy ewch i’r Gwasanaeth Paru Prentisiaethau lle gallwch chi gofrestru a chwilio am y prentis a fydd yn addas i chi.
Mae gennym lawer o swyddi gwag ar gael ar ein gwefan hefyd, cliciwch YMA i’w gweld.
Os ydych chi’n gyflogwr a bod gennych ddiddordeb mewn llogi prentis, cysylltwch â’n tîm – info@cambriantraining.com