The Falcondale Hotel…
Pam benderfynoch chi ymhél â prentisiaethau?
Fe wnaethon ni benderfynu ymgysylltu â phrentisiaethau gan ein bod ni’n teimlo bod prentisiaethau’n ddelfrydol ar gyfer busnesau fel ni yn y diwydiant lletygarwch, felly gall ein gweithwyr ennill cymhwyster galwedigaethol a gydnabyddir yn genedlaethol a chymhwyso eu sgiliau a’u gwybodaeth newydd i’w rôl swydd.
Sut ydych chi’n credu bod ymhél â’r rhaglen brentisiaeth wedi dylanwadu ar eich staff? E.e. lefelau cynhyrchiant, cymhelliant, gwybodaeth.
Mae prentisiaethau yn gyfle i hyfforddi a thyfu ein gweithlu ein hunain er budd y busnes gorau. Mae hyfforddiant ochr yn ochr â chymhwyster cydnabyddedig yn rhoi gwell dealltwriaeth i’n gweithwyr o sut mae theori yn gweithio ac yn gwella eu sgiliau ymarferol.
Ydych chi’n credu bod prentisiaethau wedi cyfrannu at eich llwyddiant fel busnes? Os ydy, pam?
Mae prentisiaethau yn ffordd ddelfrydol o gyflwyno unigolion i’r diwydiant lle gallant symud ymlaen a chynyddu eu rhagolygon gyrfa. Mae’r sgiliau a ddysgir yn drosglwyddadwy i yrfaoedd eraill. Rydym wedi darganfod bod cadw staff yn uwch ar ôl cyflwyno prentisiaethau gan ei fod yn darparu nod personol yn ogystal â gyrfa i unigolion anelu ato.
A fyddech yn argymell y rhaglen Brentisiaeth i fusnesau eraill? Os felly, pam?
Byddem yn argymell yn benodol y cynllun prentisiaeth i’r diwydiant lletygarwch gan ei fod yn cyflwyno unigolion i ddewis gyrfa cyflawn na fydd llawer o ysgolion / colegau a chynghorwyr gyrfaoedd efallai wedi hyrwyddo cymaint ag eraill yn ystod y 10 i 15 mlynedd diwethaf, er gwaethaf y ffaith bod y roedd diwydiant yng Nghymru yn cyflogi dros 110,000 o bobl.