Author: Alison Gill
Mae Rhiannon Morris, 18 oed, wedi mynd o wneud cinio dydd Sul yn ei chartref yn blentyn ifanc i ddod yn gogydd prentis arobryn yn The Lion Hotel yn Llandinam. Dechreuodd Rhiannon, sy’n byw yn Llandinam, weithio yng nghegin y gwesty pan oedd hi’n 15 oed ac yn astudio am ei harholiadau TGAU. Parhaodd i… Read more »
Mae 36 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant o bob cwr o Gymru wedi’u dewis i rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau mawreddog Cymru eleni yn dilyn nifer uwch nag erioed o geisiadau. Daw’r gwobrau chwenychedig, a drefnir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) i uchafbwynt gyda seremoni gyflwyno a chinio… Read more »
Mae unigolyn graddedig a oedd yn ddi-waith am flwyddyn cyn ennill swydd ei breuddwydion wedi’i hanrhydeddu mewn digwyddiad sy’n dathlu carreg filltir i Dwf Swyddi Cymru. Chloe Bignell o Lanelli yw’r 10,000fed person i sicrhau swydd gyda Thwf Swyddi Cymru, sef rhaglen Llywodraeth Cymru a gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, sy’n cynnig cyfle am swydd… Read more »
Mae pedwar uwch gogydd dawnus ar ddeg o bob cwr o Gymru’n paratoi am her rownd derfynol pwysau uchel i gwblhau cymhwyster arloesol. Os byddant yn llwyddiannus, nhw fydd y cogyddion cyntaf yn y DU i gwblhau’r Uwch Brentisiaeth i Gogyddion, cymhwyster lefel uchel sy’n arddangos eu sgiliau crefft a gwybodaeth. Ar gyfer eu hasesiad… Read more »
Daeth y cigydd ifanc dawnus, Matthew Edwards, yn agos iawn at y brig yn seremoni wobrwyo Dysgwr VQ y Flwyddyn Cymru ar Ddiwrnod VQ ar gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd. Roedd Matthew, 22 oed, sy’n gweithio i S.A. Vaughan Family Butchers, Penyffordd, ger Caer, o blith chwech yn y rownd derfynol o bob cwr o… Read more »
Mae’r cigydd dawnus o Gymru, Matthew Edwards eisoes wedi profi ei fod ben ac ysgwyddau uwchlaw’r gweddill trwy ennill cystadleuaeth Cigydd Ifanc Cymru a chael ei ddewis i gynrychioli Prydain Fawr mewn cystadleuaeth sgiliau Ewropeaidd. Mae Matthew, 22 oed, sy’n gweithio i S. A. Vaughan Family Butchers, Penyffordd, ger Caer, yn hyfforddi ar gyfer y… Read more »
Mae cydweithwyr, ffrindiau ac aelodau teulu rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian Katy Godsell a Banc Barclays wedi dod at ei gilydd i godi £2,526 i Gronfa Ganser Lingen Davies yn Ysbyty Brenhinol yr Amwythig. Cymerodd 76 o bobl, yn amrywio o 87 oed i blant bach mewn pram, ran yn Ras 5K Elusennol Cambrian llwyddiannus… Read more »
Dewiswyd dau gigydd ifanc o Gymru i gynrychioli Prydain Fawr mewn cystadleuaeth sgiliau Ewropeaidd. Mae Matthew Edwards, 22 oed, sy’n gweithio i S. A. Vaughan Family Butchers, Pen-y-ffordd, ger Caer, wedi dechrau hyfforddi ar gyfer y gystadleuaeth Ewropeaidd yn y Swistir ym mis Medi, tra bydd Peter Rushforth, sy’n 18 oed o Swans Farm Shop,… Read more »
Mae tîm o gogyddion o Ganolbarth Cymru wedi rhoi’r ardal ar y map trwy ennill cystadleuaeth fawreddog Brwydr y Ddraig ym mhrif ddigwyddiad coginio’r wlad. Dan arweiniad yr aelod profiadol o Dîm Coginio Cenedlaethol Cymru, Nick Davies, Cogydd-Perchennog y Lion Hotel, Llandinam, brwydrodd y tîm yn erbyn her gref o ardaloedd Gogledd a De Cymru… Read more »
Rhoddodd cydweithwyr a ffrindiau Katy Godsell, sef rheolwraig marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian, eu dwylo’n ddwfn yn eu pocedi dros ?yl y Nadolig i godi £553 ar gyfer Cronfa Ganser Lingen Davies yn Ysbyty Brenhinol yr Amwythig. Mae Katy, sy’n gweithio ym mhencadlys y cwmni hyfforddiant arobryn yn y Trallwng, newydd gwblhau triniaeth ar gyfer canser… Read more »