Mae’r fenter gymdeithasol yng Ngogledd Cymru, Antur Waunfawr, sydd yn cyflogi 100 o staff yn darparu gwaith, hyfforddiant a chyfleoedd iechyd a lles am dros 60 o bobl gydag anghenion dysgu, wedi ennill gwobr mewn gwobrau Prentisiaethau, Cyflogaeth a Sgiliau Hyfforddiant Cambrian.
Trodd y seremoni wobrwyo yn ddathliad triphlyg i Antur Waunfawr, sydd wedi’i lleoli yng Nghaernarfon, pan enillodd swyddog beiciau aml-sgiliau’r Cwmni, Jack Williams, wobrau Prentis Sylfaen y Flwyddyn a Llysgennad Cymraeg y Flwyddyn.
Dywedodd Gwenlli Wynne, Rheolwr Datblygiad Busnes Antur Waunfawr: “Mae derbyn y gwobrau hyn yn meddwl llawer i ni ac rydym yn diolch i bawb sydd wedi gwneud i hyn digwydd. Mae cael y cyfleoedd i gynnig cwrs prentisiaeth i’n staff yn y Gymraeg yn werthfawr iawn.”
“Hoffwn ddiolch i Amy Edwards o Hyfforddiant Cambrian am y gefnogaeth a roddodd hi i Jack Williams a Tom Workman drwy gydol eu prentisiaethau.”
Dywedodd Ellen Thirsk, Cadeirydd Gweithredol Antur Waunfawr: “Rydym yn falch iawn o ennill gwobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn ac yn llongyfarch Jack Williams ar ennill dwy wobr prentisiaeth. Llongyfarchiadau i bawb arall a gymerodd ran. Mae’n dda gweld pobl yn datblygu eu hunain.”
Yn angerddol am ddatblygu gweithwyr, mae’r cwmni wedi cefnogi 21 ar brentisiaethau yn amrywio o Lefelau 2 i 4 mewn Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy, Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Mae llawer o’u staff, sy’n Gymraeg iaith gyntaf, wedi cwblhau eu prentisiaethau yn eu hiaith gyntaf neu’n ddwyieithog.
Mae’r cwmni’n rhedeg pedwar busnes lleol cynaliadwy sy’n cymryd rhan mewn ailddefnyddio dodrefn, dillad a thecstilau, ailgylchu plastig, gwaredu papur, llogi beiciau, siop atgyweirio a gwasanaeth, caffi, siop grefftau, bragdy micro, a pharc a lotments natur saith erw.
Wedi’i sefydlu ym 1984, mae Antur Waunfawr yn cefnogi’r gwelliant parhaus o staff a phrosiectau, gan gynnig cyfleoedd i bobl ifanc leol i aros o fewn eu cymunedau trwy ddarparu cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth er mwyn cadw’r cyfoeth yn yr ardal.
Dywedodd Gwenlli Wynne: “Mae ein rheolwyr yn edrych ymlaen erioed ac yn diogelu ein prosiectau ar gyfer y dyfodol ac un o’r ffyrdd i gyflawni hyn yw trwy ddatblygu ein staff.
“Fel cwmni agos iawn, mae ein rheolwyr yn gwybod pob un o’r 100 o staff trwy enw ac nid rhif, yn gwneud yr amser i wybod pawb a deall eu cryfderau a’u gwendidau a gweithio gyda nhw. Rydym yn weld y potensial mewn pobl ac yn dod o hyd i’r hyfforddiant mwyaf cynaliadwy i bawb.”
Llongyfarchodd Faith O’Brien, Rheolwr Gyfarwyddwr Cambrian Training, Antur Waunfawr a’r enillwyr eraill a’r holl gystadleuwyr yn y rownd derfynol. “Cyflogwyr yw’r sbardun y tu ôl i lwyddiant prentisiaethau ac mae eu hymroddiad i ddarparu hyfforddiant a mentoriaeth o safon yn canmoladwy,” meddai. “Trwy gymryd rhan, maent yn agor drysau i brofiadau yn y byd go iawn, gan alluogi prentisiaid i gaffael y sgiliau ymarferol a’r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer eu dewis faes.”
Mae’r Rhaglen Prentisiaeth yng Nghymru wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth o’r Gronfa Gymdeithasol Ewrop.