Author: Alison Gill

Enwyd Parc Antur a Sw Fferm Ffoli yng Nghilgeti fel y Diwrnod Allan Gorau yng Nghymru 2015 yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru. Roedd hi’n noson lwyddiannus hefyd i fusnesau eraill Gorllewin Cymru gyda Clydey Cottages ym Moncath yn cael ei enwi fel y Lle Gorau i Aros yn y categori hunanarlwyo a The Grove yn… Read more »

Mae’r cyflwynydd teledu a’r ffermwr o Suffolk, Jimmy Doherty o’r ‘Jimmy’s Farm’ enwog, wrth ei fodd y bydd cigyddion dawnus yn cael cyfle i gystadlu yn WorldSkills UK am y tro cyntaf eleni. Mae Doherty yn annog cigyddion i beidio â cholli’r dyddiad cau ar 20 Mawrth i gofrestru ar-lein er mwyn arddangos eu sgiliau… Read more »

Dychwelodd Matthew Edwards, Prentis Sylfaen y Flwyddyn 2014, i’w wreiddiau’r wythnos hon i ysbrydoli myfyrwyr yn Ysgol Uwchradd Castell Alun yn Wrecsam. Mae Matthew yn rhan o dîm ‘Llysgenhadon Prentisiaeth’ sy’n gweithio gydag Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru i deithio’r wlad i annog pobl ifanc i ddilyn y llwybr prentisiaeth a chymryd un o’r… Read more »

Gydag Wythnos Prentisiaethau ar y gorwel, mae athrawes a mam i dri o blant o Sir Gaerfyrddin yn annog eraill i ystyried dilyn prentisiaeth uwch er mwyn rhoi hwb i’w gyrfa. Mae Wythnos Prentisiaethau (9-13 Mawrth) yn dathlu effaith bositif prentisiaeth ar unigolion a busnesau ac yn dathlu sgiliau a thalentau prentisiaid ymhlith cyflogwyr a’r… Read more »

Bydd cigyddion dawnus ledled y DU yn cael cyfle i arddangos eu sgiliau yng Nghystadleuaeth Genedlaethol Worldskills UK mewn Cigyddiaeth am y tro cyntaf eleni. Penodwyd y darparwr hyfforddiant arobryn, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, yn y Trallwng, i drefnu’r gystadleuaeth cigyddiaeth ar ran WorldSkills UK. Mae’r ceisiadau’n agor ar ddydd Llun, 9 Chwefror a gall cigyddion… Read more »

Achosodd Peter Rushforth, sef cigydd 19 oed dawnus, gynnwrf trwy guro pencampwr y llynedd yn rownd derfynol Cystadleuaeth Cigydd Ifanc Cymru 2014 yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-Muallt, ar ddydd Mawrth. Llwyddodd Peter o Swans Farm Shop, Treuddyn, Yr Wyddgrug, a gymerodd ran yn y gystadleuaeth am y tro cyntaf y llynedd, i greu… Read more »

Mae ymateb i anghenion cyflogwyr a dysgwyr trwy gyflwyno Fframweithiau Prentisiaeth newydd i Gymru wedi cynnal statws Cwmni Hyfforddiant Cambrian fel un o brif ddarparwyr dysgu’r wlad. Erbyn hyn, mae’r cwmni yn y Trallwng yn ymryson i ennill gwobr Darparwr Prentisiaethau’r Flwyddyn am yr eildro mewn tair blynedd yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2014. Mae Cwmni… Read more »

Mae’r ymgyrch flynyddol ar waith i ddod o hyd i gigydd ifanc gorau Cymru, a allai agor y drws i lwyddiant rhyngwladol. Bydd Cystadleuaeth Cigydd Ifanc Cymru 2014 yn dwyn ynghyd gigyddion mwyaf dawnus y wlad yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-Msuallt ar ddydd Mawrth, 2 Rhagfyr. Byddant yn cael cyfle i ddangos eu… Read more »

Mae un o bacwyr adwerthu mwyaf y DU, sy’n cyflogi 600 o bobl yng Ngorllewin Cymru, wedi’i gynnwys ar restr fer am wobr prentisiaeth genedlaethol fawreddog. Mae Dunbia, sydd â lleoliad yn Llanybydder yn Sir Gaerfyrddin, yn rownd derfynol categori Cyflogwr Mawr y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru 2014 a bydd yn mynychu seremoni wobrwyo… Read more »

Mae dau gigydd o fri o Ogledd-ddwyrain Cymru wedi profi eu bod nhw ben ac ysgwyddau uwchlaw’r gweddill trwy gael eu cynnwys ar restr fer am wobrau prentisiaeth cenedlaethol mawreddog. Mae Tom Jones, 24 oed, sy’n rhedeg Jones’ Butchers yn Llangollen, yn rownd derfynol Prentis Entrepreneuraidd y Flwyddyn, ac mae Matthew Edwards, 22 oed, sy’n… Read more »