Mae cigydd gogledd-ddwyrain Cymru, Ben Roberts, yn barod ar gyfer her fwyaf ei yrfa wrth iddo herio chwech arall yn rownd derfynol cystadleuaeth Cigyddiaeth WorldSkills UK 2021.
Bydd y gystadleuaeth fawreddog, a gynhelir yng Ngholeg Reaseheath, Nantwich ar Dachwedd 11 a 12, yn gweld cigyddion gorau Prydain ac Iwerddon yn cael eu herio ar draws ystod o wahanol dasgau, i arddangos eu sgiliau gan gynnwys arloesedd, creadigrwydd, cyflwyniad, moeseg gwaith, dull ac ymagwedd, i dasgau, carcas a Defnydd cysefin, gwastraff ac arferion gweithio diogel a hylan.
Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn un o noddwyr y gystadleuaeth unwaith eto, fel rhan o’i ymrwymiad i ddatblygu’r sector cigyddiaeth a sicrhau bod y diwydiant cig coch yn llwybr gyrfa ddeniadol i ieuenctid Cymru.
Mae Ben, 29, yn aelod o Dîm Cigyddiaeth Crefft Cymru, ac yn rheoli Cigyddion Traddodiadol M.E. Evans yn Owrtyn Is-coed, aelod o Glwb Cigyddion Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru HCC. Enillodd ei le yn y rownd derfynol trwy ragbrofion rhithiol lle cafodd cigyddion eu beirniadu ar-lein.
“Rwyf wedi bod eisiau cystadlu yn WorldSkills ers sawl blwyddyn, ond wedi cael trafferth neilltuo’r amser sydd angen ar gyfer y gystadleuaeth i’w gwneud yn bosibl tan eleni,” meddai.
“Rwyf wedi cael fy newis i gynrychioli Tîm Cigyddiaeth Crefft Cymru yn Her Cigyddion y Byd fis Medi nesaf 2021 a bydd cystadleuaeth WorldSkills yn caniatáu i mi ddatblygu sgiliau a phrofiad allweddol i symud ymlaen i’r llwyfan byd-eang hwn.
“Gobeithio y bydd y sgiliau a’r profiad a gaf o’r ddwy gystadleuaeth yn mynd i fod o fudd i’r busnes ac un diwrnod yn caniatáu i mi redeg fy siop fy hun.”
Dywedodd Uwch Swyddog Datblygu’r Farchnad HCC, Laura Howells,
“Yn dilyn llwyddiant cyn-ymgeiswyr o Gymru yn y gystadleuaeth hon fel Matthew Edwards a Peter Rushforth, mae’n wych gweld Ben yn y rownd derfynol eleni.
“Nawr yn fwy nag erioed mae’r sector yn dibynnu ar gigyddion tra medrus, mewn siopau annibynnol ac mewn proseswyr mwy. Mae cigyddiaeth dda yn gyrru arloesedd cynnyrch, ac yn helpu i leihau gwastraff bwyd.”
Trefnir y gystadleuaeth gan ddarparwr hyfforddiant Cymru gyfan Hyfforddiant Cambren a’i gefnogi gan Grŵp Llywio’r Diwydiant. Yn ogystal â HCC mae’n cael ei noddi gan The Institute of Meat, The National Craft Butchers, The Worshipful Company of Butchers a’i gefnogi gan FDQ.