Author: Alison Gill
Daeth dros 200 o westeion uchel eu proffil o bob cwr o’r diwydiant lletygarwch ac arlwyo at ei gilydd am y Gwobrau Mentor-Gogyddion cyntaf erioed i gydnabod y mentoriaid mwyaf ysbrydoledig yn y sector. Ymhlith yr enillwyr oedd Albert Roux OBE; gwobrwywyd Gwobr arbennig Peter Hazzard iddo am ei ymrwymiad gydol oes i hyfforddi a… Read more »
Cydnabuwyd llywydd Cymdeithas Coginiol Cymru gan gogyddion o gwmpas y byd am ei waith yn hyrwyddo’r celfyddydau a’r proffesiwn coginio. Yng Nghyngres ac Expo Worldchefs yn Kuala Lumpur, Malaysia, cyflwynwyd Medal y Llywydd fawreddog i Arwyn Watkins, OBE, sef rheolwr gyfarwyddwr y darparwr hyfforddiant arobryn, Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng. Mae’r fedal hon, a… Read more »
Profodd y cigydd ifanc Robbie Hughan ei fod ben ac ysgwyddau uwchlaw’r gweddill wrth iddo guro’i gyd-gystadleuwyr yn rhabrawf yr Alban o gystadleuaeth Cigyddiaeth fawreddog WorldSkills UK ddoe (Dydd Mawrth). Gwnaeth Robbie, sy’n gweithio i Blair Drummond Smiddy Farm Shop, Stirling, guro’i gydweithiwr Euan McLagan ac Erin Conroy o Falleninch Farm, Stirling i ennill trydedd… Read more »
Mae asiantaeth recriwtio lwyddiannus yn Wrecsam wedi manteisio ar raglen TwfSwyddi Cymru (TSC) Llywodraeth Cymru i gynyddu ei gweithlu trwy fanteisio ar y gronfa o dalent ifanc ddi-waith yng Ngogledd Cymru. Mae Recruit4staff, sydd â thîm o 17 aelod o staff, wedi recriwtio pum gweithiwr trwy’r rhaglen. Aeth pedwar ohonynt ymlaen i swyddi parhaol yn… Read more »
Fis nesaf, bydd Pentref Cymdeithas Coginiol Cymru yn ganolog i’r H&C EXPO cyntaf, sef y sioe fasnach diwydiant lletygarwch ac arlwyo cymysg cyntaf i ddigwydd yn y wlad. Cymdeithas Coginiol Cymru (CCC) oedd un o’r cefnogwyr cyntaf i fod yn gefn i’r arddangosfa newydd a gynhelir yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 17 a 18… Read more »
Bydd tri chigydd yn rhoi eu sgiliau ar brawf yn rhagbrawf yr Alban o gystadleuaeth fawreddog Cigyddiaeth WorldSkills UK. Coleg Dinas Glasgow yw lleoliad y rhagbrawf ar 26 Mehefin lle bydd Robbie Hughan ac Euan McLagan o Blair Drummond Smiddy Farm Shop, Stirling ac Erin Conroy o Falleninch Farm, Stirling yn torchi llewys. O’r tri… Read more »
Dangosodd cigydd o’r gororau pwy oedd biau’r fwyell yn rhagbrawf Cymru a Lloger o gystadleuaeth fawreddog Cigyddiaeth WorldSkills UK yn Birmingham ddoe (dydd Mawrth). Peter Smith, sy’n gweithio i Jamie Ward Butchers, Yr Ystog, oedd yn fuddugol gan lai na hanner marc yn dilyn y rhagbrawf brwd o ran y cystadlu yng Ngholeg Prifysgol Birmingham.… Read more »
Bydd tri chigydd o Gymru’n profi eu sgiliau yn Birmingham ar ddydd Mawrth wrth iddynt gynnig am le yn rownd derfynol cystadleuaeth gigyddiaeth fawreddog WorldSkills UK. Coleg Prifysgol Birmingham yw lleoliad rownd Cymru a Lloegr a fydd yn gweld pedwar cigydd dawnus ar waith – Craig Holly o Neil Powell Butchers, Y Fenni, Peter Smith… Read more »
Enillwyd rownd Gogledd Iwerddon cystadleuaeth fawreddog Cigyddiaeth WorldSkills UK gan Dylan Gillespie o Clogher Valley Meats, Clogher, Tyrone. Mae Dylan, sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Cigyddiaeth WorldSkills UK dros y tair blynedd diwethaf, wedi rhoi ei enw ymlaen unwaith eto i gymhwyso am y rownd derfynol eleni yn y Sioe Sgiliau yn yr NEC Birmingham… Read more »
Bydd helfa genedlaethol yn dechrau yng Ngogledd Iwerddon yr wythnos nesaf i ddod o hyd i gigydd gorau’r DU, lle cynhelir dau ragbrawf o gystadleuaeth gigyddiaeth fawreddog WorldSkills UK. Lleoliad y gystadleuaeth ar ddydd Mawrth 5 Mehefin fydd y Southern Regional College yn Newry ar gyfer rhagbrofion Gogledd Iwerddon a fydd yn gweld chwe chigydd… Read more »