Mae gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian Cyf hanes hir o ddarparu rhaglenni hyfforddiant sy’n helpu busnesau ac unigolion i dyfu a ffynnu.

Sefydlwyd y cwmni yn y Trallwng, Powys, ym 1995, fel is-gwmni Twristiaeth Canolbarth Cymru i ddarparu sgiliau galwedigaethol a oedd yn cefnogi datblygiad sector twristiaeth y rhanbarth.

Wedi’i enwi ar ôl Mynyddoedd Cambria enwog sy’n codi trwy galon Cymru, roedd y cymunedau, y bobl a’r busnesau yn y rhanbarth wrth wraidd yr hyn a oedd yn hanfod Hyfforddiant Cambrian.

 dirywiad mewn amaethyddiaeth a diboblogi gwledig, roedd hyfforddiant galwedigaethol ac ail-sgilio yn flaenoriaeth er mwyn helpu i gryfhau’r cyfleoedd economaidd yng Nghymru wledig.

Llwyddiant blaenorol rhagorol
Enillodd enw da i’w chwennych ledled y DU am ddarparu rhaglenni datblygiad a hyfforddiant o ansawdd uchel sydd yn eu tro wedi cefnogi’r sector twristiaeth cynyddol.

Yn 2002, prynodd y rheolwyr y sefydliad a daeth yn gwmni preifat, dan arweiniad tîm profiadol a oedd wedi ymrwymo i gynnal ei sylfaen yng Nghanolbarth Cymru wrth ehangu’n ddaearyddol.

Ers hynny mae’r cwmni wedi ehangu, gan ledu ei raglenni prentisiaeth a sgiliau a dysgu yn y gwaith i feysydd lletygarwch, bwyd a diod, gweithgynhyrchu, manwerthu, gweinyddu busnes, gwasanaethau ariannol, gofal plant, iechyd a gofal cymdeithasol, ymhlith eraill.

Heddiw, mae’n gweithredu ledled Cymru â phencadlys pwrpasol yn y Trallwng, a swyddfeydd yng Nghaergybi, Bae Colwyn a Llanelli.

Ymgysylltu. Ysbrydoli. Llwyddo.

Ein cenhadaeth yw ymgysylltu â’r holl bobl ifanc, dysgwyr a chyflogwyr ledled Cymru i sicrhau eu bod yn ymwneud â rhaglenni hyfforddiant prentisiaeth o ansawdd.

Bydd hyn yn ysbrydoli busnesau, eu gweithlu, y genhedlaeth nesaf a’r gymuned ehangach i’w helpu a’u cefnogi i lwyddo i gyrraedd eu nodau gyrfa, busnes a bywyd.

 

Breuddwydio. Dysgu. Byw.

Rydym eisiau i bawb sylweddoli y gallant, trwy ddechrau ar eu taith prentisiaeth eu hunain, gyflawni eu breuddwydion, trwy ddysgu sgiliau a gwybodaeth newydd, ac ennill profiad a fydd yn eu helpu i fyw yn unol â’u nodau gyrfa a bywyd yn y pen draw.