Ym mis Ebrill 2015, cafodd Arwyn anrhydedd trwy gael ei ethol yn Llywydd Cymdeithas Coginiol Cymru yn dilyn ei ymddeoliad fel prif ymgynghorydd i Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a arferai gadeirio; mae Arwyn yn Rheolwr Gyfarwyddwr ac yn Gadeirydd ar Gwmni Hyfforddiant Cambrian, sef enillydd Darparwr Prentisiaethau’r Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau 2013.
Derbyniodd Arwyn ei OBE yn 2018 am ei wasanaethau i Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ac mae Arwyn yn parhau i gynrychioli NTfW a Chwmni Hyfforddiant Cambrian ar nifer o Gyrff Rhanbarthol a Chenedlaethol gan gynnwys Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru ac mae’n Gyfarwyddwr ac yn Ymddiriedolwr i’r British Food Trust.
Gweithgarwch craidd Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng yw cyflwyno rhaglenni prentisiaethau dysgu seiliedig ar waith a chyfleoedd Twf Swyddi Cymru ar gyfer Adran Addysg a Sgiliau (DfES) Llywodraeth Cymru.
Mae Arwyn yn haeru mai cryfder y cwmni yw ei berthynas weithio agos gyda diwydiant a’r gymuned ehangach gan fod hyn yn hollbwysig i ddyfodol cynaliadwy lle caiff anghenion hyfforddiant eu harwain gan y galw ac nid eu gyrru gan gyflenwad.
Mab fferm yw Arwyn a adawodd Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt ym 1978 i ymuno â’r Fyddin fel cogydd prentis ac mae wedi cynnal ei ymrwymiad i raglenni prentisiaeth ar hyd ei fywyd gwaith gyda ffocws cryf iawn ar ddatblygu pobl. Mae’n parhau i hyrwyddo rhaglenni prentisiaeth fel y safon aur mewn busnes a diwydiant.
Yn 2004, bu’n hyfforddi a mentora Tîm Coginio Cenedlaethol Iau Cymru i’w Medal Aur Olympaidd cyntaf ac roedd yn allweddol wrth redeg rhaglen beilot yng Nghymru, sydd wedi arwain at brentisiaeth arloesol, wedi’i harwain gan grefft i gogyddion ar y cyd â’r British Food Trust a Pearson. Yn ddiweddar, dyfarnwyd Medal y Llywyddion i Arwyn yng Nghyngres Cogyddion y Byd 2018 a gynhaliwyd yn KL Malaysia i gydnabod y gwaith gwych oedd yn cael ei wneud yng Nghymru ar gyfer y rhanbarth.